Sesiynau Lles Ariannol
Rydym hefyd wedi partneru ag arbenigwyr lles Ymddeol ac Ariannol, Affinity Connect i darparu cymorth lles ariannol i staff.
Mae Eich Dyfodol Ariannol yn sesiwn dwy awr ac efallai y bydd y sesiwn yn fuddiol i gydweithwyr sy’n ystyried diswyddo gwirfoddol. Bydd yn amlinellu cymorth posibl gan y llywodraeth, goblygiadau treth, ac yn annog mwy o hyder gyda materion ariannol wrth adael cyflogaeth. Unwaith eto, gellir cael lle drwy'r platfform ESS.
Mae cynllunio ar gyfer ymddeoliad yn sesiwn sy'n ceisio annog agwedd gadarnhaol a realistig at ymddeoliad sy'n ddiogel yn ariannol a helpu cydweithwyr i wneud dewisiadau gwybodus am ymddeoliad. Mae wedi'i anelu at y rhai sy'n ystyried ymddeoliad neu'r rhai sydd newydd ddechrau meddwl am gynlluniau ymddeol. Mae sesiwn i'r rhai sy'n aelodau o gynllun Pensiwn USS ac hefyd y cynllun BUPAS.
Bydd y platfform dysgu ESS hefyd yn gartref i'r holl wybodaeth berthnasol, a lle gellir archebu lleoedd.
Os yw'n well gennych archebu lle heb fynd trwy i-trent, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Lles Staff – iechydallesstaff@bangor.ac.uk
Rwy’n annog pob cydweithiwr i fanteisio ar y gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Os oes gennych gwestiynau am y cyfleoedd dysgu anffurfiol yma, neu unrhyw ddarpariaeth lles arall, cysylltwch ag Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles.