Ffilmio a Ffotograffiaeth

Mae ffotograffau neu ffilmiau lle gellir adnabod pobl neu grwpiau o unigolion yn ddata personol ac mae angen eu cynllunio, eu paratoi, a'u trin yn unol â chanllawiau’r Brifysgol mewn perthynas â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data / Diogelu Data. Yn nodweddiadol, mae data personol yn golygu pan fydd unigolyn neu grŵp o unigolion yn ganolbwynt i’r ddelwedd (hyd yn oed os nad ydynt wedi’u henwi yn y pennawd).

Fodd bynnag, nid oes angen cael caniatâd penodol pawb sy'n digwydd ymddangos yn y cefndir neu os nad ydynt yn ganolbwynt i'r ddelwedd gan nad yw hyn yn cael ei ystyried yn ddata personol.

Efallai y bydd adegau pan fydd staff yn ffilmio neu'n tynnu ffotograffau o ddigwyddiadau yn y Brifysgol neu'r tu allan iddi. Fel uchod, nid oes angen cael caniatâd penodol pawb sy'n digwydd ymddangos yn y cefndir; fodd bynnag, bydd angen caniatâd o hyd pan fydd unigolyn neu grŵp o unigolion yn ganolbwynt i'r ddelwedd.

 

Cael Cydsyniad ar gyfer Ffotograffiaeth neu Ffilmio

Cydsyniad yw un o’r seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data; fodd bynnag, rhaid iddo fod yn benodol ac wedi ei roi o wirfodd.

Mae angen i chi gael cydsyniad ysgrifenedig gan bob unigolyn y byddwch yn ffilmio neu'n tynnu lluniau ohonynt - oni bai nad ydynt yn hawdd eu hadnabod. Mae gan y Brifysgol ffurflen gydsynio i’r diben hwn. Ar gyfer plant dan 16 oed, bydd angen cydsyniad ysgrifenedig gan rieni neu warcheidwaid y plant. Mae ffurflen gydsynio dros blant ar gael yma.

Ar gyfer pwysigion, efallai na fydd yn briodol gofyn iddynt lenwi ffurflenni cydsynio a bydd cydsynio ar lafar yn ddigonol. Fodd bynnag, bydd angen nodyn ysgrifenedig o hyd fel cofnod o’r cydsynio.

Ar gyfer digwyddiadau sydd a wnelo â gwaith ac sy'n ymwneud â staff y Brifysgol, gellir defnyddio buddiant dilys fel y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu yn hytrach na chydsyniad. Mae hyn yn seiliedig ar y ffaith bod data personol wedi'i gynnwys ym Mholisi Preifatrwydd Staff y Brifysgol, a byddai staff yn rhesymol yn disgwyl i ffilmio neu luniau sy'n gysylltiedig â gwaith gael eu tynnu ohonynt.

 

Hawliau Testun Data ar gyfer Ffotograffiaeth neu Ffilmio

Mae gan unigolion sy'n ganolbwynt i'r ffilmio neu'r ffotograffiaeth nifer o hawliau o ran eu data. Efallai y gallant ofyn am gopïau o ddelweddau a ffilm lle maent yn destun neu fynnu bod llun neu ffilm ohonynt yn cael eu tynnu i lawr o wefan y Brifysgol neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol trydydd parti eraill megis Twitter neu Facebook. Gallant hefyd ofyn i bob delwedd a ffilm ohonynt gael eu dileu. 

Os byddwch yn derbyn cais fel hwn mewn perthynas â'ch ffilmio neu’ch ffotograffiaeth, cysylltwch â info-compliance@bangor.ac.uk . Dylid anfon pob ymholiad mewn perthynas â deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth a diogelu data at info-compliance@bangor.ac.uk.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?