Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill prif seremoni gyntaf Eisteddfod T
Wyneb cyfarwydd i Eisteddfod yr Urdd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T, yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed. Heddiw (Dydd Llun, Mai 25), mewn seremoni ar sgrin a sain, datgelwyd mai Cai Fôn Davies o Benrhosgarneddsy’n ennill gwobr y Prif Gyfansoddwr.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Tryfan, Bangor, mae Cai, 20 oed, yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Cymraeg a Hanes.
Mae Cai yn enw cyfarwydd i fudiad yr Urdd, yn cystadlu’n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd ers yn ifanc. Mae hefyd ynun o’r chwech a fu’n cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel y llynedd, wedi iddo gipio’r wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth llefaru Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Mae’n ennill teitl Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn o gerddoriaeth dim mwy na 2 funud o hyd ar unrhyw thema, cystadlaethau a ddenodd 21 cyfansoddiad o safon, yn ôl y beirniad, Eilir Owen Griffiths. Cyflwynodd Cai, o dan y ffug-enw ZartMo, bedwarawd llinynnol a oedd, yn ôl y beirniad yn“cynnal y gwrandawiad drwyddi draw”.
Mae’n berfformiwr amryddawn a phrofiadol ac wedi ymddangos droeon ar lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt dros y blynyddoedd. Uchafbwynt personol iddo oedd pan lwyddodd i gyrraedd y brig mewn tair o brif gystadlaethau’r llwyfan dan 21 oed yr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Mae Cai yn ogystal, yn aelod o gorau Johns’ Boys ac Aelwyd JMJ, ac yn edrych ymlaen at ail-afael yn y perfformio pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.
Yn ei feirniadaeth, meddai Eilir Owen Griffiths: “Beth mae y cyfansoddwr hwn yn llwyddo i wneud yn gelfydd yw cyflwyno llawer o adrannau byr gwrthgyferbyniol a’u datblygu yn effeithiol o fewn 2 funud – mae o’n gyfanwaith. Mae’r cyfansoddwr yn amlwg iawn wedi arfer ysgrifennu i linynnau ac yn llwyddo i greu gweadau diddorol a rhannu y syniadau rhwng yr offerynnau yn effeithiol. Mae newydd-deb yma. Llongyfarchiadau!”
Bydd Cai yn derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin.
Yn ail roedd Celt John o Ddolgellau, sydd hefyd yn astudio’r Gymraeg ym Mangor, ac yn drydydd roedd Heledd Wyn Newton o Gaerdydd.