Cyn-fyfyrwyr PhD yn siarad am eu gyrfaoedd y tu allan i'r byd academaidd
Daeth Dr Melanie Davies (PhD Gwyddorau Biolegol 2003, myfyrwraig ôl-ddoethurol gyda'r North West Cancer Research Fund Institute 2004-2008), a Dr Les Pritchard (Cyfrifiadureg PhD 2004) yn eu holau i Brifysgol Bangor brynhawn Mercher i siarad am eu gyrfaoedd y tu allan i'r byd academaidd. Bu Dr Melanie Davies, sydd bellach yn Arbenigwr Profi a Phrosesau LIMS i Siemens Healthineers, yn disgrifio sut y gwnaeth ei chyfnod fel myfyrwraig PhD ac ôl-ddoethurol ei galluogi i ddechrau ar yrfa lwyddiannus mewn diwydiant. Daeth Dr Les Prichard, sy'n gyfarwyddwr ar Neterix, cwmni seiberddiogelwch, i rannu ei brofiadau o'r byd academaidd.
Cafodd y gweithdy ei drefnu fel rhan o Raglen Datblygu Ymchwilwyr 2020 y Brifysgol i roi cyfle i'r rhai oedd yn bresennol, y gallent fod yn ystyried symud i ddiwydiant, i glywed gan academyddion sydd wedi cymryd y cam hwnnw, a herio'r canfyddiad mai'r byd academaidd yw'r dilyniant arferol ar ôl gwneud PhD. Yn bresennol yn y digwyddiad roedd myfyrwyr PhD a myfyrwyr ôl-ddoethurol o nifer o ysgolion ledled y Brifysgol a ddaeth i rannu eu barn a'u cymhellion dros ystyried gyrfaoedd y tu allan i'r byd academaidd ar ôl gwrando ar ar y ddau siaradwr.
Meddai Peter Butcher, myfyriwr ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig “Roedd yn ddigwyddiad da. Fe agorodd fy llygaid i lawer o wahanol lwybrau sydd ar gael i mi. Fe wnes i fwynhau clywed am brofiad Melanie a Les, yn enwedig am yr hyn a wnaeth eu cymell i fod eisiau symud o'r byd academaidd i ddiwydiant ac am y cyfleoedd a gawsant o wneud hynny, ac am bob cyfaddawd ac aberth y bu'n rhaid iddynt eu gwneud ar hyd y daith."
Aeth Peter yn ei flaen i ddweud bod “Dr Davies wedi priodoli’r rhan fwyaf o’i llwyddiant i’r sgiliau a’r profiadau a enillodd yn ystod ei chyfnod yn y byd academaidd, ac eglurodd fod ei rhesymau dros symud i ddiwydiant yn rhesymau ariannol yn rhannol a’i bod yn barod am heriau newydd.”
Yna dywedodd “Pan oeddwn yn fyfyriwr ym Mangor, cefais fy nysgu gan Dr Pritchard, ac roedd yn dda cael cyfle i roi'r byd yn ei le unwaith eto. Roedd hi'n braf clywed am y profiad a gafodd wrth wneud PhD; roedd natur hunan-dywys, hyblyg y PhD wedi gweddu iddo. Soniodd iddo fod â breuddwyd o sefydlu ei fusnes ei hun rhyw ddiwrnod ac mai dyna a'i symbylodd i symud i ddiwydiant. Cafwyd rhywfaint o gyngor gan Dr Pritchard ar ddiwedd ei sgwrs: sef na ddylem ofni gwneud dewisiadau os ydym yn teimlo mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Hyd yn oed os bydd rhywun yn camu allan o'r byd academaidd, does dim byd yn barhaol, a gallwn wastad gamu'n ôl i'r byd academaidd yn y dyfodol. ”