Defnyddio Instagram i brofi gwybodaeth y daearyddwyr
Mae darlithwyr o Brifysgol Bangor yn defnyddio Instagram i gynnal cyfres o gwisiau cyhoeddus ynghylch Daearyddiaeth.Mae staff o grŵp Daearyddiaeth nodedig y brifysgol wedi bod yn cynnig ychydig o hwyl ysgafn i'w myfyrwyr trwy gydol y cyfyngiadau mawr gyda phosau rhyngweithiol ar Instagram.
Nawr mae'r grŵp yn agor eu sesiwn cwis Daearyddiaeth reolaidd i ddarpar fyfyrwyr a'r cyhoedd, oherwydd y diddordeb cynyddol.
Dechreuodd Rebecca Jones, o grŵp Daearyddiaeth Ysgol y Gwyddorau Naturiol, y cwis ar ddechrau'r cyfyngiadau cenedlaethol. “Pan wnaethon ni ohirio dysgu wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor sicrhaodd pawb nad oedd ein myfyrwyr ar eu colled o ran unrhyw ddysgu trwy ddarparu llawer o ddysgu ar-lein a rhithiol,” meddai Miss Jones.
“Ond mae'r grŵp Daearyddiaeth yn griw cyfeillgar iawn: mae ein cwrs yn gymaint mwy na darlithoedd a theithiau maes yn unig, ac roeddem am gynnal y teimlad hwnnw trwy'r cyfyngiadau.Un ffordd o wneud hynny oedd trwy ddechrau cwisiau Daearyddiaeth ar Instagram.”
“Tipyn o hwyl oedd o i fod ond mi welson ni fod mwy o bobl yn cymryd rhan bob tro, ac felly rydym wedi penderfynu eu hagor yn swyddogol i unrhyw un sy'n bwriadu dod i astudio ym Mangor ym mis Medi, neu sydd â diddordeb mewn Daearyddiaeth - mae croeso i bawb,” ychwanegodd Miss Jones.
Dywedodd Dr Lynda Yorke, sy'n arwain y grŵp Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Mae'n wych bod gan bobl ddiddordeb yn ein cwisiau, ac yn sicr does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar Ddaearyddiaeth i gymryd rhan.
“Mae ein holl staff yn gofyn cwestiynau sy'n dangos amrywiaeth y pynciau y mae'r tîm yma ym Mangor yn eu cwmpasu, a pham mae Daearyddiaeth yn bwnc mor wych i'w astudio os ydych chi wir eisiau gwneud gwahaniaeth yn y byd.”
Bydd cwis Daearyddiaeth nesaf Prifysgol Bangor am 8pm ddydd Mawrth 30 Mehefin. Gweler https://www.instagram.com/bugeography/ i gymryd rhan.
I gael mwy o wybodaeth am astudio Daearyddiaeth ym Mangor, ewch i: www.bangor.ac.uk/natural-sciences/undergraduate-courses/geography.