MEDRU: Y FFATRI SGILIAU

medru: y ffatri sgiliau Partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a’r Brifysgol Agored yng Nghymru yw medru: y ffatri sgiliau. Mae’r arbenigedd sydd gennym rhyngom ym meysydd diwydiant ac addysg yn golygu ein bod mewn sefyllfa berffaith i arfogi pobl a busnesau â’r sgiliau y mae arnynt eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Mae'r sgiliau hyn yn canolbwyntio ar y datblygiadau mwyaf newydd a mwyaf cyffrous mewn perthynas â Diwydiant 4.0, Gweithgynhyrchu Digidol, a Ffatrïoedd Clyfar. Rydym ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi, ac yn gwybod beth mae angen i fusnesau ei wneud i baratoi eu gweithluoedd er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol ac i fanteisio ar gyfleoedd.

Gwyddom hefyd fod angen i hyfforddiant fod yn hygyrch ar gyfer pawb. Mae ein hyfforddiant ni bob amser yn eang ac yn hyblyg er mwyn ffitio o gwmpas gwaith a bywyd. Fe'i cynlluniwyd gyda'r gweithlu llawn mewn golwg, o rai sy’n dechrau o’r newydd i arbenigwyr technegol gyda degawdau o brofiad yn y diwydiant.

Gellir cyflwyno llawer o'n cyrsiau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, gyda chyfle i ddysgwyr a sefydliadau ddewis astudio yn y ffordd sy’n addas iddyn nhw. Yr uchelgais yw y bydd Medru yn cynnig hyfforddiant Diwydiant 4.0 ledled gogledd-ddwyrain Cymru, gan gefnogi busnesau a phobl yn eu dyheadau, a chreu llif o dalent ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn seiliedig i ddechrau ar naw colofn Diwydiant 4.0:

  • Robotiaid Awtonomig
  • Rhyngrwyd Pethau
  • Efelychu
  • Seiberddiogelwch
  • Realiti Estynedig
  • Integreiddio Systemau
  • Cyfrifiadura yn y Cwmwl
  • Gweithgynhyrchu Adiol (Argraffu 3D)
  • Data Mawr
Llun i gyfleu Grwp Ymchwil Datblygiadau ac Arloesi Methodolegol Ysgol Busnes Bangor

MEDRU: AR GYFER BUSNES

 

Ewch i’r afael â’r dyfodol, gyda hyfforddiant technoleg glyfar dan arweiniad diwydiant sy'n cyd-fynd ag anghenion eich busnes. Mae ein cyrsiau hyfforddi yn rhai hyblyg ac ymarferol sy’n cael eu cyflwyno fesul camau bychain ac wedi'u llunio i fod yn addas i’ch gweithwyr a'ch nôd. Drwy gyfrwng ymgynghoriad sydd wedi’i ariannu’n llawn, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar eich gweithlu ar hyn o bryd, a’r sgiliau y bydd arnynt eu hangen mewn blynyddoedd i ddod. Bydd ein tiwtor yn cyflwyno'r hyfforddiant, wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, mewn ffordd sy'n sicrhau bod eich gweithwyr a'ch busnes yn gweithredu ar eu gorau, pa bynnag gam y maent o ran bywyd a gyrfa.


Bydd eich gweithwyr hefyd yn cael mynediad at ein Sgyrsiau Technoleg; yr holl fewnwelediadau technolegol diweddaraf gan arbenigwyr y diwydiant, oherwydd mae ein golygon ni ar y dyfodol. Rydym yn canolbwyntio ar y datblygiadau mwyaf newydd a mwyaf cyffrous mewn perthynas â Diwydiant 4.0, Gweithgynhyrchu Digidol, a Ffatrïoedd Clyfar. Rydym ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi, ac eisoes un cam ar y blaen ac yn rhagweld beth sydd i ddod. A byddwn yn helpu i sicrhau bod eich busnes yn barod ar gyfer hynny.


Ar y cyd, mi fedrwn.

Cynllunio gwaith ar gyfrifiadur

MEDRU: YMGYNGHORIAETH

 

Ydych chi eisiau'r cyfle i weithio gydag arbenigwr i edrych mewn manylder ar uchelgais eich sefydliad, deall eich anghenion hyfforddi a chael cymorth i nodi'r camau ymarferol y gallwch eu cymryd i gyflawni'r hyn yr ydych eisiau ei gyflawni?

Os ydych yn edrych ar Ddiwydiant 4.0 a sut y gellir ei gyflwyno, yn bwriadu defnyddio technoleg newydd sbon a newid eich ffordd o weithio ond yn ansicr ble i ddechrau, gallwn ni helpu. Gallwn ddarparu arbenigwr i weithio gyda chi, a fydd wedi'u hariannu'n llawn, i alluogi gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallwch ei gyflawni a sut i wneud hynny yn ogystal â'ch helpu i ddeall beth fyddai budd hynny i chi.

MEDRU: CYRSIAU

Gall Medru deilwra cyrsiau hyfforddi i gwrdd â’ch anghenion. Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch neu gadewch i ni arwain y ffordd a byddwn yn gweithio gyda chi a'ch staff i wneud i hynny ddigwydd. Boed yn gyrsiau byr neu hir, wedi eu hachredu neu beidio, rydym yn canolbwyntio ar yr anghenion busnes a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nodau trwy gynnig hyfforddiant technoleg glyfar dan arweiniad diwydiant a fydd yn sicrhau fod eich gweithwyr a'ch busnes yn gweithredu ar y safon uchaf.
 
Mae gennym lawer iawn o ddeunyddiau y gallwn eu defnyddio neu gallwn ddylunio rhywbeth hollol newydd trwy gyfrwng ein tîm hynod gymwys a phrofiadol o hyfforddwyr ac academyddion ym maes STEM ac yn benodol ym maes Diwydiant 4.0.
 
Bwriad hyn i gyd yw sicrhau bod eich pobl yn barod i fynd i’r afael â’r dyfodol gyda chi. Ar y cyd, mi fedrwn!
 

Y buddion i’ch sefydliad

  • Fel academyddion ac arbenigwyr mewn diwydiant, rydym yn darparu sgiliau i bobl, gweithluoedd a sefydliadau.
  • Byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod eich anghenion hyfforddi ac i ddarparu ar eu cyfer mewn modd cwbl hyblyg sydd wedi'i deilwra ar eich cyfer.
  • Gallwn weithio gyda'ch tîm cyfan, o rai sydd newydd ddechrau i weithwyr proffesiynol profiadol i sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â'r dyfodol gyda chi.
     

Y buddion i’ch staff

  • Hyfforddwyr profiadol sy'n gallu teilwra'r dysgu i'w cynulleidfa
  • Tystysgrif ddigidol ar gyfer pob cwrs sy’n cael ei ddilyn
  • Galluogi eich tîm i ddatgloi eu potensial

MEDRU: CYSYLLTWCH Â NI

Hoffech chi gael gwybod mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi neu'ch busnes?

Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi.

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK.

Ble rydym ni

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?