Mae Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru y brifysgol yn amlinellu uchelgais strategol Bangor ar gyfer arloesi ac ymgysylltu dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'n cynnwys manylion am ein gweithgareddau arfaethedig ym maes cyfnewid gwybodaeth a masnacheiddio, menter a sgiliau a chenhadaeth ddinesig ac ymgysylltu â'r cyhoedd a sut mae'r rhain yn cefnogi ein cenhadaeth sefydliadol gyffredinol.
Mae rhoi’r cynllun uchelgeisiol hwn ar waith yn bosib trwy grant Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).
Strategaeth Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru Prifysgol Bangor
Byddwn yn rhoi diweddariad ynghylch y cynnydd ac yn darparu astudiaethau achos pellach dros y tair blynedd nesaf ac yn y cyfamser, os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’r strategaeth, anfonwch e-bost atom: cydweithreduhub@bangor.ac.uk.