Arbenigwyr o Brifysgol Bangor ar genhadaeth i ddarparu rhyddhad rhag clefyd y gwair i filiynau o bobl
Mae ymchwilwyr o ogledd Cymru yn astudio DNA paill er mwyn rhoi gobaith newydd i filiynau o bobl sy'n dioddef o glefyd y gwair ledled y DU.
Mae'r adeg o'r flwyddyn eto pan fydd clefyd y gwair yn achosi llygaid coch, trwyn yn rhedeg a phyliau o disian i un o bob pump o bobl - ond cyn bo hir mae'n bosib bydd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor ateb i'r 13 miliwn o bobl yn y DU sy'n dioddef o glefyd y gwair.
Cafodd eu gwaith ar olrhain y mathau o baill sydd yn yr awyr ar unrhyw adeg benodol sylw ar yr One Show wythnos ddiwethaf wrth i glefyd y gwair gyrraedd ei uchafbwynt ledled y DU.
Mae'r gwaith yn golygu bod rhaid iddynt allu gwahaniaethu rhwng byswellt a maswellt penwyn, a rhwng rhonwellt a chyffonwellt y maes, oherwydd bod gan wahanol bobl alergedd i wahanol fathau o wair.
Mae hyn yn bwysig oherwydd bod clefyd y gwair yn costio dros £7 biliwn y flwyddyn i economi Prydain gan fod tair miliwn o bobl yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith gyda'r symptomau mwyaf difrifol.
Meddai: “Rwy’n dioddef yn ddrwg o glefyd y gwair ac wedi gwneud ers 33 mlynedd ac mae fy ngwraig yn dioddef hefyd, ond paill gwair sy'n effeithio arnaf i a phaill coed sy'n effeithio arni hi.
“Mae hyn yn rhywbeth sy'n fwy cyffredin yn Sgandinafia lle mae gan fwy o bobl alergedd i baill coed, yn enwedig coed bedw, ac mae coedwigoedd bedw enfawr yno.”
Fel rhan o'u hymchwil mae'r tîm ym Mangor yn gweithio gyda'r Swyddfa Feteorolegol ac wedi defnyddio trapiau casglu paill ledled y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel y gallant ddarganfod pa fath o baill sydd yn yr awyr ar adeg benodol.
Yna gallant groesgyfeirio'r wybodaeth honno gyda data o feddygfeydd teulu ac ysbytai ledled y wlad a fydd yn dangos pan fydd pobl yn gofyn am wrth-histaminau i frwydro yn erbyn clefyd y gwair ac yn dioddef symptomau mwy difrifol pan fydd paill yn gwaethygu symptomau asthma.
Yn anffodus hyd yn oed o dan ficrosgop pwerus iawn mae un math o baill gwair yn edrych yn union yr un fath ag un arall felly mae'r tîm wedi troi at ddefnyddio proffiliau DNA i wahaniaethu rhyngddynt.
Meddai'r Athro Creer: “Rydym eisoes yn gweld rhagolygon y tywydd yr adeg hon o’r flwyddyn yn nodi pan fydd lefelau paill yn isel, yn ganolig neu'n uchel ond yn y dyfodol byddwn yn gallu ychwanegu gwybodaeth am y gwahanol fathau o baill sydd o gwmpas at y wybodaeth honno.
“Os gallwn adnabod y rhywogaethau o wair sy’n cyfrannu mwy at y llwyth alergenig yna mae hynny’n holygu y gallwn geisio osgoi’r rhywogaethau hynny lle bynnag y bo modd.
“Os byddwn yn gweld cynnydd mewn math arbennig o baill ar yr un pryd ag y mae clefyd y gwair yn cynyddu, bydd modd gweithio allan ble mae'r mannau gwaethaf a pha baill sydd yn yr ardal honno.”
Mae'r tîm o Fangor yn gweithio ar y cyd â nifer o sefydliadau eraill i helpu'r Swyddfa Feteorolegol i ddarparu rhagolygon gwell ac arwain at driniaethau mwy pwrpasol i ddioddefwyr clefyd y gwair a fyddai hefyd yn gwybod pan fyddant mewn mwyaf o berygl.
Mae hyn oherwydd bod 175 o wahanol rywogaethau o wair yn y DU - ledled y byd ceir 12,000 - ac mae eu proffiliau alergenig i gyd yn wahanol felly mae rhai yn fwy tebygol nag eraill o achosi clefyd y gwair.
Mae gwair gwahanol yn blodeuo ac yn rhyddhau paill ar wahanol adegau ac er y gall paill bara am amser hir, mae'n gwasgaru'n eithaf cyflym fel nad yw'n bresennol ar ôl ychydig wythnosau ac yna mae gwahanol rywogaethau yn ei ddilyn.
Meddai'r Athro Creer: “Rwy’n cael fy effeithio fwy ddiwedd mis Mai a dechrau mis Mehefin ond mae union amseriad brig y tymor yn wahanol bob blwyddyn.
“Gall y cyfrif paill fod yn uchel er nad yw pobl yn dioddef symptomau, felly petasem yn gallu darparu gwybodaeth fwy manwl byddai'n helpu pobl i osgoi'r adegau hynny pan fydd clefyd y gwair yn effeithio fwyaf arnynt.
“Gallai hyd yn oed gael ei ymestyn i wneud argymhellion i wneuthurwyr tywarch a chynhyrchwyr hadau glaswellt ynglŷn â pha rywogaethau o wair sy'n llai cysylltiedig â symptomau clefyd y gwair.
“Gallai hynny olygu y gallai datblygwyr eu hosgoi wrth adeiladu ysgolion, ysbytai neu ystadau tai newydd.
“Rydym yn gwybod bod clefyd y gwair yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn dyddiau i ffwrdd o’r gwaith ac iselder ac nid yw’n gymorth i fyfyrwyr sy’n sefyll arholiadau ym mis Mehefin, ychwaith.”