Gwasanaeth clicio a chasglu'r Brif Lyfrgell
Mae gan y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau wasanaeth 'clicio a chasglu' digyswllt yn awr i ddeunyddiau printiedig sydd ar gael yn y Brif Lyfrgell. Credwn mai hwn yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath a gynigir gan lyfrgell prifysgol yng Nghymru ers y cyfyngiadau symud!
Mewngofnodwch i Chwiliad Llyfrgell i ddod o hyd i'r eitem rydych ei hangen. Awgrym da - gwnewch yn siŵr bod cwmpas y chwiliad wedi'i osod i ‘Gasgliadau Llyfrgell Prifysgol Bangor’ er mwyn dod o hyd i lyfrau gan mai e-adnoddau yw'r chwiliad diofyn ar hyn o bryd.
Os nodir bod yr eitem yn y Brif Lyfrgell a'i bod ar gael, cliciwch ar y cyswllt Gwneud cais i roi eitem ar gadw (archebu llyfr).
Bydd staff y llyfrgell yn cysylltu â chi i drefnu amser i chi gasglu'r eitem pan fydd yn barod i'w chasglu. Dewch i gasglu'r eitem ar yr amser a benodwyd i chi yn unig.
Sylwch - ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth ar gyfer deunyddiau a gedwir yn y Brif Lyfrgell yn unig. Rydym yn gobeithio ymestyn y gwasanaeth i gynnwys stoc a gedwir yn ein llyfrgelloedd eraill dros yr wythnosau nesaf, a byddwn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr y llyfrgell am unrhyw ddatblygiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r Gwasanaeth, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni yn llyfrgell@bangor.ac.uk.