Mae’r Clwb Llyfrau Lles i Staff wedi’i sefydlu i ddod â cydweithwyr at eu gilydd i drafod
llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar ein lles ac sy’n hwyluso ymdeimlad o gysylltiad a
pherthyn. Trwy gyfrwng geiriau pobl eraill, gallwn archwilio ein hemosiynau, cysylltu ag
eraill trwy rannu profiadau llenyddol ac ehangu ein dealltwriaeth o'r byd.
Mae'r clwb llyfrau yn fan diogel (ar-lein ac yn y cnawd) lle mae croeso i bawb. Nid oes
disgwyl i chi ddarllen ar goedd, bod wedi darllen y llyfr i gyd na gwybod y cynnwys yn
drylwyr. Mae’n ffordd i ni rannu ein dehongliad o’r hyn rydym wedi’i ddarllen, clywed
safbwyntiau eraill ac yn y pen draw dysgu sut i flaenoriaethu lles yn ein bywydau bob
dydd.
Hwylusir y sesiynau gan yr Hyrwyddwyr Lles Staff ac aelodau o Dimau Llyfrgell y
Brifysgol yn Wrecsam ac ym Mangor. Mae lleoedd ar gael yn y ddwy lyfrgell i
gydweithwyr ymuno â'r alwad gyda'i gilydd (os nad oes ganddynt fynediad hawdd at
liniadur neu ffôn i ymuno â'r alwad) a bydd copïau o'r llyfrau y byddwn yn eu darllen
gyda'n gilydd ar gael trwy gatalog llyfrgell y Brifysgol.
Llyfr Lles Mehefin: Dydd Mawrth 6, Mehefin 12:00pm-1:00pm (MS Teams)
Rest, gan Alex Soojung-Kim Pang (Awdur) Mae Rest yn llawn awgrymiadau hawdd ac ymarferol er mwyn cynnwys gorffwyso yn rhan o’n bywydau bob dydd, er enghraifft:
- Mynd am dro hir i ysgogi a chynnal creadigrwydd
- Trefnu cyfnodau o orffwys bwriadol yn eich dyddiadur i roi cynnig ar weithgareddau newydd megis paentio neu ddysgu iaith
- Rhoi'r gorau i weithio ar dasg pan fyddwch chi'n gwybod beth fydd y cam nesaf, bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi ailgydio ynddi y diwrnod wedyn
- Sefydlu ffiniau clir rhwng amser gwaith ac amser gorffwys
- Cael cwsg o ansawdd da yn y nos er mwyn cadw'n iach, cryfhau atgofion a chynhyrchu syniadau newydd
Llyfr Lles Hydref: Dydd Mercher 4ydd Hydref 12:30-13:30pm (MS Teams)
Llyfr i'w gadarnhau.
I ymuno â’r grŵp MS Teams er mwyn derbyn y dolenni i’r cyfarfodydd, ac at y fforwm drafod a diweddariadau am lyfrau’n ymwneud â lles y byddwn yn eu darllen yn y
dyfodol, dilynwch y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y clwb llyfrau anfonwch e-bost at iechydalles@bangor.ac.uk.