Prifysgol Bangor a Phrifysgolion Santander yn cefnogi Pŵer Pobl ar gyfer PPE (Cyfarpar Diogelu Personol)
Mae Prifysgolion Santander yn cefnogi Prifysgol Bangor a'r rhanbarth i greu Cyfarpar Diogelu Personol am ddim. Maen nhw'n rhoddi £4,500 i'w groesawu i helpu cymuned o wneuthurwyr, busnesau ac unigolion lleol ddylunio, argraffu 3D, a chydosod tariannau fisor i'w dosbarthu am ddim i staff meddygol a gofalwyr yn y gogledd.
Mae Prifysgolion Santander, fel rhan o’u cefnogaeth barhaus i Brifysgol Bangor yn ystod argyfwng COVID-19, yn rhoi arian cyfatebol at yr £4,500 a godwyd gan rwydwaith cymunedol i ddylunio, argraffu, cydosod a dosbarthu tariannau fisor am ddim i staff meddygol a gofalwyr yn y gogledd. Mae hyn yn rhan o gronfa gyffredinol o £4.5 miliwn o gyllid y mae Santander UK yn ei ddarparu i'r 85 o bartneriaid sydd ganddynt ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig i gefnogi'r amrywiol fentrau a lansiodd y Prifysgolion i gyfrannu at yr ymgyrch genedlaethol yn erbyn COVID-19.
Mae'n ymgyrch wirioneddol gymunedol, ac mae rhwydwaith o wneuthurwyr, myfyrwyr, busnesau, y byd academaidd, cyrff iechyd a llawer mwy wedi dod ynghyd i gefnogi'r gweithwyr gofal, a llwyddwyd i wneud cynnydd rhyfeddol dros yr wythnosau diwethaf. Mae Prifysgol Bangor a'i Pharc Gwyddoniaeth, M-SParc yn chwarae rhan bwysig iawn yn cynnull y gwaith ac mae mwy na 6,000 o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol bellach wedi'u cynhyrchu a'u dosbarthu yn rhad ac am ddim i'r defnyddwyr.
Bydd cyfraniad hael Prifysgolion Santander yn galluogi'r rhwydwaith i brynu mwy o ddeunyddiau a chynyddu'r niferoedd gan ddarparu cyfarpar ledled y rhanbarth. Yn benodol, bydd yn cynnig dull o fowldio trwy chwistrelliad, a wnaiff hwyluso'r gwaith o gynhyrchu tariannau fisor amddiffynnol yn sylweddol.
Dywedodd Matt Hutnell, Cyfarwyddwr, Prifysgolion Santander:
“Mae Santander wedi ymrwymo i gefnogi addysg uwch yn ogystal â chymunedau lleol ledled y Deyrnas Unedig ac felly rydym yn falch bod modd cyfeirio ein cyllid lle mae'r angen mwyaf ar yr adeg dyngedfennol hon. Mae Prifysgolion yn gwneud gwaith gwych i gyfrannu at ymgyrch y Deyrnas Unedig yn erbyn COVID-19, ac felly rydym yn falch iawn o gydweithio â'r prifysgolion sy'n bartneriaid inni a chynyddu eu hymdrechion hwythau yn eu tro ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i gefnogi myfyrwyr a'r gymuned addysg uwch ehangach gyda mentrau pellach dros y misoedd nesaf."
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Arloesi, Cysylltiadau a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor:
“Mae cefnogaeth hael Prifysgolion Santander yn amhrisiadwy i’r fenter hollbwysig hon i gefnogi gweithwyr iechyd y rheng flaen fel y medrant gyflawni eu gwaith yn ddiogel. Bydd yr arian cyfatebol amserol yma'n fodd inni ymateb yn gyflym i'r angen cynyddol am Gyfarpar Diogelu Personol yn y rhanbarth.
“Ar ben hynny, mae'n astudiaeth achos bwysig i ddysgu'r myfyrwyr ymateb mewn modd arloesol i'r angen presennol a defnyddio prosesau prototeipio cyflym i greu cynnyrch er mwyn ei fabwysiadu a’i ddefnyddio.”
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc;
“Mae'r fenter gymunedol hon eisoes wedi dangos ei gwerth ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth ychwanegol gan Brifysgolion Santander a fydd yn fodd cynyddu cynhyrchiant ar adeg allweddol yn yr ymgyrch yn erbyn COVID-19."
Mae Prifysgolion Santander a Phrifysgol Bangor yn gweithio ar becyn newydd o gymorth ariannol i Fyfyrwyr Entrepreneuraidd eu bryd i helpu eu busnesau trwy'r cyfnod heriol sydd ohoni a byddwn yn cyhoeddi'r manylion yn fuan. Bydd Prifysgolion Santander hefyd yn cefnogi Hac Iechyd COVID-19 sydd ar fin cael ei ryddhau. Hwn yw'r Hac Iechyd COVID19 ar-lein cyntaf a'r unig un yn Deyrnas Unedig, a bydd yn gyfle i ddatblygu syniadau arloesol am gynhyrchion a gwasanaethau newydd i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.