Prifysgol Bangor yn ymuno â rhaglen gyflogadwyedd newydd i fyfyrwyr awtistig
Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â Rhwydwaith Employ Autism Higher Education, rhaglen gyflogadwyedd addysg uwch arloesol, sy'n anelu at ddatgloi potensial myfyrwyr a graddedigion awtistig a'u helpu i gael gwaith llawn amser.
Cynhelir y rhaglen genedlaethol gan Santander, trwy Santander Universities UK, a'r elusen Ambitious about Autism a bydd yn galluogi myfyrwyr a graddedigion awtistig sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor gael mynediad at interniaethau cyflogedig a chefnogaeth a chyngor gyrfaoedd wedi eu haddasu.
Mae'r ymchwil ddiweddaraf wedi canfod mai graddedigion awtistig yw'r rhai lleiaf tebygol o'r holl fyfyrwyr anabl i gael swyddi ar ôl astudio - gyda dim ond 33% mewn gwaith llawn amser.
Amcan y rhaglen newydd hon yw ymdrin â hyn trwy sicrhau bod rhagor o fyfyrwyr a graddedigion awtistig yn cael mynediad at brofiad cyflogaeth ystyrlon. Bydd hefyd yn sicrhau y gall busnesau lleol elwa o ddoniau niwro-amrywiol yn eu gweithluoedd.
Dywedodd Alix Charnley, Rheolwr Recriwtio a Phrofiad Gwaith Graddedigion Prifysgol Bangor:
“Rydym yn hynod falch ein bod yn ymuno â Rhwydwaith Employ Autism Higher Education a gwneud ein rhan i helpu rhagor o fyfyrwyr a graddedigion awtistig i gyflawni eu potensial a chael mynediad at gyflogaeth llawn amser.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'n myfyrwyr awtistig fel bod eu doniau yn cyfateb i gyflogwyr hyderus o ran awtistiaeth a all gefnogi eu hanghenion a chaniatáu iddyn nhw ffynnu yn y gweithle.”
Yn ystod y rhaglen 18 mis, bydd gweithwyr proffesiynol gyrfaoedd a chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor yn cael hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol gan Ambitious about Autism i weithio'n benodol gyda myfyrwyr awtistig, yn helpu i'w tywys i gyflogaeth gynaliadwy.
Gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol sy'n deall eu hanghenion, bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth i nodi swyddi sy'n cyfateb i'w sgiliau ac yn cael cymorth gyda'r broses ymgeisio a recriwtio, sydd angen ei haddasu yn aml i roi cyfle i bobl ifanc awtistig ddisgleirio.
Bydd Prifysgol Bangor hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i greu cyfleoedd i'r myfyrwyr hyn gymryd rhan mewn interniaethau gyda busnesau sy'n hyderus gydag awtistiaeth, gan roi profiad gwerthfawr 'yn y gwaith' iddynt mewn amgylchedd cefnogol.
Meddai Jolanta Lasota, Prif Weithredwr Ambitious about Autism: “Mae myfyrwyr a graddedigion awtistig ymysg ein doniau disgleiriaf ond mae gormod ohonynt yn wynebu llwybr llawer mwy heriol i gyflogaeth hirdymor na'u cyfoedion niwro-nodweddiadol.
“Trwy ymuno â’n rhaglen, bydd Prifysgol Bangor ar flaen y gad yn yr ymgyrch i gynyddu niwro-amrywiaeth gweithlu’r Deyrnas Unedig a bydd hefyd yn helpu i newid bywydau pobl awtistig.”
Meddai Matt Hutnell, Cyfarwyddwr Prifysgolion Santander y DU: “Mae Santander wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol i fynd i'r brifysgol, cael gwaith a hunangyflogaeth felly rydym yn falch o ymuno ag Ambitious about Autism a nifer o'n partneriaid prifysgol i lansio'r rhaglen newydd ac arloesol hon. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn gobeithio gwella canlyniadau cyflogaeth i fyfyrwyr a graddedigion awtistig trwy ddarparu cyfleoedd i newid bywyd.”
Dywedodd y Gweinidog dros Bobl Anabl, Justin Tomlinson: “Mae'n wych gweld Santander yn arwain trwy esiampl gan fuddsoddi mewn doniau pobl ifanc awtistig. Trwy raglenni arloesol fel hyn, ochr yn ochr â'r gefnogaeth sydd ar gael trwy raglenni a ariennir gan y llywodraeth fel Mynediad at Waith, rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddatgloi potensial a chael gwared ar rwystrau i gyflogaeth."
Mae AAA wedi darparu fideo byr i gyflwyno'r rhaglen i aelodau staff a allai fod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r rhaglen, neu sydd efallai'n gweithio ar y cyrion, gallwch ddod o hyd i’r fideo fan hyn https://bit.ly/2TkIWah
Bydd Santander a rhaglen Rhwydwaith Employ Autism Higher Education, Ambitious about Autism, yn dod â'r sector addysg uwch a chyflogwyr ynghyd i greu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth parhaol i bobl ifanc awtistig ledled y Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
www.ambitiousaboutautism.org.uk.