Lladron Llundain
An enquiry into the causes of the late increase of robbers, & c., with some proposals for remedying this growing evil. In which the present reigning vices are impartially exposed; and the laws that relate to the provision for the poor, and to the punishment of felons are largely and freely examined.
Henry Fielding 1707-1754.
London, Printed for A. Millar
Archives General Rare Book HV6665.G7 F58
Fel Prif Ynad Llundain yn gwasanaethu yn Swyddfa Bow Street, San Steffan rhwng 1748 a 1754, roedd gan Henry Fielding drosolwg o'r cynnydd mewn troseddau yn ei gymuned. Credai mai prif achos troseddu oedd chwalfa mewn moesau cyhoeddus yn cael eu dylanwadu'n bennaf gan yfed gin, gamblo a phuteindra, ac amharodrwydd y tlawd i ddod o hyd i gyflogaeth reolaidd. Ysgrifennodd Fielding nifer o bamffledi gwleidyddol ar y pwnc gan adlewyrchu'r 'panig moesol' a deimlwyd gan y dosbarthiadau llywodraethol bryd hynny. Credai Field fod dadfyddino 80,000 o filwyr a morwyr nad oedd yn gallu cynnal eu hunain ar ôl Rhyfel Olyniaeth Awstria wedi arwain at don o droseddau.
Roedd Fielding yn enwog am ei ddyfarniadau diduedd, am fod yn anllygredig a'i dosturi tuag at y tlawd. Roedd Fielding yn eiriol dros ddiwygiad barnwrol fel gwahardd crogi cyhoeddus, er iddo ddedfrydu troseddwyr ei hun i gael eu crogi, a gwella amodau mewn carchardai. Defnyddiodd ei ddylanwad a'i awdurdod fel ynad i sefydlu heddlu Metropolitan cyntaf Llundain sef y Bow Street Runners ym 1749. Roedd hefyd yn ddramodydd ac awdur enwog, a chyhoeddwyd ei lyfr enwocaf “The History of Tom Jones, a foundling” yn y flwyddyn honno hefyd.