Pryf a ddefnyddir fel ‘model’ gwyddonol yn cael enwau safonol ar gyfer rhannau'r corff
Er mawr syndod mewn organeb enghreifftiol a ddefnyddir at ddibenion ymchwil ac sydd wedi arwain at chwe Gwobr Nobel am ffisioleg a meddygaeth, nid oes gan y pryf ffrwythau annwyl ac nid anenwog system gyflawn o enwau anatomegol.
Câi'r pryf ffrwythau ei ddefnyddio'n helaeth fel organeb enghreifftiol i astudio geneteg, niwrowyddoniaeth, ffisioleg, datblygiad ac imiwnedd ers degawd cyntaf yr 20fed ganrif (1910) oherwydd bod ei eneteg yn gymharol syml a'i gylch bywyd yn chwim.
Dim ond yn 2014 y rhoddwyd enwau safonedig ar bob un o rannau ei ymennydd.
Bellach mae tîm rhyngwladol o dan arweiniad yr Athro David Shepherd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor wedi mynd i’r afael â’r gwaith dyrys o fanylu ac enwi rhan hanfodol arall o anatomeg y pryf ffrwythau, y system nerfol fentrol.
Bellach mae canlyniadau'r gwaith hwnnw wedi'u cyhoeddi yn Neuron (Court et al., A Systematic Nomenclature for the Drosophila Ventral Nerve Cord, Neuron (2020), https://doi.org/10.1016/j.neuron.2020.08.005).
Gallwn gymharu llinyn y nerf fentrol sy'n rhedeg trwy thoracs ac abdomen y pryf â llinyn ein hasgwrn cefn ninnau ac mae'n cario llawer o'r un wybodaeth i'r nerfau sy'n hanfodol ar gyfer symudiadau fel cerdded a hedfan.
Nid yn unig y mae'n rhannu gwybodaeth, mae hefyd yn chwarae rhan weithredol a phwysig mewn ymddygiad, trwy anfon gwybodaeth i'r ymennydd a sicrhau bod ymddygiadau'n cael eu cyflawni'n gywir.
Fel yr esboniodd yr Athro David Shepherd:
“Er mwyn deall rhywbeth mor gymhleth yn well a rhannu datblygiad y ddealltwriaeth honno, mae'n hanfodol bod gennym system enwi ar y cyd ar gyfer gwahanol rannau'r system nerfol,”
Gwnaed y disgrifiadau cyntaf o linyn y nerf fentrol mor gynnar â 1948, ond dros amser bu'r defnydd a'r enwau ar y rhannau'n anghyson, gan beri dryswch. Gwelsom hefyd ffrwydrad enfawr yn yr offer sydd ar gael i ddadansoddi anatomeg y pryf ffrwythau a bellach mae gennym gorff hynod o wybodaeth ynglŷn â'r rhan hon o'r ymennydd. ”
Bu'r grŵp wrthi am dros saith mlynedd, a'r cam cyntaf oedd nodi a diffinio terfynau'r rhannau a'r strwythurau gwahanol.
“Y gwaith anoddaf oedd cytuno beth i alw pob rhan a phob strwythur. Ar gyfer rhai strwythurau, bu'n rhaid dewis yr enwau a ddefnyddid amlaf, lle defnyddid mwy nag un, ac mewn achosion eraill bu'n rhaid bathu enwau newydd ar gyfer strwythurau nad oedd iddynt enwau. Ar ôl cytuno ynghylch y ffiniau a'r enwau rhaid oedd sefydlu diffiniad ar ffurf testun,” ychwanega'r Athro Shepherd.
Dywedodd Dr Darren W Williams o'r Ganolfan Niwrobioleg Ddatblygiadol, Coleg y Brenin Llundain:
“Mi allech chi feddwl bod hwn yn waith digon od, ond heb yr union enwau a'r diffiniadau mae'n anodd iawn integreiddio canfyddiadau gwahanol brojectau ymchwil. Mae creu'r system enwau'n gam mawr ymlaen yn y defnydd parhaus o'r pryf ffrwythau fel model arbrofol pwerus. ”