Primatolegwyr Bangor yn trydar yn fyw am gyfres arloesol y BBC “Primates"
Mae primatolegwyr Prifysgol Bangor yn disgwyl yn eiddgar am lansiad cyfres nodedig y BBC, gan y byddant yn trydar yn fyw o'u cartrefi yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud.
Cafodd y rhaglenni bywyd gwyllt newydd eu ffilmio dros 2 flynedd gan uned astudiaethau natur y BBC a'r nod yw bwrw goleuni newydd ar fywydau ein perthnasau agosaf o bob cwr o'r byd, yn ogystal ag ar yr heriau cadwraeth sy'n eu hwynebu.
I ddathlu'r gyfres newydd hon a rhannu eu hangerdd am brimatiaid, bydd tri phrimatolegydd o Ysgol Gwyddorau Naturiol yn trydar yn fyw am y gyfres wrth iddi gael ei darlledu ar BBC One dros y tair wythnos nesaf.
Wrth sôn am y gyfres arloesol hon gan y BBC, dywedodd Dr Alexander Georgiev sy'n brimatolegydd ym Mhrifysgol Bangor a chyd-gyfarwyddwr cwrs israddedig newydd y brifysgol, Swoleg gyda Phrimatoleg: “Mae'n wych bod y BBC wedi gwneud y gyfres newydd hon. Gobeithio y bydd yn tynnu sylw at ba mor ddeallus, cymhleth yn gymdeithasol, a hyblyg yw primatiaid ac yn ddi-os bydd yn cynnig rhai pwyntiau cyfeirio da ar gyfer fy narlithoedd yn y flwyddyn academaidd nesaf! ”
“Mae’r BBC yn sicr wedi gosod y safon yn uchel iawn gyda deunydd diweddar yn gysylltiedig â phrimatiaid mewn cyfresi fel Seven Worlds, One Planet felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y byddant yn gwthio'r ffiniau gyda'u hymdriniaeth o wyddor newydd y tro hwn,” ychwanegodd y darlithydd a’r ymchwilydd Dr Georgiev.
Ategwyd hyn gan Dr Izzy Winder, sy'n cyd-redeg y cwrs Swoleg gyda Phrimatoleg: “Bydd yn wych os bydd cyfres y BBC yn dangos i ba raddau y mae bywydau llawer o fwncïod ac epaod wedi cydblethu gyda bodau dynol”.
“Bydd yr hyn rydym yn ei wneud, a sut rydym yn gofalu am ein cynefinoedd naturiol, yn pennu dyfodol ein perthnasau primatiaid yn ogystal â’n rhywogaeth ein hunain,” meddai Dr Winder.
“Ynghyd â llawer, byddaf yn sownd i'r teledu yn gwylio'r rhaglen gyntaf y dydd Sul hwn,” ychwanegodd Dr Winder, sy'n astudio esblygiad, anatomeg ac ecoleg primatiaid.
Mae Zoe Melvin yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor a bydd hefyd yn ymuno â'r digwyddiad trydar yn fyw. Mae newydd ddychwelyd o’i gwaith maes yn Zanzibar lle mae’n astudio effaith aflonyddu ar gynefinoedd ac effaith phobl ar atgenhedliad mwncïod colobws coch Zanzibar sydd mewn perygl. Fel cymaint o ymchwilwyr eraill bu’n rhaid iddi atal ei gwaith oherwydd y pandemig COVID-19 ac mae bellach yn ôl yn y DU yn aros i weld pryd y caiff dychwelyd i’r maes:
“Er fy mod yn siomedig fy mod wedi gorfod atal fy ngwaith maes am y tro, mae'n rhaid gwneud hyn er mwyn atal trosglwyddo COVID-19 i’r colobws. Mae mwncïod ac epaod yn debygol o fod yr un mor agored i COVID-19 â phobl a dim ond llai na 6000 o colobws coch Zanzibar sydd ar ôl. Os bydd y firws hwn yn ymledu i'r colobws gallai gael effeithiau dinistriol ar y poblogaethau bach sy'n weddill.”
Mae Zoe Melvin yn gyffrous iawn ynglŷn â chyfres newydd y BBC: 'Rwy'n edrych ymlaen at weld rhywfaint o fwncïod, gan fyd mod wedi eu colli dros y mis diwethaf ers i mi ddychwelyd i'r DU. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweld sut mae'r gyfres newydd hon yn delio â phroblem cadwraeth primatiaid o ystyried bod bron i ddwy ran o dair o'r rhywogaethau primatiaid yn wynebu difodiant.'
“Bydd trydar am y gyfres yn ystod y darllediadau ac yn y dyddiau rhwng y tair pennod dros yr wythnosau nesaf yn gyfle gwych i greu cysylltiad â phobl sy'n ymddiddori mewn bywyd gwyllt ac sydd â'u llygaid ar fod yn brimatolegwyr!” ychwanegodd Zoe Melvin.
Gallwch ddilyn y sylwebaeth gan brimatolegwyr Bangor wrth iddynt drydar yn fyw ar Trydar eu syniadau am y wyddor y tu ôl i'r rhaglenni a'r broses ffilmio: @BangorPrimates.
Mae Primates yn dechrau ddydd Sul 26 Ebrill am 20:15 ar BBC One.
Os hoffech wybod mwy am y radd Swoleg gyda Phrimatoleg ym Mhrifysgol Bangor, yr unig radd israddedig sydd â ffocws arbenigol ar brimatiaid yn y DU, ewch i www.bangor.ac.uk/courses/undergraduate/C333-Zoology-with-Primatology.
Primatolegwyr Prifysgol Bangor
Dr Alexander Georgiev (@alexvgeorgiev)
Mae Alex yn Ddarlithydd mewn Primatoleg ac yn astudio ecoleg ymddygiadol, ffisioleg a chadwraeth primatiaid. Mae wedi gwneud ymchwil maes gyda tsimpansïaid, bonobos, a macasau rhesws ac mae bellach yn cyfarwyddo Project Colobws Coch Zanzibar. Mae ei waith presennol ar y primatiaid endemig hyn sydd mewn perygl yn canolbwyntio ar ddeall beth fydd costau ffisiolegol newid anthropogenig a'r goblygiadau y gallai'r costau hyn eu cael ar oroesiad y rhywogaeth.
Dr Izzy Winder (@IsabelleWinder)
Mae Izzy yn ddarlithydd mewn Sŵoleg ac yn gweithio ar esblygiad, anatomeg ac ecoleg primatiaid. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd y datblygodd primatiaid (yn cynnwys bodau dynol) i fod fel y maent a sut y bydd mwncïod ac epaod yn ymateb i newid hinsawdd a achosir gan bobl. Pe bai'n rhaid iddi ddewis ei hoff brimat, mae'n debyg y byddai'n dewis babŵn.
Zoe Melvin (@Zoe_Melvin)
Mae Zoe yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor lle mae'n astudio effeithiau aflonyddwch gan bobl ar ffisioleg ac atgenhedliad mwnci colobws coch Zanzibar sy'n endemig ac mewn perygl. Mae'n gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol wrth greu cynlluniau cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth. Mae wedi gwneud ymchwil ymddygiadol ar brimatiaid yn Ne Affrica, Nigeria, Mozambique a Tanzania ac mae ganddi ddiddordeb mewn ateb cwestiynau i gynnig atebion ymarferol i gadwraeth.