Fy ngwlad:
Group of people outside Main Arts building Bangor University

Sylw i beiriant gwneud iâ Tîm Real Ice o Fangor fel rhan o gynllun byd-eang '() for tomorrow'

Mae cwmni o Ogledd Cymru wedi dyfeisio peiriant chwyldroadol gwneud iâ wedi'i bweru gan ynni adnewyddadwy i roi iâ yn ôl ar gapiau iâ pegynol sy'n toddi, yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n ym mis Hydref 2025 ym meysydd pwnc y llwybrau canlynol.

  • Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth
  • Seicoleg
  • Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
  • Troseddeg a’r Gyfraith
  • Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Gwyddor Data, Iechyd a Lles
  • Addysg
  • Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
  • Economeg
  • Rheolaeth a Busnes
  • Cynllunio amgylcheddol

Meini Prawf Mynediad:    

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.   

Hyd yr astudiaeth:   

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).     

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.   

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:   
Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.    

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

Asesu:   

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswy roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Sut i wneud cais:   

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11/12/24 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.    

Dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio’r dolenni canlynol (defnyddiwch y cyfeiriad e-bost cywir ar gyfer y llwybr a gyflwynir i:

  • Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth – bilingwgsss@bangor.ac.uk
  • Seicoleg – psychwgsss@bangor.ac.uk
  • Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer – spexwgsss@bangor.ac.uk
  • Troseddeg a'r Gyfraith – crimwgsss@bangor.ac.uk
  • Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg - socwgsss@bangor.ac.uk
  • Gwyddor Data, Iechyd a Lles – dshwbwgsss@bangor.ac.uk
  • Addysg eduwgsss@bangor.ac.uk
  • Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol – socialworkwgsss@bangor.ac.uk
  • Economeg - econwgsss@bangor.ac.uk
  • Rheolaeth a Busnes businesswgsss@bangor.ac.uk
  • Cynllunio Amgylcheddol envirowgsss@bangor.ac.uk

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  

Cyllid:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£19,237 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.    

Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.