Arbenigwr o Fangor yn cynghori ar fod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau
Mae'r gwersi a ddysgwyd o ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus yn tueddu i fynd o'r cof, ac mae cyllid iechyd cyhoeddus a blaenoriaethau ymchwil yn newid.
Dyna pam y galwyd ar arbenigwr o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ymuno ag adolygiad Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau o gyflwr presennol y dystiolaeth ar gyfer bod yn ba
Cafodd yr adroddiad a gynhyrchwyd gan y pwyllgor ei ryddhau yn ddiweddar a'i gyflwyno i Bwyllgorau Cyngresol yr Unol Daleithiau. Mae'n gwneud argymhellion gyda'r bwriad o sicrhau bod ymarfer PHEPR wedi'i seilio ar dystiolaeth gadarn ar gyfer yr hyn sy'n gweithio, ble, pam, ac i bwy.
Dywedodd Jane Noyes, Athro mewn Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae ein harweinwyr yn dibynnu ar gael y dystiolaeth orau i lywio eu penderfyniadau mewn argyfyngau iechyd cyhoeddus fel Covid 19. Ariannwyd yr adroddiad arloesol hwn gan Ganolfan Rheoli ac Atal Clefydau'r UD ac roedd yn fraint cael fy ngwahodd i wasanaethu ar bwyllgor yr Academïau Cenedlaethol Gwyddoniaeth, Peirianneg a Meddygaeth sy'n gwneud y gwaith.
Bu ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw yn cydweithio i gynhyrchu'r adroddiad, sy'n berthnasol iawn i'n harweinwyr wrth iddynt fynd i'r afael â'r ffordd orau o reoli Covid 19. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi sut y gallwn ddysgu oddi wrth bandemig fel Covid 19, a chynnal ymchwil o ansawdd gwell tra bo argyfyngau iechyd cyhoeddus yn parhau."
Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod rhaid i'r ymarferwyr Bod yn Barod ac Ymateb i Argyfwng Iechyd Cyhoeddus gael tystiolaeth am yr hyn sydd wedi gweithio i bwy, pam, ac ar ba gost.
Dywed yr adroddiad fod diffyg sylfaen dystiolaeth gref yn rhwystro ymatebion effeithiol i argyfyngau iechyd cyhoeddus ac y gallai gyfrannu at bobl yn marw'n ddiangen ac adnoddau'n cael eu gwastraffu.
Mae amrywiaeth o ddulliau ymchwil ar gyfer gwerthuso ymchwil Bod yn Barod ac Ymateb i Argyfwng Iechyd Cyhoeddus, o hap-dreialon rheoledig i astudiaethau ansoddol ac astudiaethau achos archwiliadol. Mae'r adroddiad yn galw am ganllawiau clir ar ba fath o ddull ymchwil sydd orau ar gyfer ateb cwestiynau penodol; a sut y bydd pob dull ymchwil yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth.
Ychwanegodd yr Athro Noyes:
“Dylai dysgu parhaus fod yn norm, nid yr eithriad, ar gyfer bod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae argyfyngau iechyd cyhoeddus cynyddol gymhleth yn gyfle i wneud ymchwil a gwerthuso - hyd yn oed mewn amser real - i helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol yn well.”
Mae'r adroddiad hwn yn argymell bod Canolfan Rheoli ac Atal Clefydau'r Unol Daleithiau yn arwain y gwaith o ddatblygu Fframwaith Gwyddoniaeth Bod yn Barod ac Ymateb i Argyfwng Iechyd y Cyhoedd - gan weithio gydag asiantaethau perthnasol eraill - i sefydlu awdurdod ac isadeiledd parhaus i gefnogi ymchwil o ansawdd uchel cyn, yn ystod, ac ar ôl argyfyngau iechyd cyhoeddus. Dylai'r isadeiledd ar gyfer cefnogi ymchwil o'r fath fod wedi ei sefydlu cyn i'r argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf ddigwydd.
Er i'r adroddiad gael ei wneud ar gyfer Canolfan Rheoli ac Atal Clefydau'r UD, mae'n berthnasol i Lywodraethau eraill ac mae adrannau wedi eu hysgrifennu i adlewyrchu'r pandemig Covid 19 presennol. Mae'r adroddiad 'Evidence-Based Practice for Public Health Emergency Preparedness and Response' gan Ganolfan Rheoli Clefydau'r UD ar gael yma: http://www.nap.edu/catalog/25650