Fy ngwlad:

Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol

Mae Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol yn darparu cefnogaeth i holl aelodau'r Bwrdd Gweithredol. Rheolir y Swyddfa gan Ysgrifennydd y Brifysgol ac fe'i cefnogir gan dîm o Gynorthwywyr Gweithredol ac Uwch Gynorthwywyr Gweithredol.

Photograph of Kelly Goswell-Parry in Profs Corridor

  Kelly Goswell-Parry

 Uwch Gynorthwyydd Gweithredol i'r Is-ganghellor

  klg20fbt@bangor.ac.uk

  +44 1248382001

  Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Kelly yn cefnogi’r Is-ganghellor ym mhob agwedd ar ei swyddogaeth. Mae Kelly yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â’r Is-ganghellor dros y ffôn a thrwy ohebiaeth ysgrifenedig/e-bost. Daw Kelly â chyfoeth o brofiad i Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol ar ôl gweithio mewn sawl ysgol ar draws y brifysgol, gan gynnwys Ysgol Busnes Bangor a’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol.  Cyn hyn, bu Kelly yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol i’r Pennaeth yng Ngholeg Llandrillo, yn Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yng Ngwasanaethau Proffesiynol y Gwasanaeth Tân. 

Mwy o wybodaeth i ddod yn fuan.

Photograph of Bethan Nelson in Profs Corridor

  Bethan Nelson

 Cynorthwyydd Gweithredol i'r Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Swyddog Trawsnewid

  b.nelson@bangor.ac.uk

  +44 1248382276

  Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Bethan yn cefnogi’r Prif Swyddog Cyllid, Mr Martyn Riddleston, a’r Prif Swyddog Gweithredu, Mr Michael Flanagan. Mae Bethan wedi gweithio i Brifysgol Bangor ers 2005, yn gweithio’n gyntaf yn y Gwasanaethau Ystadau a Champws ac yna fel Cynorthwyydd Personol i Is-gangellorion blaenorol. 

Photograph of Jaci Pennington in Profs Corridor

  Jaci Pennington

 Cynorthwyydd Gweithredol i'r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio a'r Diprwy Is-ganghellor (Ymgystylltu Byd-eang)

  j.pennington@bangor.ac.uk

  +44 1248382030

  Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Jaci yn cefnogi'r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio, Mr Mike Wilson, a'r Diprwy Is-ganghellor (Ymgystylltu Byd-eang), yr Athro Paul Van Gardingen. Mae Jaci yn un o’r aelodau tîm sydd wedi bod yma hiraf, ers ymuno â’r brifysgol ym 1996, gan ddechrau yn yr Ysgol Cyfrifeg, Bancio ac Economeg (fel y’i gelwid bryd hynny) am ddwy flynedd, cyn symud i’r Gofrestrfa Academaidd ym 1998.  Ar ôl cefnogi’r Cofrestrydd Academaidd a’r tîm ehangach am dros 20 mlynedd, ymunodd Jaci â’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol yn 2018, fel Cynorthwyydd Personol. 

Photograph of Heather Roberts in Profs Corridor

  Heather Roberts

 Cynorthwyydd Gweithredol i'r Diprwy i'r Is-ganghellor, a'r Diprwy Is-ganghellor (Ymchwil)

  heather.roberts@bangor.ac.uk

  +44 1248383973

  Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Heather yn cefnogi’r Dirprwy i’r Is-ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull a’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil), yr Athro Paul Spencer. Mae Heather wedi bod gyda'r Brifysgol ers 20 mlynedd, i ddechrau fel Cynorthwyydd Personol i Bennaeth yr Ysgol Seicoleg. Ers 2011, mae Heather wedi darparu cefnogaeth Cynorthwyydd Gweithredol yn swyddfa’r Dirprwy Is-ganghellor i nifer o Ddirprwy Is-gangellorion gwahanol.

Photograph of Donna Williams in Profs Corridor

  Donna Williams

 Cynorthwyydd Gweithredol i'r Diprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) a Prif Swyddog Marchnata 

  d.l.williams@bangor.ac.uk

  +44 1248388275

  Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Donna yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr), yr Athro Nichola Callow a'r Prif Swyddog Marchnata, Mrs Patrcia Murchie. Cyn ei swydd bresennol, roedd Donna yn weinyddwr i’r GIG tra'n astudio HNC rhan-amser mewn Gweinyddu Busnes; Cynorthwyydd Personal am 20 mlynadd yn darparu cymorth cynorthwyydd personol mewn Marchnata, Celfyddydau Pontio; a Chynorthwyydd Gweithredol Cymorth i Ddeon Coleg y Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Bangor, tra astudio gradd rhan-asmer.

Photograph of Karen Williams in Profs Corridor

  Karen Williams

 Cynorthwyydd Gweithredol i'r Diprwy Is-ganghellor (Y Gymraeg, Cysylltiadau Dinesig a Phartneriaethau Strategol) a'r Ysgrifennydd y Brifysgol

  karen.williams@bangor.ac.uk

  +44 1248382166

  Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Karen yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor (Y Gymraeg, Cysylltiadau Dinesig a Phartneriaethau Strategol), yr Athro Andrew Edwards a’r Ysgrifennydd y Brifysgol, Gwenan Hine. Dechreuodd Karen weithio ym Mhrifysgol Bangor am y tro cyntaf yn 1996 fel Cynorthwyydd Swyddfa yn yr Ysgol Cyfrifeg, Bancio ac Economeg.  Bu’n Gynorthwyydd Personol i uwch-aelodau staff y brifysgol ers dros ugain mlynedd, ar ôl gweithio i wahanol Benaethiaid Ysgolion, Penaethiaid Colegau ac yn fwy diweddar i Ddirprwy Is-gangellorion. 

Llun agos o Sera Whitley yn y Prif Adeilad

Sera Whitley

Cynorthwyydd Swyddfa Bwrdd Gweithredol

s.whitley@bangor.ac.uk

+44 1248 383279

Prif Adeilad, Prifysgol Bangor

Mae Sera yn darparu cefnogaeth weithredol a gweinyddol i bortffolio Swyddfa'r Is-ganghellor a Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol. Mae hi'n arwain y gwaith o ddarparu cefnogaeth weinyddol i'r Uwch Grŵp Arweinyddiaeth ac yn cynorthwyo gyda’r cyfarfodydd lefel uchel eraill, gan gynnwys y Cyngor ac is-bwyllgorau'r Cyngor. Mae Sera yn cydlynu ac yn rheoli gweinyddiaeth amrywiaeth o brosesau gan gynnwys penodiadau er anrhydedd a chodi baner y brifysgol er cof.

Mae Sera yn cynorthwyo Ysgrifennydd y Brifysgol gyda’r gwaith o gynllunio ac amserlennu dyddiadur y brifysgol ac yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Brifysgol i gydlynu trefn y graddedigion er anrhydedd. Mae Sera yn cynorthwyo Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol gyda dyletswyddau gweinyddol eraill ar ran y Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol benodol i Uwch Gynorthwyydd Gweithredol yr Is-ganghellor.

Ymunodd Sera â’r brifysgol yn 2022, a hithau newydd raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg gydag Iaith Saesneg.