Fy ngwlad:

Strategaeth Iechyd a Lles 2030

Logo, enw cwmni

Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

Strategaeth 2030:
Pobl a Lles

  1. Y Berthynas â Strategaeth 2030

Prif

Eilaidd

Colofnau Strategol:

Rhagoriaeth ymchwil

ü

Addysg drawsnewidiol

ü

Y Gymraeg a diwylliant Cymru

ü

Themâu trawsnewidiol:

Effaith economaidd, gymdeithasol a dinesig

ü

Ymgysylltu byd-eang

ü

Ein pobl

ü

Yn sail i hyn oll mae…

Cynaliadwyedd sefydliadol

ü

  1. Y Berthynas â’r Risgiau Corfforaethol

Risg gorfforaethol 3

Colli profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr

Risg gorfforaethol 15

Annigonolrwydd o ran cyfeiriad strategol sefydliadol

Risg gorfforaethol 23

Morâl isel ymysg staff

Risg gorfforaethol 27

Effeithiolrwydd gweithredol gwael

  1. Llywodraethu

Cyfnod y strategaeth

2024-2030

Trefniadau adolygu’r strategaeth

Caiff y strategaeth ei hadolygu'n flynyddol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Lles ac adroddir y canlyniadau i'r Bwrdd Gweithredol.

Adolygwyd ddiwethaf

Adolygwyd a chymeradwywyd y strategaeth ddiwygiedig hon gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2024.

  1. Diben

Mae twf a llwyddiant y sefydliad yn dibynnu ar ennyn lefelau uchel o ymgysylltiad a pherfformiad ymhlith y staff, sydd yn eu tro yn arwain at brofiad myfyrwyr o ansawdd uchel.

Er mwyn cyflawni'r amcan hwn, rhaid i ni greu a chynnal diwylliant ac amgylchedd gwaith sy'n caniatáu i'n pobl ffynnu. Byddwn yn gwneud hyn trwy eu cefnogi i gyflawni eu potensial a chreu’r amodau iddynt allu perfformio ar y lefel uchaf.

Byddwn yn darparu cyfleoedd datblygu a chefnogaeth i sicrhau bod ein staff yn cael pob cyfle i deimlo ymroddiad a chymhelliant a deall gwerthoedd, ymddygiad a phwrpas cyffredin y sefydliad. Er mwyn creu'r amgylchedd hwn, mae arweinyddiaeth a rheolaeth drawsnewidiol yn hanfodol. Yn sail i hyn, byddwn yn creu diwylliant o ymddiried a thryloywder, wedi ei atgyfnerthu gan gyfathrebu effeithiol ac amserol gan Fwrdd Gweithredol y brifysgol ac uwch dimau arwain.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu cymryd rhan a chyflawni eu potensial. Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn allweddol i'n cynaliadwyedd a'n llwyddiant hirdymor. O ganlyniad, byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith trwy eirioli dros oddefgarwch, parch a sicrhau ein bod yn gwerthfawrogi pob un o’n haelodau staff fel unigolion.

Rydym yn cydnabod bod rhaid i ni fod yn rhagweithiol wrth ddiogelu eu hiechyd a’u lles er mwyn galluogi ein staff a’n myfyrwyr i lwyddo.  Ategir ein strategaeth gan y gred graidd bod gweithleoedd iach yn helpu unigolion i ffynnu a chyrraedd eu potensial. Mae’n seiliedig felly ar ddiwylliant o alluogi, dyrchafu ac ymgysylltu, iechyd ataliol ac iechyd gweithredol

Trwy gymryd lles i ystyriaeth o ddifrif, byddwn yn gweithio i liniaru goblygiadau negyddol straen a gorweithio a chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle gall unigolion ffynnu. O ganlyniad, byddwn yn gosod iechyd a lles wrth galon y profiad o weithio yn y brifysgol a byddwn yn annog ac yn ysbrydoli’r holl staff i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Bydd y strategaeth hon yn cael ei goruchwylio gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Lles sy'n adrodd i Fwrdd Gweithredol y brifysgol.

Mae'r strategaeth hon yn canolbwyntio'n bennaf ar staff a dylid ei chroesgyfeirio â nifer o is-strategaethau eraill yn enwedig Iechyd Meddwl a Lles dan Arweiniad Myfyrwyr; Profiad Myfyrwyr; Cynllun Cydraddoldeb Strategol; Cynllun Gweithredu Hil; ond hefyd Cynaliadwyedd; Ehangu Mynediad; yr Iaith Gymraeg.

  1. Amcanion
  1. Talent, perfformiad, gwobr a chydnabyddiaeth
  • Datblygu strategaeth recriwtio staff glir, gynhwysol a chynaliadwy sy'n annog ac yn galluogi datblygu talentau mewnol amrywiol, ond sydd hefyd yn nodi ac yn recriwtio talent allanol yn unol â'n dyheadau.
  • Sicrhau bod staff yn cael cyfle i drafod eu datblygiad gyrfa a chytuno ar eu cyfraniad at y brifysgol trwy adolygiad datblygiad perfformiad blynyddol.
  • Nodi a meithrin talent, gan greu’r gallu i ddatblygu a llwyddo trwy gefnogi dilyniant gyrfa a meithrin gallu at y dyfodol trwy hyfforddiant a digwyddiadau pwrpasol.
  • Cytuno ar strategaeth wobrwyo hirdymor a’i rhoi ar waith, gan gynnwys sicrhau meini prawf clir a thryloyw ar gyfer dyrchafiad a dilyniant gyda mecanweithiau i atal rhagfarn ddiarwybod.
  • Parhau i adeiladu ar gyfanswm ein pecyn cyflog a buddion, gan gynnig hyblygrwydd a dewis sy’n addas i anghenion amrywiol a newidiol, gan sicrhau bod y sefydliad yn ystwyth a chystadleuol mewn marchnadoedd allanol (e.e. gweithio hyblyg/deinamig, cyfleoedd am seibiannau gyrfa ac ati.)
  • Codi proffil y buddion o weithio yn y brifysgol trwy gyfathrebu'n fewnol yn rheolaidd ac effeithiol am y pecyn buddion cyfan sydd ar gael i'r holl staff (e.e. cynlluniau aberthu cyflog, prisiau gostyngol yng nghanolfan chwaraeon a hamdden y brifysgol, cymorth lles ariannol ac ati).
  • Gweithio'n rhagweithiol i leihau bylchau cyflog trwy fonitro agos a gweithredu cadarnhaol (e.e. trwy gynllun gweithredu’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau).
  • Adolygu’r strwythurau cyflogau a graddfeydd yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r meincnodau a’r disgwyliadau ledled y sector (e.e. y cyflog byw gwirioneddol).
  • Gweithio ar y cyd â rheolwyr ac undebau llafur y campws i leihau’r cyfraddau cyflogaeth achlysurol.
  • Sicrhau bod pob aelod staff yn ymwybodol o ofynion deddfwriaethol a chanllawiau arfer gorau trwy weithredu hyfforddiant gorfodol mewn meysydd perthnasol (sef iechyd a diogelwch; Prevent; GDPR; diogelwch gwybodaeth; y Gymraeg; rhagfarn ddiarwybod; cydraddoldeb ac amrywiaeth, ar hyn o bryd).

  1. Arweinyddiaeth
  • Datblygu carfan amrywiol o arweinwyr academaidd y dyfodol sy'n diffinio, llunio a llywio'r agenda ar gyfer gwella addysgu ac ymchwil (e.e. trwy ein rhaglen arweinwyr ymchwil a chyfranogiad yn rhaglen Crwsibl Cymru).
  • Trwy raglen rheolwyr Bangor, arfogi ein harweinwyr â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad angenrheidiol i arwain eraill ac i sicrhau rhagoriaeth ar draws y sefydliad.
  • Ar bob lefel, gwreiddio rhaglen ddatblygu arweinyddiaeth fewnol neu  allanol sy'n meithrin ac yn cynnal cynhwysiant ac yn ehangu ar fentrau i amrywio'r gronfa arweinwyr gan gynnwys mentrau penodol i gyflymu datblygiad arweinyddiaeth ar gyfer staff o liw.
  • Datblygu a gweithredu fframwaith ymddygiad sy'n enghreifftio'r gwerthoedd a ddisgwylir gan bawb gyda chyfrifoldebau arwain.
  • Parhau i ddatblygu a gwella rhaglenni fframwaith arwain a rheoli mewnol neu allanol sy'n cefnogi ein staff i weithio'n effeithiol ar draws y brifysgol a thu hwnt.
  • Datblygu cyfres gyfannol o adnoddau sy'n galluogi rheolwyr llinell i reoli llwythi gwaith yn fwy effeithiol a lliniaru risgiau straen sy'n gysylltiedig â gwaith (e.e. trwy ddefnyddio offeryn dangos straen y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch).

  1. Cynhwysiant ac amrywiaeth
  • Datblygu a chyflawni ein cynllun cydraddoldeb strategol gan gynnwys adroddiadau blynyddol yn erbyn yr amcanion.
  • Datblygu a chyflawni ein cynllun gweithredu hil gan gynnwys adroddiadau blynyddol yn erbyn yr amcanion.
  • Monitro gwybodaeth am broffil amrywiaeth y sefydliad trwy gynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau cydraddoldeb blynyddol o wybodaeth am gydraddoldeb staff a gwybodaeth am gydraddoldeb myfyrwyr.
  • Datblygu cynllun cyfathrebu i fynegi’n glir ac yn gyson ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Sicrhau y cyflawnir targedau sy'n gysylltiedig â gwobr arian Athena Swan y sefydliad trwy adolygu cynllun gweithredu Athena Swan yn rheolaidd.
  • Gweithio i gyflwyno cais am wobr efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil ac ennill y wobr ym mis Tachwedd 2024 a sicrhau ein bod yn cyflawni targedau o fewn cynllun gweithredu’r Siarter Cydraddoldeb Hil wedi hynny.
  • Yn unol â'n statws lefel 2 fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, gweithio  i herio agweddau a chynyddu dealltwriaeth o anabledd trwy hyfforddiant a digwyddiadau mewnol neu allanol.
  • Ymgysylltu ag arweinwyr a rheolwyr i herio’r status quo a chroesawu syniadau trawsnewidiol am hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy gymryd rhan mewn hyfforddiant a digwyddiadau mewnol ac allanol.
  • Ceisio deall a gwella profiad y staff a’r myfyrwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig trwy hyfforddiant a digwyddiadau pwrpasol.
  • Ymgorffori amgylchedd o oddefgarwch a pharch a gwerthfawrogi amrywiaeth a mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol neu wahaniaethol (e.e. trwy hyfforddiant gorfodol a gwirfoddol).
  • Parhau i weithio ar sail Cymru gyfan gydag AdvanceHE i lunio cynlluniau gweithredu i roi sylw i unrhyw anghydraddoldebau er mwyn gwella cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant yr holl staff a’r myfyrwyr.
  • Defnyddio aelodaeth o gyrff allanol (e.e. Fforwm Busnes Anabledd, Advance HE) i sefydlu arfer gorau a darpariaeth sydd gyda’r gorau yn y sector.

  1. Iechyd a lles
  1. Galluogi
  • Sicrhau bod rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cynhwysol a hygyrch ar waith i hyrwyddo ein mentrau iechyd a lles.
  • Gweithio gydag Ystadau a Gwasanaethau Campws i sicrhau ein bod yn ystyried iechyd a lles ein pobl yn y ffordd rydym yn cynllunio ac yn datblygu ein campysau, gyda phwyslais arbennig ar hygyrchedd a modelau cymdeithasol anabledd*.
  • Gweithio'n agos gyda phenaethiaid ysgolion a chyfarwyddwyr y gwasanaethau proffesiynol i ddiogelu amser mewn modelau llwyth gwaith i staff gymryd rhan mewn digwyddiadau a mentrau iechyd a lles (e.e. y prynhawn llesiant blynyddol). 
  1. Hyrwyddo ac Ymgysylltu
  • Sefydlu, cynnal a hyfforddi rhwydwaith o hyrwyddwyr lles i hyrwyddo lles ar draws y colegau a’r gwasanaethau proffesiynol ym Mhrifysgol Bangor.
  • Datblygu cynllun cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth am y ddarpariaeth gyfredol gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu sefydledig.
  • Trwy gyfranogiad gweithredol gyda sefydliadau allanol (e.e. y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus), gweithio ar y cyd ar fentrau iechyd a lles ac amcanion cyffredin.
  1. Camau ataliol ac Iechyd gweithredol
  • Grymuso staff a myfyrwyr i gymryd camau annibynnol i gefnogi eu hiechyd a'u lles eu hunain trwy gyfathrebu mentrau iechyd mewnol ac allanol yn rheolaidd ac yn effeithiol.
  • Trwy’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, darparu gwyliadwriaeth a monitro iechyd i’n holl staff, gan adeiladu dealltwriaeth fwy cadarn o broffiliau iechyd y rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig.
  • Gweithio'n rhagweithiol i wneud diwylliant sy'n hyrwyddo ffyrdd iach o weithio (e.e. dulliau gweithredol o weithio, cymryd seibiannau rheolaidd, teithio iach ac ati) yn rhan annatod o’r brifysgol.
  • Datblygu hyfforddiant iechyd a lles i reolwyr llinell i alluogi arweinyddiaeth a thrafodaeth dosturiol gyda staff ynglŷn â materion iechyd a lles, wrth gadw cydbwysedd rhwng cyfrifoldeb y cyflogwr a pherchnogaeth yr unigolyn.
  • Hyfforddi’r uwch arweinwyr i fod yn gatalyddion i ennyn diddordeb pobl i feddwl am eu hiechyd eu hunain a datblygu ein rheolwyr i allu ymateb yn effeithiol i amgylchiadau personol cymhleth, gwahanol a heriol.
  • Meithrin agwedd gyfannol at les, gan gydnabod ac adlewyrchu’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl cadarnhaol a gweithgaredd corfforol.
  • Ymgorffori model llwyth gwaith academaidd, a model llwyth gwaith cynaliadwy i’r holl grwpiau staff.
  • Gweithio ar y cyd ag uwch reolwyr i fynd i'r afael â llwyth gwaith sy'n cyfrannu at straen yn y gwaith (e.e. trwy nodi cyfleoedd i leihau biwrocratiaeth trwy weithio'n fwy darbodus)*.
  • Parhau i werthuso a mireinio ein model gweithio deinamig i ymateb i anghenion newidiol y sefydliad a’n staff.

  1. Ffactorau Llwyddiant Hanfodol

Dyma brif fesurau llwyddiant Strategaeth 2030 y cytunodd y Cyngor a'r Is-ganghellor arnynt. Cânt eu hadrodd i'r Cyngor fel rhan o adroddiad perfformiad integredig blynyddol y brifysgol i roi sicrwydd bod y perfformiad yn ddigonol i wireddu amcanion strategol y brifysgol.

1.

% y staff sy’n cwblhau hyfforddiant gorfodol (uwch na’r lleiafswm, sef 85%)

  1. Prif Ddangosyddion Perfformiad Allweddol

Dylai pob strategaeth gynnwys 3 phrif ddangosydd perfformiad allweddol a dylai fod targed i gyd-fynd â phob un ohonynt. Cânt eu hadrodd i'r Cyngor fel rhan o adroddiad perfformiad integredig blynyddol y brifysgol i roi sicrwydd bod y perfformiad yn ddigonol i wireddu amcanion strategol y brifysgol.

1.

Lleihau’r bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau (o 0.5% y flwyddyn hyd at 2030)

2.

Lleihau % y staff sydd ar gontractau cyfnod penodol (cau’r bwlch ar y cyfartaledd cenedlaethol)

3.

Ennill/cadw/gwella siarteri neu ddyfarniadau cydnabyddedig ar draws y sector (Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil ac ati)

4.

% yr adolygiadau datblygu perfformiad a gwblhawyd (uwch na’r lleiafswm, sef 90%)

  1. Dangosyddion Gweithredol

Bydd y pwyllgor sy’n gyfrifol am y strategaeth yn monitro’r cynnydd o ran pob un o’r amcanion trwy’r dangosyddion perfformiad allweddol ychwanegol hynny.

1.

% y staff Cymraeg a recriwtiwyd

2.

% y staff sy'n cael buddion Bangor

3.

% yr arweinwyr/rheolwyr sy'n ymgysylltu â hyfforddiant/datblygiad/monitro mewnol neu allanol. Nifer y staff sy'n cwblhau rhaglenni arwain/rheoli (Rheolwr Bangor, Aurora, ac ati)

4.

% y staff a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol

5.

% trosiant staff

6.

Metrigau arolwg staff (gweithio yn PB, cyflog a buddion, arweinyddiaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, iechyd a lles)

7.

Nifer y ceisiadau am bob swydd wag

8.

Cynyddu nifer y staff sy’n mynd i ddigwyddiadau/hyfforddiant iechyd a lles