Wythnos Siarad Arian 6-10 Tachwedd 2023
Bob blwyddyn, rydym yn annog staff i gael sgyrsiau mwy agored am eu harian trwy y hymgyrch Wythnos Siarad Arian. Mae'r wythnos yn rhoi cyfle gwych i bawb ymuno, cychwyn neu arwain sgyrsiau am arian.
Mae thema eleni yn canolbwyntio ar alwad syml i weithredu: gwnewch un peth. Nid oes rhaid iddo fod yn enfawr. Gallai fod mor syml ag olrhain pensiwn coll neu ddefnyddio un o'r teclynnau neu'r cyfrifianellau am ddim ar wefan Helpwr Arian.
Bwriad Wythnos Siarad Arian
I lawer, cymryd y cam i ddechrau siarad yw'r her gyntaf i'w goresgyn o ran arian.
Mae Wythnos Siarad Arian yn darparu llwyfan i gael sgwrs am arian rhwng teuluoedd a ffrindiau, yn y gwaith neu yn yr ysgol neu unrhyw ran arall o fywyd. Y nod yw grymuso pobl a allai fod yn teimlo'r wasgfa, yn cael trafferth gyda biliau neu'n poeni am y dyfodol, i ddod o hyd i ffordd ymlaen.
VIVUP
Mae VIVUP, darparwr Rhaglen Cymorth i Weithwyr staff y brifysgol, yn cynnig cyngor cyfrinachol ar ddyledion trwy eu partner allanol Angel Advice. Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Os ydych yn gweithio gyda myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol, atgoffwch nhw fod Uned Cefnogaeth Ariannol y brifysgol yma i gynnig cyngor ac arweiniad.