Caiff Diwrnod Rhyngwladol y Merched (8 Mawrth) ei ddathlu bob blwyddyn ledled y byd i nodi llwyddiannau merched, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau parhaus rhwng y rhywiau. Mae Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Chwaraeon Merched Cymru, yn ymuno â dathliadau 2025 gyda digwyddiad cyffrous yn mynd i’r afael ag Arweinwyr Benywaidd mewn Chwaraeon.
Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Laura McAllister Laura McAllister.
Mae Laura McAllister yn Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigo ar ddatganoli, gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru, cynrychiolaeth rhywedd a ffemineiddio gwleidyddiaeth. Mae'r Athro McAllister yn awdures doreithiog, yn sylwebydd ac yn siaradwraig wadd.
Mae hi wedi gwasanaethu ar sawl panel a bwrdd arwyddocaol, gan gynnwys Bwrdd Taliadau’r Cynulliad (2014-15), y Panel Annibynnol ar Gyflogau a Chymorth Aelodau Cynulliad (2008-09), a Chomisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2002-04). Mae hi hefyd wedi cadeirio’r Grŵp Arbenigol ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (2013-14); Panel Arbenigol y Cynulliad ar Ddiwygio Etholiadol (2017); ac wedi cyd-gadeirio’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (2021-24).
Yn ei swyddogaeth yn Is-lywydd UEFA ac yn aelod etholedig o’i Bwyllgor Gweithredol, mae’r Athro McAllister yn cadeirio Pwyllgor Cynaliadwyedd Cymdeithasol ac Amgylcheddol UEFA, yn gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA, ac yn cadeirio Byrddau Hawliau Dynol Ewro 24, ac Ewro 25.
 hithau’n gyn-chwaraewraig pêl-droed rhyngwladol dros Gymru ac yn gapten tîm cenedlaethol gyda 24 o gapiau, roedd yr Athro McAllister yn gadeirydd Chwaraeon Cymru o 2010-16. Roedd hi hefyd yn Aelod o Fwrdd UK Sport - asiantaeth y Llywodraeth ar gyfer chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, a gwasanaethodd fel Cyfarwyddwraig Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chadeirydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Mae’r Athro McAllister yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Boduan, ym mis Awst 2023.
Dyfarnwyd CBE i’r Athro McAllister yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016, ac mae ganddi raddau er Anrhydedd a Chymrodoriaethau o sawl prifysgol, gan gynnwys Bangor, Caerdydd, Prifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol De Cymru, Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd panel o ferched o’r byd chwaraeon ac o yrfaoedd amrywiol yn ymuno â Laura:
Kate Hannon - Aelod o Fwrdd Chwaraeon Merched Cymru a Chyfarwyddwr Fearless Women. Mae Kate yn gweithio ym maes marchnata chwaraeon a chysylltiadau cyhoeddus chwaraeon ers 15 mlynedd. Mae Kate yn gyn-ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Chwaraeon y Merched, ac yn gyd-sylfaenydd y Women's Sport Collective. Mae'n frwd dros greu cydraddoldeb mewn cymdeithas, yn enwedig ym myd chwaraeon y merched. Fel peiriannydd cymwys, dechreuodd Kate ei gyrfa gyda chwmnïau telathrebu gan gynnwys Ericsson, Bell South, France Telecom a British Telecom. Mae hi'n mwynhau datrys problemau a chyflawni pethau.
Hannah Powell - Athletwraig yw Hannah Powell. Bu’n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, mae’n Hyfforddwr Codi Pwysau, ac yn Swyddog Cefnogi Busnes gyda Chodi Pwysau Cymru. Mae’n gyn-godwr pwysau dros Brydain Fawr a Chymru. Mae’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae Hannah yn Codi Pwysau ers 2004, a bu’n rhan o dimau ieuenctid/iau/uwch Prydain Fawr, yn ogystal â chystadlu mewn dwy o Gemau’r Gymanwlad dros Gymru. Bu Hannah hefyd yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Busnes i Godi Pwysau Cymru am 7 mlynedd, yn ogystal â hyfforddi codwyr pwysau i Gymru ar wahanol lefelau cystadlu, ac yn fwy diweddar bu’n cynnig dosbarth Codi Pwysau i’r Merched yn ei chlwb yng Nghaergybi (Hawfc).
Ms Tricia Sterling - Prif Hyfforddwr Pêl-rwyd Cymru a Phennaeth Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor. Dechreuodd Tricia ar ei gyrfa mewn Addysg Uwchradd ar ôl cymhwyso fel Athrawes Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth. Gwirfoddolodd fel hyfforddwr i Glwb Hoci Glannau Dyfrdwy ac arweiniodd Hoci Merched Ysgol Swydd Gaer dan 16 oed. Ar ôl symud i UDA, daeth yn Brif Hyfforddwr Hoci Maes ym Mhrifysgol Slippery Rock ac arweiniodd y rhaglen Olympic Futures yn Pennsylvania. Ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig yn 2002, daeth yn Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gorfforol a Hyfforddi ac yn ddiweddarach bu’n arwain Hyfforddiant Athrawon Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol John Moore yn Lerpwl. Bu hefyd yn hyfforddi pêl-rwyd i’r iau yng Nghlwb Pêl-rwyd Caer. Yn 2025, daeth Tricia’n Athro Cysylltiol a Phennaeth Hyfforddiant Athrawon ym Mhrifysgol Caer, a bu’n arwain timau i rowndiau terfynol cenedlaethol. Roedd hi'n ymwneud â thîm iau Manchester Thunder. Yn 2021, fe’i penodwyd yn Ddeon Gweithredol ym Mhrifysgol Newman Birmingham a bu’n hyfforddi timau Prifysgol Warwick ac Uwch Gynghrair Glannau Dyfrdwy.
Penodwyd Tricia yn Bennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Bangor yn 2024, ac ar hyn o bryd hi yw Prif Hyfforddwr Academi Genedlaethol Pêl-rwyd Dan 15 Cymru a’r Powys Sparks, sy’n cystadlu yng Nghynghrair Hŷn Cenedlaethol Cymru. Mae hi hefyd yn arwain Academi Ranbarthol Pêl-rwyd Gogledd-ddwyrain Cymru ac yn hyfforddi Carfan Hŷn Kingsway Power.
Dr Sophie Harrison - Darlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, Prifysgol Bangor yw Dr Sophie Harrison. Yn ddiweddar sefydlodd Sophie Grŵp Cyfnewid Gwybodaeth Iechyd a Pherfformiad y Merched sy’n dod ag ymchwilwyr ledled yr Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon ynghyd gyda’r nod o gefnogi genethod, merched, a phobl a aseiniwyd yn ferched adeg eu geni trwy gyfnewid ymchwil a gwybodaeth. Mae Sophie’n frwd dros gau’r bwlch data rhwng y rhywiau yn y gwyddorau chwaraeon ac mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gefnogi athletwyr benywaidd, yn enwedig trwy astudio dylanwad y gylchred fislifol mewn chwaraeon ac ymarfer corff, a thrwy geisio lleihau’r baich a achosir gan symptomau sy’n gysylltiedig â’r gylchred fislifol. mewn bywyd bob dydd ac wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
Bydd y panel yn adfyfyrio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at gydraddoldeb rhyw yn y byd chwaraeon, y teithiau a’r heriau sydd o’n blaenau o hyd, a’r rôl hollbwysig y mae merched yn ei chwarae yn hyn o beth.
Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Panel




