Haf 2022 Projectau Lles a Gyllidir gan CCAUC
Dros y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, mae rhan o’r cyllid ar gyfer llesiant a ddyrannwyd i’r brifysgol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), wedi ei neilltuo i geisiadau gan ysgolion a chyfarwyddiaethau i gefnogi projectau sydd â’r nod o wella lles staff a myfyrwyr. Rhoddir mewnwelediad i’r projectau hyn isod.
Meddai Anna Quinn, Rheolwr y Project Iechyd a Lles, “Gwnaeth y themâu a ddaeth i’r amlwg yn sgil y projectau hyn argraff fawr ar y Grŵp Strategaeth Iechyd a Lles, yn enwedig y pwyslais cyffredin ar ddefnyddio mannau awyr agored yn greadigol, hyrwyddo’r drafodaeth am iechyd meddwl a lles, a datblygiad parhaus cyfleoedd hyfforddi i staff a myfyrwyr ar bynciau’n ymwneud â lles.”
Gweithgar yn yr Awyr Agored
Mae Gardd Fotaneg Treborth a'r Ardd Iachau (a grëwyd ac a oruchwyliwyd gan Undeb y Myfyrwyr) wedi elwa o gyllid CCAUC, gan alluogi staff a myfyrwyr i wneud defnydd llawn o fannau awyr agored y brifysgol ar y ddau safle.
Roedd hyn yn cynnwys gwella’r mannau eu hunain, yn ogystal â chynnig dosbarthiadau a sesiynau lles strwythuredig eraill trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, a’r flwyddyn i ddod.
Meddai Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth, “Mae cyllid CCAUC wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n gallu i gynllunio a chynnal digwyddiadau llesiant arloesol i staff a myfyrwyr, sy’n hollbwysig yn dilyn y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi’r cyfle i bob un ohonom fwynhau dychwelyd i’r campws yn y flwyddyn academaidd newydd hon.”
Cynigiodd Gardd Fotaneg Treborth sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar i staff a myfyrwyr, dechreuwyd ar broject rhandir dan arweiniad myfyrwyr, a darparwyd sesiynau garddio rheolaidd i staff. Bu i’r sesiynau garddio i staff a gynhaliwyd yn 2021 (sydd eisoes yn llawn ar gyfer 2022) ennyn diddordeb y Ganolfan Werth Cymdeithasol yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru (CBSW) yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, sy’n ymchwilio i’r manteision i les a’r gwerth cymdeithasol y mae Gardd Fotaneg Treborth yn eu cynnig i staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach. Mae tîm y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau wrthi’n casglu adborth ac yn gwerthuso ymatebion i'w cyhoeddi'n fuan.
Bydd yr Ardd Iachau (ar Ffordd Ffriddoedd, rhwng Fron Heulog ac Eglwys Sant Iago) yn cynnig sesiynau lles trwy gydol 2022 i staff a myfyrwyr a bydd yn parhau i gynnig cyfleoedd i bawb ddysgu am arddio a garddwriaeth, ac i fwynhau llonyddwch lle sydd wedi ei neilltuo i adfyfyrio tawel yng nghanol y campws.
Perthyn a Chynhwysiad
Yn 2021, defnyddiodd Undeb y Myfyrwyr gyllid CCAUC i drefnu tri diwrnod cwrdd i ffwrdd (1 fesul coleg) i gynrychiolwyr cwrs. Roedd y diwrnodau cwrdd i ffwrdd hyn yn cynnwys ymarferion adeiladu tîm a chyfle i gynrychiolwyr gwrdd â’i gilydd. Roeddent yn gyfle i gynrychiolwyr cwrs ddod i adnabod ei gilydd a datblygu rhwydwaith cefnogi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
Dywedodd yr holl gynrychiolwyr ei fod yn gyfle gwych i rwydweithio gyda'u cyfoedion, dod i adnabod ei gilydd a ffurfio cysylltiadau ar draws gwahanol ysgolion. Meddai Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb Bangor, “Mwynhaodd y cynrychiolwyr myfyrwyr yn arbennig y cyfle i ryngweithio â myfyrwyr eraill mewn amgylchedd gwahanol ac nid mewn lleoliad academaidd, ar ôl cymaint o amser yn astudio ar-lein, roedd yr elfennau ymarferol â’r awyr iach yn fuddiol iawn i feithrin cysylltiadau a gwella eu lles.”
Gwnaeth yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol gais am gyllid i greu “ystafelloedd llesiant” yn Adeilad George ac Adeilad Brigantia, gan roi lle i aelodau staff gael eiliad o lonyddwch yn ystod diwrnod prysur, lle preifat i weddïo neu gymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar amser cinio, efallai.
Gwnaeth dau ddarlithydd o’r ysgol – Dr Eleri Jones a Dr Jennifer Cooney – gais hefyd am gyllid i gynnal project peilot yn cynnig cymorth cymheiriaid i ferched sy’n mynd trwy’r menopos.
Meddai Dr Eleri Jones, “Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan staff a oedd yn gwerthfawrogi’r ddwy sesiwn, yn gwerthfawrogi’r amgylchedd cefnogol, ac yn cael arweiniad arbenigol ar faterion iechyd gan ein siaradwr gwadd, a chyfle i uniaethu â’n gilydd yng nghyd-destun profiad cyffredin.”
Cafodd tri aelod o’r tîm AD gyllid i fynd i hyfforddiant hyrwyddwr menopos yn y gwaith ac maent bellach yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, arweinwyr Athena Swan ac arweinwyr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ddatblygu hyfforddiant yn y dyfodol i reolwyr ar ymwybyddiaeth o’r menopos, ac i gyflwyno’r ddarpariaeth o gymorth menopos dan arweiniad cymheiriaid ar draws ysgolion a chyfarwyddiaethau eraill. Bydd y gefnogaeth hon yn cael ei chyflwyno mewn digwyddiad byw ar-lein ar Ddiwrnod Menopos y Byd ar 18 Hydref - cysylltwch â llesstaffbangor@bangor.ac.uk am ragor o wybodaeth neu cadwch olwg am wybodaeth am y digwyddiad hwn mewn bwletinau staff sydd ar ddod.
Iechyd Meddwl a Lles
Lles Ymchwilwyr
Yn 2021, cafwyd cyllid gan CCAUC i hyrwyddo lles ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, gyda sesiynau hyfforddi ar “Staying well in your Research career”.
Dr Gemma Griffith, Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol dros Iechyd a Lles ac uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol a oedd yn arwain y digwyddiad. Meddai Gemma, “Dywedodd y rhai a ddaeth i’r sesiynau bod y wybodaeth gan y siaradwr gwadd a’u cymheiriaid wedi bod yn hynod o fuddiol i’w lles.”
Hyfforddiant i Wyliedyddion
Dyfarnwyd cyllid i'r Gwasanaethau Myfyrwyr i ddatblygu hyfforddiant i wyliedyddion, a oedd wedi ei gynnig eisoes i bob myfyriwr a staff.
Meddai Maria Lorenzini, Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr, “Mae’r adborth o’r sesiynau hyn wedi bod yn hynod gadarnhaol ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfle dysgu hwn yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus ein prosesau cefnogi, datgelu a diogelu ar y campws.”
Adnoddau iechyd meddwl i fyfyrwyr
Dyfarnwyd cyllid i’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol i gyflwyno cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr – rhaglen ymyrraeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth Moving On In My Recovery (MOIMR) a'r micro-ymyrraeth sy'n cyd-fynd â hi, sef yr ap Moving On.
Mae MOIMR yn rhaglen ymyrraeth ymddygiadol wybyddol sy’n seiliedig ar dderbyn ac sydd wedi ei chynllunio i bobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau. Cefnogir y rhaglen gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae buddion y rhaglen MOIMR wedi bod yn bellgyrhaeddol ac yn rymusol iawn, a dywedir ei bod wedi helpu cannoedd o bobl ledled Cymru i wella'n barhaus o gaethiwed i gyffuriau. Bydd y rhaglen yn dechrau yn yr wythnosau nesaf a bydd yn cynnwys rhaglen 12 wythnos o gymorth i fyfyrwyr yn ogystal â'r cymorth parhaus sydd ar gael yn ddigidol.
Defnyddio Gwybodaeth Bersonol
Cydnabu cais gan Weinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr yn 2021 am gyllid gan CCAUC bod nifer o broblemau rhannu data yn wynebu’r sector addysg uwch yng nghyd-destun iechyd meddwl myfyrwyr.
Mae ystyriaethau cyfreithiol ac ystyriaethau o ran enw da prifysgolion yn dod yn sgil y problemau hyn ar adeg pan mae craffu ar y gefnogaeth fugeiliol a ddarperir i fyfyrwyr ac ymwybyddiaeth myfyrwyr o’u hawliau preifatrwydd ar gynnydd Mae sicrhau bod ein dull presennol yn addas i’r diben ac yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol diweddaraf yn allweddol i sicrhau bod gennym ddull cytbwys ac effeithiol o gyflawni ein dyletswydd gofal i fyfyrwyr.
“Roedd y sesiwn hyfforddi yn rhoi cyfle i staff o’r Gwasanaeth Llywodraethu a Gwasanaethau Myfyrwyr drafod y materion pwysig hyn ac adolygu ein dull presennol o ymdrin â hwy. Gyda chymaint o drafodaeth yn y sector ar faterion yn ymwneud â chydsyniad myfyrwyr i rannu gwybodaeth, roedd yn galonogol cael cadarnhad cyfreithiol ein bod wedi canfod cydbwysedd da ym Mangor yn ein dulliau a’n harferion cyfredol.” Maria Lorenzini, Cyfarwyddwr Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr
Meddai Gemma Griffith, Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol dros iechyd a lles, “Rydym wedi gweld syniadau hynod arloesol drwy’r broses ymgeisio, a’r projectau yr oeddem yn gallu eu cefnogi drwy gyllid CCAUC, sydd bellach yn dwyn ffrwyth ac yn chwarae rhan weithredol wrth gyfrannu at les unigolion. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda staff ar draws ysgolion a chyfarwyddiaethau yn y flwyddyn i ddod i sicrhau bod yr agenda lles yn cael yr effaith fwyaf bosib ar ein staff a’n myfyrwyr.”
Mae penaethiaid ysgolion a chyfarwyddiaethau wedi derbyn gwahoddiad yr wythnos hon i gynnig mentrau newydd i gefnogi iechyd a lles staff a myfyrwyr. Mae'r Grŵp Strategol Iechyd a Lles yn edrych ymlaen at dderbyn y ceisiadau hyn yn yr wythnosau nesaf.