10/23 Sesiynau myfyrio ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein wythnosol i staff – dydd Mercher 9:00-9:30am ar Teams
Arweinir y sesiynau ymarfer gan athrawon ymwybyddiaeth ofalgar o’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar. Cyfle i gael dechrau da i’ch dydd Mercher drwy ddod i'r sesiwn ymarfer ar-lein. Mae'n addas i bawb - o ddechreuwyr llwyr i'r rhai sy’n ymarfer myfyrio’n rheolaidd.
Beth i’w ddisgwyl:
Croeso cynnes, wedi'i ddilyn gan ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar 20-25 munud a all gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar o'r corff, ymwybyddiaeth ofalgar o’r anadl neu sain, ymarfer symud ystyriol ysgafn, neu ymarfer 'mynydd'. Nid oes angen unrhyw offer arbennig arnoch a gellir gwneud hyn gartref neu yn y swyddfa (os oes gennych swyddfa dawel!) Mae croeso i chi naill ai adael eich camera ymlaen neu ei ddiffodd, beth bynnag sy'n teimlo'n fwyaf cyfforddus i chi.
“Mae’r sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar yn ychwanegiad gwych at fy wythnos waith. Rydw i’n cydnabod y straen rydw i’n ei ddal yn gorfforol, ac yn fy meddwl, ac wedi hynny rydw i’n teimlo’n llawer tawelach, yn medru canolbwyntio, ac yn gallu wynebu’r diwrnod. Rydw i’n edrych ymlaen at y sesiwn bob wythnos.” Nic Nikolic – campws Wrecsam
“Rydw i wir yn mwynhau’r sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar wythnosol - maen nhw’n ffordd wych o baratoi eich hun ar gyfer diwrnod prysur o waith. Gan eu bod yn cael eu cynnal drwy Teams, gallwch ymuno lle bynnag y byddwch. Rydw i’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar fy mhen fy hun yn rheolaidd, felly mae’n hyfryd cael y cyfle i ymarfer mewn grŵp a rhannu profiadau ag eraill. Mae ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar wedi fy helpu i reoli pryder a straen, ac wedi chwarae rhan fawr yn fy helpu i reoli fy CFS/ME.” Nia Weatherley – campws Bangor
Ymunwch â'r grŵp Teams yma i gael mynediad i'r ddolen ymuno wythnosol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw ran o'r wybodaeth yma cysylltwch ag Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles.