Myfyrwyr gyda theuluoedd

Rhagarweiniad

Yma ym Mangor, rydym yn sylweddoli bod myfyrwyr yn dod yma i astudio o bob cefndir ac nad yw pob myfyriwr yn cyrraedd yma’n syth o’r ysgol ar ôl cwblhau astudiaethau lefel A.

Rydym yn deall y byddwch o bosibl ag ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill ac yn sylweddoli y gallai fod gennych fwy o brofiad o fywyd ac i’ch llwybr chi at addysg uwch fod yn un gwahanol iawn.

Rydym yn gobeithio bydd y wefan hon yn gymorth i chi o ran gwybodaeth am lety, gwybodaeth am ofal plant ac ysgolion lleol a gwybodaeth am gefnogaeth ariannol bellach i'r carfannau hyn o fyfyrwyr:

Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau pellach 

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae ein derbynfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gydol y flwyddyn o 09:00 i 17:00.

Medrwch gysylltu trwy:

Ffôn: 01248 38 2024
E-bost: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk
Gwefan: www.bangor.ac.uk/studentservices/contact.php.cy

Enw Swydd
Gian Fazey-Koven Pennaeth Cymorth a Lles Myfyrwyr
Marcel Clusa Rheolwr Cymorth i Fyfyrwyr

Nol i dechra y tydalen

Darpariaeth Ysgol

Merch yn darllen llyfr

Yma ym Mangor, rydym yn sylweddoli bod myfyrwyr yn dod yma i astudio o bob cefndir ac nad yw pob myfyriwr yn cyrraedd yma’n syth o’r ysgol ar ôl cwblhau astudiaethau lefel A.

Gwynedd

106 Ysgol Gynradd, 14 Ysgol Uwchradd a 2 Ysgol Arbennig yng Ngwynedd. Cliciwch yma

Ynys Mon

Mae 40 o ysgolion cynradd, 5 ysgol uwchradd ac un ysgol arbennig yn Ynys Môn. Cliciwch yma am wybodaeth am ysgolion cynradd ac uwchradd ar Ynys Môn.

Conwy

I gael gwybodaeth am dderbyniadau ysgol yn ardal Conwy cliciwch yma.

Wrecsam

I gael gwybodaeth am dderbyniadau ysgol yn ardal Wrecsam cliciwch yma.

Rydym yn deall y byddwch o bosibl ag ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill ac yn sylweddoli y gallai fod gennych fwy o brofiad o fywyd ac i’ch llwybr chi at addysg uwch fod yn un gwahanol iawn.


Rydym yn gobeithio bydd y wefan hon yn gymorth i chi o ran gwybodaeth am lety, gwybodaeth am ofal plant ac ysgolion lleol a gwybodaeth am gefnogaeth ariannol bellach i'r carfannau hyn o fyfyrwyr:

  • Pethau i'w gwneud yn eich ardal - clybiau, digwyddiadau
  • Byw yn iach
  • Gyrfaoedd a gwirfoddoli
  • Gofal plant yn eich ardal. Beth yw eich opsiynau?
  • Sefydliadau plant a llinellau cymorth

Yn ôl i’r dechrau

Darparieth Gofal Plant

Primary aged children sit on the floor around a book

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal, a ariennir gan y Llywodraeth, i blant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r Cynnig yn adeiladu ar yr ymrwymiad cyffredinol i addysg gynnar, sef darpariaeth am o leiaf 10 awr yr wythnos i blant tair a phedair oed – gan ddechrau, fel rheol, o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

Darllen mwy am y Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Gwynedd-Ni yn wasanaeth gwybodaeth. Gallwch gysylltu â nhw ynglŷn â'r canlynol:

rhestr gofal plant e.e. Gofalwyr Plant, Meithrinfeydd, Clybiau ar ôl Ysgol, Cylchoedd Meithrin

gwybodaeth am wasanaethau lleol e.e. GISDA, CAB, Barnardos, Iechyd cefnogaeth i sefydlu darpariaeth gofal plant newydd e.e. cofrestru i fod yn ofalwr plant

gweithgareddau i blant ac i'r teulu e.e. beth sydd ymlaen yn ystod gwyliau ysgol a dyddiau gweithgareddau difyr i'r teulu

clybiau e.e. pêl-droed, nofio, cerddoriaeth, celf, hoci, dawns llinellau cymorth

gwasanaethau i blant gydag anghenion ychwanegol

Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu â Gwynedd-Ni:

Ffôn: 01286 675570

E-bost: Gwynedd-ni@gwynedd.gov.uk 

Neges destun: 07920 083909

Gwefan: www.gwynedd-ni-org.uk

 

Cyfleusterau gofal plant ym Môn

Gwasanaeth tebyg i Tŷ-Ni am wybodaeth ar faterion teuluol a gofal plant ar Ynys Môn.

Am fwy o wybodaeth, gallwch fynd i'w gwefan drwy glicio yma neu gallwch gysylltu'n bersonol dros y ffôn neu drwy e-bost.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Teulu Môn
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 725888
E-bost: teulumon@anglesey.gov.uk

 

Cyfleusterau gofal plant yng Nghonwy


Similar to Ty-Ni for family and childcare information in Conwy.

For more information click here to go direct to their website.

Contact details:

Conwy County Borough Council
PO Box 1
Conwy
LL30 9GN


Telephone: 01492 577850
E-mail us on: plant.children@conwy.gov.uk
Website: www.conwy.gov.uk/children

Yn ôl i’r dechrau

Cymorth Ariannol

Yn dangos desg gan gynnwys taflen gyfrifeg, sbectol, cyfrifiannell a beiro.

Bwrsariaethau i Adleoli Teuluoedd 

Gall adleoli i astudio gyda theulu fod yn broses ddrud a gall myfyrwyr wynebu costau symud tŷ, costau rhentu uchel, costau gofal plant, etc. Er mwyn cynorthwyo teuluoedd ar incwm is mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno bwrsariaeth o £1,000 i helpu myfyrwyr gyda’u costau adleoli. 

Telir y fwrsariaeth hon yn y flwyddyn academaidd gyntaf yn unig ac fe'i dyfernir i fyfyrwyr gydag incwm trethadwy o £25,000 neu lai. 

Er mwyn gwneud cais dylai myfyrwyr gysylltu â'r Uned Cymorth Ariannol i drafod eu sefyllfa ac i gael ffurflen gais. 

Cyllid Myfyrwyr 

Cymorth ariannol pellach i fyfyrwyr gyda phlant dibynnol 

Bydd faint o gymorth a dderbyniwch yn dibynnu ar eich incwm eich partner (os yn berthnasol) a’ch cwmni benthyciad.

Grant Gofal Plant 

Gall myfyrwyr llawn-amser o'r DU gyda phlant dibynnol sydd mewn gwasanaeth gofal plant cofrestredig a chydnabyddedig wneud cais am Grant Gofal Plant.

  • Yr uchafswm grant gofal plant sy'n daladwy yw 85% o'r gwir gost gofal plant.
  • Ni allwch dderbyn y grant hon os ydych chi neu'ch partner yn derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gweithio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
  • Chi sydd i benderfynu pa un y dymunwch ei dderbyn os ydych yn gymwys i'r ddau.
  • Gallwch wneud cais am y cymorth hwn cyn dechrau neu yn ystod eich cwrs.
  • Gallwch dderbyn Grant Gofal Plant yn ystod adeg tymor ac yn ystod eich gwyliau.
  • Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn ystyried swm y Grant Gofal Plant a ddyfernir pan fyddant yn cyfrifo eich hawliad i fudd-dal.
  • Telir y Grant Gofal Plant fel arfer mewn tri rhandaliad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, un ar ddechrau bob tymor ar yr un pryd â'ch benthyciad cynhaliaeth a grantiau eraill.
  • Bydd eich sefydliad Cyllid Myfyrwyr yn gofyn i chi am gadarnhad o'ch gwir gostau gofal plant BOB tymor.

OS NAD YDYCH YN CYFLWYNO'R CADARNHAD HWN, EFALLAI NA FYDDWCH YN DERBYN EICH RHANDALIAD NESAF.

Lwfans Dysgu i Rieni 

Mae’r cymorth yma tuag at gostau’r cwrs ar gyfer myfyrwyr llawn amser sydd â phlant dibynnol.

  • Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn cyfrif y grant hon wrth gyfrifo eich hawl i gael budd-daliadau.
  • Mae'r swm a gewch chi yn dibynnu ar eich incwm chi ac incwm eich dibynyddion (gan gynnwys eich gŵr, gwraig neu bartner).
  • Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fel arfer yn ei dalu mewn tri rhandaliad gyda’ch benthyciad. Ni fydd raid i chi ad-dalu’r cymorth hwn.
Myfyrwyr gyda phlant neu oedolion dibynnol

Os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn a bod gennych bartner neu oedolyn arall, fel arfer aelod o'ch teulu, sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am y Grant Oedolion Dibynnol. Mae faint a gewch yn dibynnu ar eich incwm ac incwm eich oedolion dibynnol.

Sut mae'n cael ei dalu?

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fel arfer yn ei dalu mewn tri rhandaliad

Myfyrwyr o Gymru – 2024-25

Grant Cymorth Arbennig

Mae Grant Cymorth Arbennig wedi ei gyflwyno ar gyfer myfyrwyr a all fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau phrawf modd megis Cymhorthdal Incwm / Credyd Cyffredinola a Budd-dal Tai. Yn fras, bydd hyn yn cynnwys:

  • Rhieni sengl
  • Cyplau gyda phlant ble mae’r ddau yn fyfyrwyr llawn amser
  • a rhai myfyrwyr anabl.
  • Mae uchafswm y cymorth yr un faint â’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae’r grant yma yn cael ei dalu yn lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nid yn ychwanegol iddo.  


Tabl hawl Grant Cymorth Arbennig a Benthyciadau Cynhaliaeth

Incwm Trethadwy
Eich Cartref
Grant Cymorth Arbennig
- byw oddi cartref
 
Benthyciad Cynhaliaeth
- byw oddi cartref

 
Cyfanswm  Grant & Benthyciad –  byw oddi cartref Grant Cymorth Arbennig
- byw gyda’u rhieni

 
Benthyciad Cynhaliaeth
- byw gyda’u rhieni
Cyfanswm  Grant & Benthyciad - byw gyda’u rhieni
£18,370 neu llai £8,100 £5,575 £13,675 £6,885 £4,655 £11,540
£25,000 £6,947 £5,575 £12,522 £5,930 £4,655 £10,585
£35,000 £5,208 £6,942 £12,150 £4,488 £5,827 £10,315
£45,000 £3,469 £8,681 £12,150 £3,047 £7,268 £10,315
£59,200 neu yn uwch  £1,000 £11,150 £12,150 £1,000 £9,315 £10,315

Bydd £5,161 o'r Grant Cymorth Arbennig yn cael ei ddiystyru at ddibenion budd-dal prawf modd.
Am fwy o wybodaeth pwy sy’n gymwys am y Grant Cymorth Arbennig cysylltwch gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu'r Uned Cymorth Ariannol.

Am ragor o wybodaeth, cyngor ac arweiniad am gymorth ariannol cysylltwch â'r
Uned Cymorth Ariannol. 

Ebostiwch moneysupport@bangor.ac.uk

Ffôn : 01248 38 3566 / 3637

Myfyrwyr o Loegr – 2024-25

Myfyrwyr sydd â phlant neu oedolion dibynnol

Cefnogaeth Ariannol Ychwanegol – Elfen Benthyciad Cefnogaeth Arbennig

Mae’r Elfen Benthyciad Cymorth Arbennig ar gael i fyfyrwyr a allai fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau prawf modd megis Lwfans Ceisio Gwaith / Cymhorthdal Incwm / Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai. Mae'r myfyrwyr hyn yn cynnwys y rhai sydd:

  • rhieni unigol
  • â phlant dibynnol ac mae eu partner hefyd yn fyfyriwr amser llawn
  • yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau anabledd penodol
Incwm Trethadwy Aelwydydd Elfen Benthyciad Cymorth Arbennig - Mewn Man arall Benthyciad Cynhaliaeth - Mewn mannau eraill Cyfanswm hawl Benthyciad -   Mewn mannau eraill
£25,000 neu llai £4,221 £7,331 £11,658
£30,000 £3,196 £7,331 £10,527
£35,000 £2,065 £7,331 £9,396
£40,000 £934 £7,331 £8,265
£44,791 £0.00 £7,331 £7,331
£45,000 £0.00 £7,304 £7,304
£50,000 £0.00 £6,573 £6,573
£62,361 neu yn uwch £0.00 £4,767 £4,767

Bydd swm penodol o'r Benthyciad Cymorth Arbennig yn cael ei ddiystyru at ddibenion budd-dal prawf modd.

I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys ar gyfer y Benthyciad Cymorth Arbennig, cysylltwch â www.gov.uk/apply-for-student-finance neu’r Uned Cymorth Ariannol

Am ragor o wybodaeth, cyngor ac arweiniad am gymorth ariannol cysylltwch â'r
Uned Cymorth Ariannol.

 Ebost. moneysupport@bangor.ac.uk 

 Tel : 01248 38 3566 / 3637

Yn ôl i’r dechrau

BUDD-DALIADAU

Yn gyffredinol, nid yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig amser llawn yn gallu hawlio budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a Budd-dal Tai ac ati drwy gydol eu cwrs, gan gynnwys gwyliau. Ond mae yna eithriadau. Mae eithriadau yn cynnwys:

•    Rhieni sengl: Os ydych yn rhiant sengl i blentyn dan 5 oed

•    Myfyrwyr ag anableddau (Os ydych yn gymwys am bremiwm anabledd neu anabledd difrifol, os ydych wedi bod yn analluog i weithio am 28 wythnos neu os ydych yn derbyn LMA oherwydd byddardod.)

•    Cyplau sy'n fyfyrwyr amser llawn gyda phlant dibynnol

•    Myfyrwyr sydd derbyn pensiwn.


Os ydych yn gymwys o dan un o’r categorïau cymwys uchod, efallai y byddwch yn gallu hawlio Credydau Treth Plant, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor neu Gredyd Cynhwysol, er y gallai hawl newid yn ystod y flwyddyn academaidd.


Os ydych yn gymwys i gael budd-daliadau prawf modd o dan un o’r categorïau cymwys uchod a’ch bod yn fyfyriwr israddedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am y Grant Cymorth Arbennig ac nid Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gan eich sefydliad cyllid myfyrwyr.


Cyllid Myfyrwyr a Budd-daliadau Lles

• Sylwch, os ydych yn gymwys i gael budd-daliadau prawf modd, bydd yr Asiantaethau Budd-daliadau yn ystyried unrhyw gyllid i fyfyrwyr a gewch.

• Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, bydd yr Asiantaethau Budd-daliadau yn ystyried yr arian sydd ar gael i chi p'un a fyddwch yn ei gymryd ai peidio.

• Mae hyn hefyd yn berthnasol os yw'ch partner yn gymwys i gael budd-daliadau.

• Fodd bynnag, bydd eich Benthyciad Ffioedd Dysgu, cyfran o unrhyw Grant Cymorth Arbennig, Grant Gofal Plant a'r Lwfans Dysgu i Rieni yn cael eu diystyru gan yr Asiantaethau Budd-daliadau pan fyddant yn gwneud cais.

Cyn i chi ddechrau eich astudiaethau

• Os ydych yn hawlio budd-dal prawf modd cyn i chi ddechrau eich cwrs, rhaid i chi hysbysu'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal eich bod yn fyfyriwr a datgan eich incwm myfyriwr.

• Gallai methu â gwneud hynny olygu y byddwch yn cael gordalu budd-daliadau, y byddant yn gofyn i chi ei ad-dalu tra bydwwch yn astudio. Mae byw ar incwm myfyriwr yn ddigon anodd heb orfod ad-dalu gordaliadau budd-dal.

I gael rhagor o wybodaeth am hawl i fudd-daliadau cysylltwch â'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal.

Treth y Cyngor

Nid oes unrhyw rwymedigaeth Treth y Cyngor ar gyfer pob myfyriwr llawn amser ers mis Ebrill 2004.

• Er mwyn cael eich eithrio rhag talu Treth y Cyngor bydd angen i chi anfon copi o'ch tystysgrif presenoldeb i'ch Cyngor lleol. Gallwch gael eich tystysgrif presenoldeb trwy eich cyfrif FyMangor nei drwy ebostio Tîm Gweinyddol
 

Yn ôl i’r dechrau

Llety Teulu

Nid oes gan y brifysgol lety i deuluoedd ar hyn o bryd, felly bydd rhaid i chi edrych yn y sector preifat os ydych yn bwriadu symud i Fangor gyda'ch teulu. Mae gan y Swyddfa Tai Myfyrwyr dudalen we yn hysbysebu'r eiddo sydd ar gael, sy'n cael ei diweddaru'n ddyddiol, ewch i www.bangorstudentpad.co.uk i chwilio yn ein cronfa ddata Studentpad - gallwch ddewis “Fi a’m teulu” o'r ddewislen “Pwy sy’n edrych” ar yr hafan. 

Gallwch hefyd gael mynediad at Gyngor Tai a Chysylltiadau Defnyddiol drwy'r wefan, sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol.

Mae hi yn anodd dod o hyd i lety i deulu ym Mangor, felly efallai y bydd rhaid i chi hefyd gysylltu â'r asiantaethau gosod lleol a/neu ystyried chwilio am lety y tu allan i Fangor. Rydym yn argymell eich bod yn dod i Fangor ar eich pen eich hun yn y lle cyntaf os yn bosib, a bod eich teulu yn ymuno â chi pan fyddwch wedi dod o hyd i lety addas ar eu cyfer. 

Cysylltwch â ni am restr o lety gwely a brecwast / gwestai a allai fod yn ddefnyddiol i chi. I weld map o'r ardal, ewch i www.bangor.ac.uk/tour/documents/map.pdf 

I gael cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â lles i fyfyrwyr rhyngwladol a’u teuluoedd, ewch i: www.bangor.ac.uk/international/support/ a www.bangor.ac.uk/international/support/families 

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch ynglŷn â llety i deuluoedd, anfonwch e-bost i studenthousing@bangor.ac.uk 

 

Yn ôl i’r dechrau

Llefydd Gwag Untro

Mae Prifysgol Bangor yn disgwyl i’r myfyrwyr sicrhau bod ganddynt drefniadau gofal plant addas ar yr adegau hynny y mae disgwyl iddynt fod yn y brifysgol at ddibenion addysg neu ymchwil sydd ar yr amserlen.  Fodd bynnag, gwyddom y gall amgylchiadau annisgwyl godi ar brydiau, ac rydym bellach yn treialu cynllun Llefydd Gwag Untro.

Lle bo cymarebau staffio’n caniatáu, efallai y bydd gofal plant ar gael i blant myfyrwyr Prifysgol Bangor, mewn argyfwng. Sylwch fod lleoedd yn gyfyngedig iawn ac ni ellir eu gwarantu. Dim ond os oes lle gwag yn y feithrinfa y bydd y ddarpariaeth hon ar gael, ac efallai na fydd hyn yn digwydd bob dydd.  

Ar gyfer argyfyngau yn unig mae’r ddarpariaeth hon, ac ni ddylai gymryd lle gofal plant arferol. Enghraifft o argyfwng yw pan fo rhiant neu warcheidwad arall fel arfer yn gofalu am eich plentyn yn ystod y dydd ac mae’n methu â gwneud hynny oherwydd salwch, a bod gennych sesiwn ymarferol i fynd iddi.

Ni ellir rhoi gofal plant brys i blant sy'n sâl neu'n ymddangos yn sâl. Os yw eich plentyn yn sâl, peidiwch â gofyn am le, oherwydd cewch eich gwrthod.

Er mwyn canfod a oes lle ar gael i’r plentyn mewn argyfwng, rhaid i chi lenwi’r ffurflen yma.

Unwaith y bydd asesiad wedi ei wneud, byddwn yn eich hysbysu a oes lle ar gael a beth fydd angen i chi ei wneud i gadarnhau.

Cofiwch, mae'r Brifysgol ar agor rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng 9am a 5pm. Ni fyddwn yn gallu ymateb i ymholiadau y tu allan i'r amseroedd hynny.

Yn ôl i’r dechrau

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?