Cwrs Newydd ar gael i staff: Byw gyda Straen ac Atal Llosgi Allan
Mae cwrs e-ddysgu rhyngweithiol newydd, o'r enw ‘Byw Gyda Straen ac Atal Chwythu Plwc’ bellach ar gael i staff Prifysgol Bangor. Datblygwyd a threialwyd y fenter hon gyda chydweithwyr prifysgol yn yr Ysgol Addysg, dan arweiniad dau seicolegydd clinigol profiadol, sef Dr Steve Noone a Dr Elizabeth Burnside, a Dr Amy Hulson-Jones sy’n ymchwilydd addysg. Mae datblygiad y cwrs wedi'i gefnogi gan gyllid “Gwell Iechyd Meddwl” y mae'r brifysgol yn ei dderbyn gan Medr/HEFCW.
Mae’r cwrs yn seiliedig ar y syniadau diweddaraf ar sut i ddod yn fwy hyblyg yn seicolegol, sy’n cynnig opsiwn amgen i arferion meddwl di-fudd a strategaethau osgoi a all ddraenio adnoddau personol ac atal cyfleoedd i ymgysylltu â gwerthoedd personol.
Mae hyblygrwydd a lles seicolegol yn eu hanfod yn gyfres o sgiliau y mae angen eu hymarfer – bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi i ddatblygu’r mewnwelediadau a’r sgiliau i gadw’ch hun yn iach yn y gwaith, yn ystod cyfnod heriol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i grwpio o amgylch pum thema graidd:
Sut ydw i?
Sôn am straen yn y Gwaith
Newid ein safbwynt ar feddwl negyddol
Bod yn glir ynghylch gwerthoedd
Ac yn olaf, os bydd arwyddion o chwythu plwc yn ymddangos, beth i'w wneud yn ei gylch.
Am mynediad i'r cwrs, cliciwch ar y ddolen ganlynol: