Sesiynau Lles RCS
Mewn partneriaeth ag RCS Cymru, bydd gweminar awr ar-lein ar gael o'r enw Cefnogi eich lles eich hun yn ystod cyfnod ansicr.
Bydd y sesiwn hon yn darparu offer a strategaethau i reoli straen a gwella lles. Bydd cyflwyniad i dechnegau ymarferol i ymdopi â newid ac ansicrwydd. Mae'r cwrs wedi'i anelu at y rhai sydd am wella eu sgiliau rheoli straen a gwella eu lles cyffredinol.
Gall cydweithwyr archebu lle ar unrhyw un o’r tair sesiwn sydd ar gael, ac mae modd ymuno â nhw yn ddienw. Ni fydd enwau unigol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Brifysgol.
Bydd recordiad ar gael ar ôl y trydydd gweminar ar gyfer y rhai na allant ymuno’n fyw.
Bydd y gweminar yn cyflwyno cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno technegau ymarferol i gefnogi cydweithwyr wrth reoli newid ac ansicrwydd.
Pynciau bydd yn cael eu trafod:
1. Adnabod arwyddion corfforol ac ymddygiadol o straen.
2. Dysgwch sut i wahaniaethu rhwng strategaethau ymdopi iach ac afiach.
3. Darganfyddwch wahanol ddulliau i hunan-reoleiddio a thawelu eich system nerfol.
4. Adnabod beth sydd, ac nad yw, o fewn eich rheolaeth.
5. Buddsoddi yn eich cwsg a'ch arferion da: Deall pwysigrwydd cwsg ac arferion iach i wella ansawdd eich cwsg.
6. Darganfyddwch sut y gall y model PERMA eich helpu i gynnal eich lles yn ystod cyfnodau p newid.
7. Cael mewnwelediad i'r systemau cymorth sydd ar gael i chi, gan gynnwys adnoddau Prifysgol Bangor, adnoddau cymunedol ac adnoddau ehangach, ac offer hunangymorth.
Pwy ddylai fynychu:
Mae'r weminar wedi'i anelu at bobl sydd eisiau gwella eu sgiliau rheoli straen a gwella eu lles cyffredinol.
Gyda ffocws ar lywio drwy gyfnod o ansicrwydd a phryder, bydd y sesiwn hwn yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr ac offer ymarferol.
Cynhelir y weminar ‘Cefnogi eich lles eich hun yn ystod amseroedd ansicr’ ar:
Dydd Iau, 1 Mai, 9:30am - 10:30am COFRESTRWCH YMA
Dydd Gwener, 2 Mai, 12:30pm - 1:30pm COFRESTRWCH YMA
Dydd Mawrth, 6 Mai, 1:00pm - 2:00pm COFRESTRWCH YMA
Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn ar Eventbrite – bydd eich cofrestriad yn cael ei dderbyn gan RCS ac ni fydd yn cael ei gofnodi ar eich porth i-trent ESS.
Bydd y sesiynau yn gweminarau nad ydynt yn ryngweithiol lle na fydd enwau a delweddau cyfranogwyr yn cael eu harddangos.
Os oes gennych gwestiynau am y cyfleoedd dysgu anffurfiol yma, cysylltwch ag Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles.