Sesiynnau Hyfforddiant Iechyd Meddwl i-act sydd ar ddod
Gwahoddir yr holl staff i gadw lle ar un o'n Cyrsiau i-act sydd ar ddod i wella eu hymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles. Mae'r cwrs hyfforddi i-act wedi'i ysgrifennu a'i achredu gan Goleg Brenhinol y Seiciatreg ac yn cael ei gyflwyno gan hyfforddwyr cymwys, profiadol.
Mae’r model i-act yn canolbwyntio ar faterion iechyd meddwl cyffredin, megis gorbryder ac iselder, ac mae hefyd yn mynd i’r afael â sut y gallem wella lles er mwyn meithrin gwytnwch. Mae’r cwrs i-act yn cynnig adnoddau ymarferol ac arweiniad ar sut y gallem wella ein hiechyd meddwl a'n lles ein hunain, a chefnogi eraill a allai fod â phroblem iechyd meddwl neu les. Mae'n rhoi i’r cyfranogwyr y wybodaeth y mae arnynt ei hangen, ac yn cynnig adnoddau ar gyfer mynd i'r afael â gwella iechyd meddwl a lles yn y gweithle.
Mae staff sydd wedi cymryd rhan yn y cwrs o’r blaen wedi dweud y canlynol:
“Roedd yr hyfforddwyr yn hwyluso awyrgylch cefnogol, calonogol ac agored.”
“Roeddwn i’n hoff iawn o’r ffordd yr oeddem yn symud o gwmpas yr ystafell a gweithio gyda gwahanol bobl yn ystod y sesiwn.”
“Roedd y wybodaeth am ganllawiau a holiaduron/adnoddau hunanasesu’n ddefnyddiol.”
Bellach mae dau gwrs i-act gwahanol ar gael:
- Deall Iechyd Meddwl a Lles - agored i bob aelod o staff
- Rheoli ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles - agored i reolwyr llinell, uwch arweinwyr / arweinwyr adrannol, goruchwylwyr PhD a hyrwyddwyr lles staff.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ar gwrs, gwiriwch eich tab ‘Learning’ i-Trent. Bydd sesiynau hyfforddi yn Gymraeg a Saesneg yn parhau trwy gydol y flwyddyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyfforddiant iact neu unrhyw broblemau wrth archebu eich lle, cysylltwch â iechydallesstaff@bangor.ac.uk