Cyn-gynrychiolydd gwyliau yn herio dyslecsia i basio gradd nyrsio gyda chanmoliaeth fawr
Mae dathliad preifat yng ngardd cartref ei nain a'i thaid ym Mrychdyn yn cael ei gynllunio gan gyn-gynrychiolydd gwyliau o Sir y Fflint, sydd wedi goresgyn dyslecsia i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn ei chwrs nyrsio
Mae Natalie Fraser, 31, sydd wedi teithio i bedwar ban byd, yn un o'r garfan ddiweddaraf o fyfyrwyr nyrsio o gampws Wrecsam Prifysgol Bangor i symud i reng flaen nyrsio.
Ni all y cyn therapydd harddwch a chynrychiolydd asiantaeth deithio aros tan y seremoni raddio'r haf nesaf i ddathlu ei llwyddiant gyda'i thaid a'i nain, John a Sheila Fraser, a'i magodd ym Mrychdyn, ger Caer.
Mae'r cyn-ddisgybl Ysgol St David's, Saltney, wedi cyfnewid y mannau poblogaidd am wyliau fel Tenerife a’r Aifft, i fod yn rhan o’r tîm ar y ward lawfeddygol yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam, ar ôl graddio o’i chwrs tair blynedd gyda chanmoliaeth fawr.
Mae Natalie wedi talu teyrnged i Brifysgol Bangor am ei helpu i oresgyn ei hanhawster dysgu: “Roedd yn rhaid i mi dalu £150 i gymryd prawf i ganfod bod gen i ddyslecsia, ond pan ddaeth hynny yn ôl yn bositif, ni allai’r brifysgol fod wedi gwneud mwy i mi,” meddai.
“Hwn oedd yr arian gorau i mi ei wario erioed, oherwydd eu bod wedi fy nghyflwyno am ymyriad arbennig, ac mi gefais i gymaint o gefnogaeth ac offer.
“Fe wnaethant ddarparu gliniadur i mi gyda meddalwedd arbennig a beiro a fyddai’n recordio yn ogystal ag ysgrifennu wrth gyffwrdd â’r papur er mwyn i mi allu gwrando eto ar ddarlithoedd. Mae fy nhiwtor personol, Dianne Rimmer, bob amser wedi bod yno i mi ar lefel academaidd neu bersonol.
“Oherwydd y pandemig mae fy seremoni raddio wedi cael ei gohirio tan yr haf nesaf, ond mi gawn ni ein seremoni ein hunain adref beth bynnag.”
Mae hynny wedi plesio ei nain a'i thaid yn fawr, a dywedodd John Fraser: “Rydyn ni'n wirioneddol falch ohoni, fel yr ydan ni o'n holl blant ac wyrion ac wyresau. Mae hi wedi gweithio mor galed, ac mae hi wedi cael cefnogaeth wych gan Brifysgol Bangor.
“Mae gan Natalie y math o natur sy'n ei galluogi i ddangos empathi â phobl p'un a ydyn nhw'n gleifion neu'n staff. Mae ei holl leoliadau wedi dweud sut y bydden nhw wrth eu bodd yn ei chael hi'n ôl, ac mae hynny'n dyst i'r math o berson ydi hi."
Mae yna fyd o wahaniaeth rhwng gyrfa newydd Natalie a'r cwrs therapydd harddwch yr aeth i'w wneud yn wreiddiol ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, neu ei swydd fel cynrychiolydd teithio ar gyfer y cwmni gwyliau enwog, Thomson.
Meddai: “Fe wnes i’r cwrs therapi harddwch oherwydd roeddwn i’n meddwl mai dyna oedd merched yn ei wneud. Roeddwn i’n gynrychiolydd teithio oherwydd roedd arna'i angen cael ychydig o flas o’r byd - roeddwn i’n rhy anaeddfed i nyrsio bryd hynny.
“Ond pan ddes i'n ôl, fe wnes i gwrs mynediad blwyddyn ar gyfer y radd nyrsio, ac yna’r cwrs gradd tair blynedd.
“Rydw i’n ddyslecsig, ac er na ches i drafferth yn academaidd fel y cyfryw, roedd yn rhaid i mi weithio’n galed iawn i gadw i fyny. Mae'n dod yn naturiol i rai pobl, ond nid i fi.
“Yna, fe wnaeth teithio i mi wir werthfawrogi beth mae'r GIG yn ei olygu i ni. Roeddwn i ar fws yn Fietnam a dywedodd dyn lleol wrtha i fod gan ei dad ganser. Dywedodd pe bai gennych chi arian, byddech chi'n iawn, ond os ddim, mi rydych chi'n marw.”
Mae dyfodiad y pandemig yn ei blwyddyn olaf wedi golygu rhywfaint o darfu ar y cwrs, ond mae Natalie'n dal wedi cael amrywiaeth o brofiad yn y GIG yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae'n cynnwys gweithio ar wardiau llawfeddygol, meddygol a strôc yn Ysbyty Maelor, amser gydag ymwelwyr iechyd ac mewn clinigau cleifion allanol, cyfnod yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy a nyrsio ardal ym Mwcle.
Meddai: “Rydw i wedi mwynhau’r cyfan, ac maen nhw i gyd wedi bod yn brofiadau gwahanol, ond mae rhywbeth personol iawn am ymweld â rhywun yn eu cartref eu hunain, ac mi gefais i hynny'n werth chweil.
“Rydych chi'n gweld y pwysau ar staff y GIG, ond hefyd y gwaith tîm a'r gefnogaeth, y ffordd mae pawb yn ceisio helpu ei gilydd.
“Mi ddywedwyd wrtha'i erioed nad oeddwn i'n academaidd, ac i mi, mae dod allan o hyn gyda dosbarth cyntaf yn beth mor fawr, oherwydd doedd gen i erioed yr hyder y byddwn i'n cyflawni hynny.
“Gyda fy nyslecsia, mae angen i rywun ddangos i mi sut i wneud rhywbeth, ond ar ôl i mi ei gael, yna mae gen i am byth.”
Dywedodd tiwtor Natalie, Dianne Rimmer, darlithydd Gwyddorau Iechyd ar gampws Wrecsam Prifysgol Bangor a chyn-fetron: “Mae'n torri 'nghalon pan glywa'i fod rhywun wedi dweud wrth blant yn yr ysgol nad ydyn nhw'n academaidd. Mae pobl yn cofio'r geiriau hyn trwy gydol eu hoes.
“Mae Natalie yn brawf y gall pob un ohonom, gan gynnwys rhywun â dyslecsia, gael gradd dosbarth cyntaf, gydag ymroddiad a gwaith caled.
“Mae ei nain a'i thaid yn falch iawn o’r ferch garedig a chlyfar ydi Natalie heddiw. Mae hi'n berson addfwyn, gofalgar sydd â gyrfa wych o'i blaen.
“Fel ei thiwtor personol, byddaf yn gwylio ei datblygiad yn y blynyddoedd i ddod, efallai y bydd yn dychwelyd atom fel darlithydd un diwrnod.”
I gael manylion am gyrsiau nyrsio cliciwch YMA