Coronafirws (COVID-19)
Mae pob un o'n llyfrgelloedd ar gau - ond rydym yn dal yn agored ar-lein
Er bod ein hadeiladau wedi cau, rydym ni fel gwasanaeth yn bendant yn dal yn agored ac ar gael ar-lein i staff a myfyrwyr. Rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau ac adnoddau i'ch cefnogi yn eich astudiaethau, eich dysgu a'ch ymchwil.
Pwysig: Nid oes rhaid i chi ddychwelyd eich llyfrau i'r llyfrgell - gweler y wybodaeth am fenthyciadau a llyfrau y galwyd amdanynt yn ôl isod.
Clicio a Chasglu: Mae’r gwasanaeth nawr ar gael ar gyfer eitemau a gedwir ym mhob Llyfrgell ond bydd angen casglu eich archeb o'r Brif Lyfrgell (bydd angen casglu eitemau a archebwyd yn Wrecsam, o'r llyfrgell yn Wrecsam). Darllenwch tudalen Clicio a Chasglu yma.
Mae gan y Brif Lyfrgell fin dychwelyd llyfrau wrth ymyl y drysau mynediad! Ceir mynediad at hwn rhwng 9 am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Adnoddau ar-lein
Mae gwefan y llyfrgell yn cynnig mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau electronig. Gan nad yw deunydd printiedig ar gael ar hyn o nryd, rydym yn cynyddu ein hymdrechion i brynu e-lyfrau ychwanegol ac adnoddau ar-lein eraill i'ch cefnogi.
- Gellir cyrchu e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data trwy ein cyfleuster chwilio ar-lein.
- Mae'r cysylltiadau i adnoddau electronig ar gyfer eich modiwlau ar gael trwy restrau darllen eich modiwlau ar Blackboard.
- Bydd cyfleuster chwilio'r llyfrgell yn awr yn ddiofyn yn chwilio am ddeunyddiau electronig yn unig. Gallwch barhau i ymestyn eich chwiliad i ddeunydd printiedig os dymunwch.
- Mynediad dros dro am ddim gan gyhoeddwyr electronig - mae'r rhestr ddarllen hon wedi ei chreu i roi cysylltiadau i chi i ddeunydd sydd ar gael yn agored dros dro gan gyhoeddwyr.
- Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i wybodaeth, cysylltwch â'r tîm cefnogaeth academaidd.
Cymorth ar-lein
- Gall y tîm cefnogaeth academaidd ddarparu cefnogaeth pwnc un-i-un trwy Skype for Business neu Microsoft Teams. Cysylltwch â hwy yn libsupport@bangor.ac.uk
- Mae “gofynnwch i'r llyfrgell” - ein gwasanaeth sgwrs fyw - hefyd ar gael i ymholiadau cyffredinol. Chwiliwch am y blwch “gofynnwch i'r llyfrgell” ar we-dudalennau'r llyfrgell.
- Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn llyfrgell@bangor.ac.uk
Archifau a Chasgliadau Arbennig
- Mae'r staff wrth law i ateb unrhyw ymholiadau a dderbynnir trwy e-bost.
- Cofrestrwch ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau wythnosol am ein casgliadau a'n gwasanaeth.
- Cysylltwch â ni yn archifau@bangor.ac.uk.
Benthyciadau a llyfrau y galwyd amdanynt yn ôl
- Bydd yr holl eitemau sydd ar fenthyg ar hyn o bryd, gan gynnwys benthyciadau rhwng llyfrgelloedd, yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig hyd nes y clywir yn wahanol. Ni chodir unrhyw ddirwyon.
- Nid oes rhaid i chi ddychwelyd unrhyw lyfrauond os ydych yn gadael Bangor ac na fyddwch yn dychwelyd y flwyddyn nesaf, gallwch adael llyfrau llyfrgell yn y biniau dychwelyd llyfrau yn y Swyddfa Neuaddau ar safle Ffriddoedd neu safle'r Santes Fair.
- Gall myfyrwyr Wrecsam adael llyfrau yn y bin llyfrau arferol y tu allan i'r llyfrgell.
- Mae cynllun SCONUL Access wedi ei atal dros dro.
- Mae'r gwasanaeth benthyciadau rhwng llyfrgelloedd yn parhau'n weithredol ond dim ond eitemau y gellir eu hanfon yn electronig sydd bellach ar gael.
Cyhoeddir diweddariadau ar wefan y Llyfrgell ac Archifau ac ar ein tudalennau Twitter, Instagram a Facebook.
Darllenwch COA Coronafirws yma.