05/24 Cydnabyddiaeth Genedlaethol i Gymorth Menopos ar gyfer Staff y Brifysgol
Mae'r Brifysgol wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith yn datblygu amrywiaeth o strwythurau cymorth unigol a sefydliadol ar gyfer cydweithwyr sy'n profi peri-/menopos.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r amser a'r sgiliau a fuddsoddwyd gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol, o’r ysgolion academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol, wedi arwain at gyfres gyfannol o adnoddau sy'n cefnogi unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl y menopos, gan gynnwys:
- Cyfarfodydd rheolaidd o’r Lolfa Menopos yn y cnawd ac ar-lein
- Cefnogaeth gan gymheiriaid
- Iechyd Galwedigaethol
- Mynediad i hyfforddiant a chwnsela
- Sesiynau codi ymwybyddiaeth
- Mae rheolwyr llinell yn datblygu eu sgiliau’n barhaus er mwyn gallu adnabod yn hyderus yr addasiadau a allai gefnogi'r rhai y maent yn eu rheoli orau ar wahanol gamau yn eu taith
Dywedodd Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles, "Mae codi ymwybyddiaeth o’r menopos yn ehangach fel mater lles staff wedi bod yn ymgymeriad sylweddol, wrth i ni geisio rhoi amlygrwydd dyledus i'r pwnc a chael gwared ar y tabŵ cymdeithasol sydd wedi ymestyn i'r gweithle ers degawdau, ac anfanteisio gormod o fenywod."
Mae cyflawniadau'r ddwy flynedd ddiwethaf yn cael eu cydnabod mewn dau ddatblygiad cyffrous. Mae'r Brifysgol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr UHR Award for Wellbeing fel rhan o wobrau Rhagoriaeth Adnoddau Dynol y Prifysgolion Universities HR (UHR).
Bydd cydweithwyr Adnoddau Dynol yn ymuno â thimau adnoddau dynol eraill o sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig ar gyfer eu cynhadledd ar-lein yr wythnos hon pan fydd enillwyr y gwobrau'n cael eu cyhoeddi.
Bangor yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad gweithle sy'n gyfeillgar i'r menopos
Y Brifysgol hefyd yw'r cyflogwr mawr cyntaf a'r unig Brifysgol yng Nghymru, i ennill achrediad fel Gweithle sy'n Gyfeillgar i'r Menopos. Mae'r cynllun nod barcud cenedlaethol hwn, a weinyddir gan Henpicked, yn derbyn cyflwyniadau gan sefydliadau sydd wedi bod drwy broses graffu gan banel annibynnol ac yn penderfynu os rhoddir achrediad.
Dywedodd Tracy Hibbert, Prif Swyddog Pobl, "Mae’r achrediad hwn yn destament i gwmpas a maint y gwaith a wneir gan gydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol i sicrhau profiad tecach ac iachach i gydweithwyr yn ystod y peri-/menopos. Mae'n anrhydedd cael ein cydnabod fel y cyflogwr mawr cyntaf yng Nghymru, a’r Prifysgol gyntaf yng Nghymru, i ennill achrediad Gweithle sy'n Gyfeillgar i'r Menopos a byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith ein holl staff."
I ymuno â rhwydwaith ar-lein Lolfa Menopos dilynwch y ddolen hon.
I gofrestru ar gyfer sesiynau hyfforddi Rheolwr Llinell dilynwch y ddolen hon.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth menopos sydd ar gael i staff, e-bostiwch Anna Quinn.