Fy ngwlad:

Llety i Ôl-raddedigion newydd

EIN NEUADDAU ÔL-RADDEDIG

Mae'r neuaddau isod oll ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig. Maent yn cynnwys ystafelloedd safonol, en-suite, stiwdios a thai tref. 

Gwneud cais am Lety

Bydd ymgeiswyr llawn-amser sydd wedi derbyn cynnig (a all fod yn un amodol) i astudio yn y Brifysgol ym mis Ionawr 2025 yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i wneud cais wedi i'r system agor ym mis Rhagfyr 2024. Unwaith y byddwch wedi derbyn yr ebost, gallwch wneud cais ar-lein.

Bydd ymgeiswyr llawn-amser sydd wedi derbyn cynnig (a all fod yn un amodol) i astudio yn y Brifysgol ym mis Medi 2025 yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i wneud cais wedi i'r system agor ar ddiwedd mis Ionawr 2025. Unwaith y byddwch wedi derbyn yr ebost, gallwch wneud cais ar-lein.

Gofalwch bod eich cyfeiriad e-bost cyfredol gan y Brifysgol.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol gwnewch gais cyn gynted ag y gofynnir i chi wneud hynny. Peidiwch â disgwyl nes i chi gael fisa - efallai na fydd unrhyw ystafelloedd ar ôl erbyn hynny.

Help i gael llety preifat ar rent

Fe wnawn geisio rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl os na fu eich cais yn llwyddiannus. Os na fu eich cais am ystafell mewn Neuadd yn llwyddiannus, neu os nad ydych eisiau byw mewn neuadd, bydd angen i chi chwilio am ystafell yn y sector preifat ac fe wnaiff y Swyddfa Tai Myfyrwyr eich helpu i wneud hynny.