Dathlu 120 o flynyddoedd o Goedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, 1904 - 2024
Fe'ch gwahoddir i ymuno â ni ar 6 a 7 Medi i ddathlu 120 mlynedd o Forestry@ Bangor.
Mae pris y tocyn yn cynnwys yr holl weithgareddau isod. Mae croeso i chi brynu tocynnau ar gyfer gwesteion sydd ddim yn gyn-fyfyrwyr.
Rhaglen:
Dydd Gwener, 6 Medi 2024
O 14:00, Adeilad Thoday, Prifysgol Bangor
- Sgwrs gyda hen ffrindiau
- Mwynhewch gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd sy’n gyn-fyfyrwyr Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan rannu mewnwelediad i sut mae Prifysgol Bangor wedi helpu i lunio eu gyrfaoedd, bywydau, busnesau a chyfeillgarwch
- Helpu gydag ymdrechion i sicrhau bod coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor yn ffynnu am 120 o flynyddoedd eto
- Seibiannau te / coffi rheolaidd, gan gynnwys brownis a bara brith
- Cyfle i weld ddeunydd coedwigaeth o Archifau'r Brifysgol a dysgwch am ein 'Casgliad Coedwigaeth' newydd (os oes gennych ddeunydd yr hoffech ei gyfrannu, cliciwch yma
- Dadorchuddio Archifau Coedwigaeth Prifysgol Bangor – cyfleoedd i gyfrannu rhoddion
O 18:30, Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor
- Derbyniad diodydd gyda staff blaenorol a phresennol yn ystafell Penrhyn
- Mwynhewch bryd o fwyd 3 chwrs gyda'r nos yn Neuadd Reichel, gan gynnwys siaradwr ar ôl y pryd
Dydd Sadwrn, 7 Medi 2024
10:00 – 15:00 yng Ngerddi Botaneg Treborth, Prifysgol Bangor
- Dysgwch am amrywiaeth hyfryd y coetiroedd, gan gynnwys arboreta, coed sbesimen ysblennydd, coetir hynafol lled-naturiol a mwy.
- Trafodaethau am ymchwil i glefyd y lludw, dan arweiniad John Healey, yr wythfed Athro Gwyddorau Coedwig
- Dysgwch sut mae’r Gerddi Botaneg yn cael eu defnyddio fel ystafell ddosbarth dysgu awyr agored ar gyfer y rhaglenni gradd coedwigaeth, gyda Dr Tim Peters a Dr James Walmsley
- Dyfodol conwydd mewn coedwigaeth – trafodaeth dan arweiniad Dr Trefor Owen a Dr Christine Cahalan
- Digon o amser i sgwrsio â hen ffrindiau a pharhau â thrafodaethau am sut y gallwn sicrhau bod coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor yn ffynnu am y 120 o flynyddoedd nesaf
- Mwynhewch de/coffi yn y bore, a chinio bwffe a lluniaeth
- Archwiliwch y Gerddi yn eich amser eich hun ar ôl cinio, gan gynnwys y Llwybr Arfordir Cenedlaethol, sydd â golygfeydd ysblennydd o'r Fenai
TOCYNNAU:
£75 y person (yn cynnwys yr holl fwyd, diod a phrydau)
£100 y person (yn cynnwys yr holl fwyd, diodydd a phrydau a gilet coffaol) Peidiwch ag archebu o wefan Sional. Os dewiswch yr opsiwn yma yn siop y Brifysgol byddwch yn cael eich gilet ym Mangor ar 6 Medi.
Pennir y gost ar lefel a fydd yn talu am gynnal y digwyddiad hwn. Croesewir rhoddion, a bydd unrhyw elw’n mynd tuag at gefnogi myfyrwyr coedwigaeth presennol.
Cysylltwch â ni os hoffech noddi rhan o’r dathliadau.
LLETY
Mae llety wedi ei gadw i’r rhai hoffai ddod i’r aduniad yn neuaddau preswyl y Brifysgol ar safle Ffriddoedd ac yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor. Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly archebwch le’n fuan.
Y Ganolfan Rheolaeth
Mae Canolfan Rheolaeth y brifysgol yn llety 4 Seren ar Ffordd y Coleg, gyferbyn â Phrif Adeilad y Brifysgol.
Mae ystafelloedd dwbl ar gael am £114 y noson, llety & brecwast, pob un yn en-suite gyda Wi-Fi am ddim, cyfleusterau gwneud paned, setiau teledu sgrin fflat digidol, a digon o leoedd parcio ar gael.
I gadw ystafell, cysylltwch â'r Canolfan Rheolaeth yn uniongyrchol ar 01248 365900, gan roi'r cyfeirnod GA02121.
Neuaddau Preswyl
Mae llety ystafell sengl, en-suite hefyd ar gael yn neuaddau preswyl Idwal y Brifysgol ar Ffordd Ffriddoedd.
Mae ystafelloedd ar gael i'w harchebu yma: https://conference-bookaccommodation.bangor.ac.uk/ Rhowch y cod ALUMNI1 ar gyfer llety yn unig (£40 y noson) neu ALUMNIB am Llety a Brecwast (£50 y noson).
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr James Walmsley: j.walmsley@bangor.ac.uk / +44 (0)1248 382448