Bydd yr Arholiad Mynediad yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor gan ddefnyddio platfform Cynghrair Asesu Cyngor Ysgol Meddygaeth (MSCAA). Bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â Chyfweliadau Bach Lluosog wyneb yn wyneb (Multiple Mini Interviews), ac yna’r arholiad.
Bydd yr Arholiad Mynediad yn cael ei fapio yn erbyn canlyniadau dysgu Blwyddyn 1 a bydd yn cael ei osod yn safonol gyda darlithwyr y gyfadran, gan ychwanegu’r dull ystadegol mwyaf priodol i osod y marc llwyddo fel y penderfynir gan y Grŵp Gosod Safonau a’r seicometregydd.
Ar gyfer pwy mae’r Arholiad Mynediad?
Bydd ymgeiswyr sy’n raddedigion rhaglenni gradd sy'n berthnasol i astudiaethau meddygol, gan gynnwys graddedigion Deintyddol, sy'n bodloni'r meini prawf derbyn penodedig ac sy'n cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus yn cael eu gwahodd i sefyll yr Arholiad Mynediad a chyfweliad.
Noder nad yw'r Arholiad Mynediad yn berthnasol i ymgeiswyr sy'n dod o'n ffrydiau bwydo cydnabyddedig.
Meysydd y bydd yr arholiad Meddygaeth i Raddedigion yn seiliedig arnynt:
- Y system resbiradol, anatomeg a ffisioleg anadlu mewn iechyd ac afiechyd (asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, ac ati).
- Y system gastroberfeddol uchaf a’i swyddogaeth mewn ffisioleg a phatholeg (Wlseriad, heintiau bacteriol megis Helicobacter pylori).
- Anatomeg y system gyhyrysgerbydol, swyddogaeth, anaf ac ymateb i drawma h.y. gwellhad clwyfau yn ogystal ag atgyweiriad esgyrn.
- Y system gardiofasgwlar, swyddogaeth (cyhyrau a symudiad), clefyd, clefyd ischaemig y galon, arrhythmiau, a methiant gorlenwad y galon
- Iechyd gwybyddol, adeiledd yr ymennydd, swyddogaeth, cyflenwad gwaed a dirywiad gwybyddol sy'n gysylltiedig ag oedran
- Y system genhedlol-droethol ac atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd, dulliau atal cenhedlu, beichiogrwydd, ac anhwylderau etifeddol (syndrom Down ac ati)
- Rhifedd ac ystadegau (cyfrifiadau dosio, hanner oes, cyfrifo dognau a dehongli gwerthoedd p a’r mathau o wallau a geir.)
- Geneteg, dealltwriaeth o'r cydadwaith rhwng cod asidau amino a ffurfiant proteinau, moddau etifeddu a dehongli’r goeden deulu.
- Gwenwyno / adweithiau niweidiol i gyffuriau (ymgyflwyniad gorddosau cyffredin megis asbirin ac ati)
- Adeiledd a swyddogaeth ensymau, cineteg gradd 1 a 2, termau megis affinedd rhwymo a chyflymder mwyafsymaidd a chyfrifo'r pethau hynny.
- Treuliad, y broses o ymddatod carbohydradau, proteinau a brasterau, pa ensymau sy'n gysylltiedig â hyn a pha amodau sydd eu hangen.
- Maetheg, macro a microfaetholion, swyddogaeth fitaminau a chydffactorau, pa fwydydd sy'n eu cynnwys, pa symptomau sy’n gysylltiedig â diffyg fitaminau.
- Canlyniadau ffisiolegol Haint, adnabod celloedd imiwn a rôl celloedd imiwn wrth atal haint a datblygu imiwnedd.
- Poen, beth yw'r llwybr poen, sut mae gwybodaeth synhwyraidd o’r bys dyweder yn cael ei throsglwyddo, beth yw ffibrau poen a pha wybodaeth y maent yn ei chyfleu, gweithrediad cyffuriau lladd poen i leddfu poen.
- Microanatomeg y croen, y cyhyrau, a meinwe blonegog, gallu adnabod adeileddau meinwe allweddol, gwahanol fathau o gelloedd yn ogystal â swyddogaeth fiolegol y systemau hyn.
- Strwythur a swyddogaeth cartilag, adnabod gwahanol gydrannau cartilag a cholagen yn ogystal â gallu nodi ble yn y corff y gellir dod o hyd i wahanol isofformau'r matricsau hyn a beth yw eu swyddogaeth.
- Swyddogaeth a phrosesau’r celloedd, beth yw'r prosesau hanfodol sy'n sicrhau bod celloedd yn gallu ymateb i newid homeostatig, a sut mae bacteria a firws yn effeithio ar y systemau hyn?
- Swyddogaeth derbynyddion, y gwahanol ddosbarthiadau o dderbynyddion megis derbynyddion cypledig protein G (GPCRs), sianeli ïonau ligand-adwyedig, derbynyddion yn ogystal ag ensymau cinas tyrosin a sut y gallai ligand / cyffuriau effeithio ar y derbynyddion hyn.
- Cyflenwad gwaed, arloesedd, anatomeg a gweithrediad yr iau
- Dehongli delweddu meddygol, dehongli MRI, sgan CT, pelydr-X i nodi adeileddau gros y corff ar y delweddau hynny, yn ogystal ag annormaleddau cyffredin a welir yn y clinig megis asgwrn wedi torri ac ati.
- Niwrodrosglwyddiad, deall systemau signalau allweddol megis serotonin, dopamin, asetylcolin yn ogystal â rhai eraill, pwysigrwydd biolegol y systemau signalau hyn a pha brosesau ffisiolegol y maent yn eu rheoli.
- Adeiledd a swyddogaeth anatomeg yr arennau, rôl yr aren mewn ffisioleg a sut y gellir amharu ar y swyddogaeth hon mewn clefydau a/neu gyflyrau megis niwed i'r arennau.
- Gweithrediadau cyffuriau, sut mae meddyginiaethau a roddir yn gyffredin ar bresgripsiwn yn gweithio, beth yw'r mecanwaith gweithredu.
- Systemau ail negesyddion, sut mae signalau'n cael eu cario o un ochr i'r gellbilen i'r llall, trosglwyddo signal o'r fath trwy dderbynyddion cypledig protein G a pha negeswyr a ddefnyddir megis cAMP.
- Cydbwysedd asid-bas, dealltwriaeth o hyn mewn iechyd ac afiechyd, gan gynnwys cyflyrau megis asidosis ac alcalosis.
- Proffesiynoldeb, cwestiynau a fydd yn profi senario posibl a beth fyddai myfyriwr meddygaeth yn ei wneud yn y senario hwnnw.