Gellir datrys heriau'r Anthroposen o safbwynt technegol, felly pam nad ydym yn llwyddo i’w datrys a beth fydd rhaid i ni ei wneud?
Bydd Mike Berners-Lee yn cloddio trwy haenau'r argyfwng lluosog i drafod yr elfennau hollbwysig i'r rhai sy'n ceisio sicrhau dyfodol cynaliadwy. Bydd darlith Mike yn canolbwyntio ar y newidiadau systemig sydd eu hangen arnom i oroesi a ffynnu dros y degawdau nesaf, gan archwilio'r gwerthoedd allweddol y mae'n rhaid eu hyrwyddo i'w cyflawni. Mae Mike yn dadlau bod yr atebion technegol eisoes o fewn cyrraedd, felly beth sy'n atal cynnydd? Y rhwystrau gwirioneddol yw uniondeb a gwerthoedd ein sectorau gwleidyddiaeth, cyfryngau a busnes, a’r rôl y gall pob un ohonom ei chwarae fel unigolion i ysgogi newid.
(Defnyddir yr Anthroposen weithiau i egluro'n syml y cyfnod pan fo bodau dynol wedi cael effaith sylweddol ar ein planed. P’un a ydym mewn oes ddaearegol newydd ai peidio, rydym yn rhan o system gymhleth, fyd-eang ac mae’r dystiolaeth o’n heffaith arni’n amlwg erbyn hyn.)
Mike yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Small World Consulting Ltd. Mae'n ymgynghori, yn meddwl, yn ysgrifennu ac yn ymchwilio ym maes cynaliadwyedd ac ymatebion i broblemau'r unfed ganrif ar hugain. Ef yw awdur llyfrau clodwiw, gan gynnwys ‘There is No Planet B: A Handbook for the Make or Break Years’, a ‘How Bad Are Bananas? The carbon footprint of everything.’ Mae hefyd yn athro ym Mhrifysgol Caerhirfryn, lle mae ei ymchwil yn cynnwys modelu carbon cadwyn gyflenwi, systemau bwyd cynaliadwy ac effaith amgylcheddol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae wedi ymddangos ar y teledu a’r radio nifer o weithiau yn siarad am hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a newid hinsawdd.