Gofynnir i chi wneud cais ar-lein pan cewch wahoddiad trwy e-bost i wneud hynny. Mae'r Brifysgol yn gwarantu i sicrhau ystafell i chi os gwnewch gais erbyn 31 Gorffennaf ac yn astudio yn ein campws ym Mangor. Bydd myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth yn parhau i fyw mewn llety hyd at Haf 2024. Oherwydd hyn, dim ond mewn un neuadd y gellir rhoi llety i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth, gan ei bod yn agored drwy gydol y cwrs sef Neuadd Borth.
Fodd bynnag, os yw'n well gennych fyw mewn neuadd gyda myfyrwyr eraill, cysylltwch â ni yn uniongyrchol a gallwn gadw lle i chi mewn neuadd wahanol i'r Borth. Sylwch y bydd angen i chi symud allan o'r neuadd ar ddiwedd y cytundeb a naill ai symud i Borth ar gyfer gweddill gwyliau'r haf neu symud yn ôl adref.