Mae Prifysgol Bangor a Chymdeithas Sŵolegol Llundain wedi derbyn £249,919 i redeg y prosiect ‘Adfer Wystrys Gwyllt i Fae Conwy’ ar arfordir Gogledd Cymru.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri yn rhedeg Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Nod y prosiect dwy flynedd yw adfer cynefin wystrys brodorol Ewropeaidd a chymuned o organebau cysylltiedig.
Mae prosiect ‘Adfer Wystrys Gwyllt i Fae Conwy’ yn un o 17 prosiect sy’n derbyn cyllid i helpu rhwydwaith Cymru o safleoedd morol a thir gwarchodedig i ffynnu, ac annog cymunedau lleol i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.
Bydd y prosiect dwy flynedd yn cyflwyno wystrys brodorol Ewropeaidd ar safleoedd gwarchodedig AGA Bae Lerpwl ac ACA Afon Menai a Bae Conwy.
Meddai Maria Hayden-Hughes, Swyddog Prosiect Wystrys Gwyllt o Brifysgol Bangor, “Mae wystrys brodorol yn darparu buddion enfawr i’n dyfroedd arfordirol trwy helpu i lanhau ein moroedd a gweithredu fel cynefin pwysig i fywyd gwyllt y môr. Yn hanesyddol, roeddent yn ffynhonnell fwyd hanfodol i gymunedau arfordirol Cymru. Yn lleol i Fae Conwy, roedd gwelyau wystrys brodorol cynhyrchiol yn ystod y 1700 a’r 1800au y Fenai, oddi ar Ynys Seiriol ac o amgylch Ynys Môn. Yn anffodus, dim ond ychydig o boblogaethau wystrys brodorol sydd ar ôl yng Nghymru, a heb ymyrraeth, mae’r rhywogaeth ar y llwybr i ddifodiant. Drwy gydweithio, rydym yn gobeithio helpu i adfer y rhywogaeth hanesyddol bwysig hon a chynnal cefnfor llawn bywyd.
“Bydd y prosiect Adfer Wystrys Gwyllt i Fae Conwy yn ailgysylltu pobl â’r hanes yma, ac yn amlygu’r potensial ar gyfer y dyfodol. Bydd y prosiect yn defnyddio ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer grwpiau cymunedol a myfyrwyr ysgol i gymryd rhan mewn cadwraeth forol ymarferol ym Mae Conwy. Mae’n wych gweld plant yn rhyfeddu wrth ddarganfod y bywyd môr arbennig sydd ar garreg eu drws a’r ymchwil diddorol sy’n digwydd yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor. Mae’n gwneud ichi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i wella llythrennedd cefnforol a chynnig profiadau ymarferol amhrisiadwy fel dysgu am yr wystrys a’r bywyd gwyllt carismatig, fel llysywod, pysgod a chrancod y maent yn eu cynnal, i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i warchod a gofalu am yr amgylchedd morol.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae ariannu prosiectau treftadaeth naturiol sy’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng hinsawdd a chefnogi adferiad byd natur yn flaenoriaeth allweddol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
“O fioddiogelwch adar môr, dileu Jac y Neidiwr a chanclwm Japan, i ailgyflwyno wystrys gwyllt, bydd y grantiau hyn yn helpu i atal dirywiad pellach mewn rhywogaethau a chynefinoedd, yn gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd ac yn dod â buddion iechyd uniongyrchol i’r bobl a’r cymunedau dan sylw.”
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Bydd y cyllid hwn yn helpu i hwyluso’r dull Tîm Cymru sydd ei angen i wella cyflwr a gwydnwch ein rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, yn ogystal â chreu rhwydweithiau o bobl sy’n ymgysylltu’n weithredol â byd natur.
“Rwy’n falch o weld yr ystod eang o brosiectau daearol, dŵr croyw a morol a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur gan hyrwyddo camau gweithredu i’n helpu i gyrraedd ein targed 30 wrth 30 [gwarchod 30% o dir a môr trwy 2030] a dod yn natur gadarnhaol. Edrychaf ymlaen at fonitro cynnydd y prosiectau hyn a chyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer ystod o brosiectau mawr maes o law o dan y Gronfa Rhwydweithiau Natur.”
Gweler y rhestr lawn o brosiectau y dyfarnwyd cyllid iddynt.