Rhwyfwr yn ennill ysgoloriaeth ryngwladol a gwobr gan y brifysgol
Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor sydd wedi ennill ysgoloriaeth rwyfo mewn cystadleuaeth fyd-eang i astudio yn UDA hefyd yn derbyn prif wobr chwaraeon y brifysgol.
Bydd Bass Andre, myfyriwr daearyddiaeth trydedd flwyddyn o Sandown ar Ynys Wyth yn astudio am radd Meistr mewn anthropoleg ym Mhrifysgol Tulsa yn UDA, gydag ysgoloriaeth rwyfo lawn. Bydd Bass hefyd yn cael cymorth ariannol trwy Wobr Goffa Llewelyn Rees Prifysgol Bangor.
Mae Bass yn rhwyfwr brwd, ac yn cystadlu mewn cwad yn bennaf, mae wedi bod yn gapten Clwb Rhwyfo Prifysgol Bangor eleni, ac mae llwyddiannau unigolion a thimau'r clwb wedi helpu creu sylfaen gadarn i'r clwb at y dyfodol, ar ôl dod â'r clwb i sylw Rhwyfo Cymru, a sicrhau mwy o arweiniad hyfforddi i'r clwb, a hyfforddir gan fyfyrwyr.
Dechreuodd Bass rwyfo pan yn 16 oed, pan ymunodd â'r Shanklin Sandown Rowing Club ar Ynys Wyth.
Mae uchelgais Bass am y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys cael eu dewis i'r tîm rhwyfo cyflymaf yn Tulsa ac i wella digon i fod yn gymwys i gymryd rhan yn nhreialon uwch Prydain Fawr ar ôl cwblhau'r radd Meistr yn Tulsa.
Mae Gwobr Goffa Llewelyn Rees o £750 yn coffáu cyfarwyddwr hamdden gorfforol y brifysgol rhwng 1961-72. Fe'i dyfernir i'r myfyriwr sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf at godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor trwy eu cyflawniad ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.
Dewisodd Bass astudio ym Mangor oherwydd eu bod yn teimlo bod y lleoliad yn berffaith ar gyfer eu gradd ddaearyddiaeth, gan fod y brifysgol mor agos at yr arfordir a Pharc Cenedlaethol Eryri. Roedd Bass hefyd eisiau bod yn rhan o gymdeithas fach a chlos yn hytrach na phrifysgol enfawr, felly Bangor oedd y dewis delfrydol iddynt. Yn amlwg, gwnaethant sicrhau bod gan y brifysgol dîm rhwyfo hefyd - nid oeddent yn mynd i wneud cais i unrhyw le heb dîm rhwyfo!
Meddai Bass: “Rydw i wedi mwynhau astudio a rhwyfo ym Mangor yn aruthrol - mae'r profiadau rydw i wedi eu cael a'r bobl rydw i wedi cyfarfod â nhw wedi siapio fy mywyd yn y brifysgol ac fy mywyd yn y dyfodol. Mae bod yn aelod o'r tîm rhwyfo wedi gwneud i mi wthio fy hun yn gorfforol ac yn feddyliol, ac ni fuaswn erioed wedi gallu gwneud hynny heb gefnogaeth pawb yn y clwb. Roedd pob sesiwn yn ymdrech tîm, ac mi wnes i fwynhau pob un ohonyn nhw - hyd yn oed y sesiynau am 5 o'r gloch y bore yn y llyn yn y gaeaf! Mae'r clwb rhwyfo yn rhan o fy atgofion gorau i gyd ac mi fyddai'n gweld eisiau pawb yn ofnadwy pan fyddai'n gadael eleni.
Ychwanegodd: “Mae'n anrhydedd fawr derbyn Gwobr Goffa Llewelyn Rees. Mae'n deimlad anhygoel gwybod bod fy ymdrechion yn y clwb rhwyfo wedi helpu i godi proffil Bangor, ac rydw i'n falch fy mod wedi gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r brifysgol fel hyn. Mi fyddai'n falch o wisgo fy nillad rhwyfo Bangor pan fyddaf yn rhwyfo yn UDA! Bydd yr arian o’r wobr yn talu am fy nhocyn awyren i Tulsa ym mis Awst a bydd yn help mawr i mi.”