Fy ngwlad:

Amgylchedd Cynaliadwy

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Ein bwriad yw hyrwyddo cynaliadwyedd mewn gweithgarwch ymchwil, busnes a menter.
Ewch i Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu sut rydym yn ymgorffori arferion cynaliadwyedd ar draws gweithrediadau’r brifysgol ac i ddarllen am y gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i genedlaethau'r dyfodol.

Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ansawdd ein hamgylchedd ym Mhrifysgol Bangor, ac rydym wedi ymrwymo i'w amddiffyn a'i wella. Mae hynny'n golygu meddwl am effeithiau popeth a wnawn, ac a ellir gwneud hynny’n well o safbwynt amgylcheddol. Gydag ystâd o dros 100 o adeiladau dros 346 hectar o dir, yn ogystal ag oddeutu 10,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, rydym yn cydnabod goblygiadau yr effaith a gawn ar yr amgylchedd. Gallwch ddysgu mwy ar ein tudalennau Rheolaeth Amgylcheddol.