Yn anterth y pandemig yn gynharach eleni, roedd Lynda Williams mewn PPE llawn yn gweithio ar ward Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ychydig ddyddiau ar ôl graddio fel nyrs.
Roedd hi'n ran o'r grŵp cyntaf i wneud gradd nyrsio rhan-amser ym Mhrifysgol Bangor, wedi ei anelu at weithwyr cefnogol sydd eisoes yn gweithio yn y GIG yng Ngogledd Cymru.
Roedd nyrsio Covid-19 yn un o'r profiadau "mwyaf anodd' o'i bywyd ond hefyd yn un oedd yn talu ar ei ganfed, wrth iddi weld cleifion yn gwella o'r feirws.
Mae Lynda nawr yn annog eraill sydd â diddordeb i fynychu un o'r diwrnodau agored ar-lein sy'n cael eu trefnu gan Brifysgol Bangor ar Fehefin 26 a Gorffennaf 10 ble y gall unrhywun sydd â diddordeb mewn clywed am gyrsiau nyrsio neu unrhyw gwrs arall sgwrsio â staff a myfyrwyr, gwylio fideos a chyflwyniadau a chymryd teithiau rhithwir o'r campws a'r llety.
Meddai, "Roeddwn ar y ward Covid yn syth wedi i mi raddio ac roedd 'na bobl sâl dros ben yno.
"Yn ffodus iawn, cefais y cyfle i weithio yn yr ysbyty cyn i mi raddio fel nyrs - dwi ddim yn rhy siwr os fyswn i wedi medru ymdopi yn syth o'r ysgol."
"Ond roedd yn beth arbennig iawn i weld cleifion yn gwella ac yn cerdded allan o'r ward - roedd yn gwneud i chi deimlo eich bod chi'n gwneud eich gwaith.
"Helpu pobl yw'r peth gorau, mae popeth arall jest yn 'bonus', a'r gwirionedd gyda nyrsio yw eich bod chi wastad yn dysgu.
"Mae 'na o hyd rhywbeth newydd. Does 'na byth gyfla i orffwys ar eich rhwyfa'.
"Fel nyrsus, 'da ni gyd yn yr un cwch, a 'da ni'n cefnogi ein gilydd."
Roedd Lynda, sydd o Faesgeirchen, Bangor, wedi bod yn weithiwr cefnogi gofal iechyd yn yr ysbyty ers saith mlynedd pryd gafodd hi'r cyfle i gofrestru ar gwrs rhan-amser newydd gan Brifysgol Bangor i helpu bobl symud yn eu blaenau o ran gyrfa.
Er iddi ddod i nyrsio'n hwyr i ryw raddau, dyma oedd ei huchelgais ers gadael yr ysgol, ac meddai, "Roeddwn i wastad eisiau bod yn baramedic, ond roedd rhywbeth yn y ffordd bob tro."
Y bwriad oedd astudio gofal iechyd a chymdeithasol yn y coleg wedi iddi adael yr ysgol, ond oherwydd salwch ni chymerodd y cyfle ac yn hytrach cychwynodd ym myd gwaith yn syth.
Meddai, "Fues i'n gweithio fel Gweinyddwr yn Crosville, mewn caffi, mewn siop tsips a wedyn fel gweinyddydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan obeithio gwneud cwrs gyda'r OU i ddod yn weithiwr cymdeithasol.
"Ond wedyn daeth y swydd gweithiwr gofal iechyd i fyny, a dyna lle roedd fy nghalon i, felly es i am hwnnw."
Ers dechrau fel weithiwr gofal iechyd mae Lynda wedi cael dau o blant gyda'i phartner David, Efa, saith a Cai, pedwar, a cafodd ei derbyn ar y cwrs nyrsio cyn i Cai fod yn un oed.
Meddai, "Fyddai ddim wedi bod yn bosib i mi wneud y cwrs pe tasai ddim yn rhan-amser, gan fod Cai wedi bod yn reit sâl a treulio amser yn yr ysbyty gyda phroblemau anadlu, ond mae David a mam a dad wedi bod yn ffantastig o ran fy helpu i."
"Mae Cai yn well rŵan, ond dal yn cael ffitiau. Mae o yn Ysgol y Garnedd, Bangor ac mae 'na uned arbennig yno sydd wedi ei helpu. Rydym hefyd yn gobeithio y ceith o driniaeth yn Alder Hey yn Lerpwl."
Yn 2018 roedd Lynda yn rhan o'r grŵp cyntaf ar y cwrs, sydd wedi ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru ers 2018. Mae'r cwrs wedi mynd o nerth i nerth, gyda'r rhifau yn mwy na dyblu ers y grwp cyntaf o 14 ac mae'r diwrnodau agored gan y Brifysgol yn rhan o'r cyfnod nesaf i recriwtio ar gyfer y cwrs 2022.
Meddai Arweinydd y Cwrs, Gill Truscott, dderbyniodd wobr Addysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu o dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor, "Cefais fy mhenodi i lansio'r cynllun yma ac mae wedi bod yn fraint - alla i'm pwysleisio digon faint dwi'n edmygu cadernid ac ymroddiad y myfyrwyr.
"Roedd Lynda yn un o'r grwp cynta' un - astudiodd drwy'r pandemic Covid, ond weithiodd bawb drwyddi a gwneud yn arbennig o dda - rwy'n llawn edmygedd o ymrywmiad pob un o'r myfyrwyr ac yn falch iawn o bob un ohonynt.
"Pan ddaeth Lynda am gyfweliad, roedd yn amlwg fod ganddi botensial i fod yn nyrs gofrestredig.
"Mae gweithwyr cefnogol sy'n gwneud y rhaglen yn dod â llond lle o brofiadau a gwybodaeth clinigol gyda nhw, ac rydym yn eu hannog nhw i rannu a datblygu rheiny yn ystod eu cyfnod yn hyfforddi fel nyrs cofrestredig.
"Rhan o lwyddiant y cynllun yw'r cydweithio rhwng Prifysgol Bangor, Coleg Llandrillo a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n bwysig o ran llwyddiant y cwrs a'r gallu i gefnogi myfyrwyr drwy gydol y cwrs.
"Roedd yn fraint derbyn y wobr am addysgu - nid yr ennill oedd yn bwysig i mi, ond yn hytrach fod y myfyrwyr wedi cymryd yr amser i fy enwebu i a meddwl amdana i, hynny oedd y deyrnged mwyaf arbennig, oedd yn golygu cymaint."
Meddai Lynda, "Mi wnes i fwynhau'r cwrs oedd yn cynnwys 14 ohonom ni i gyd, ar draws Gogledd Cymru. Roedd y rhan fwyaf dros 30 ac mi wnes i lwyddo i raddio'n gynt nag yr oeddwn wedi disgwyl gwneud.
"Gyda dau o blant bach, fyswn i ddim wedi medru fforddio mynd ar gwrs llawn-amser felly roedd hyn yn berffaith ar fy nghyfer i, roeddwn yn medru cael fy nhalu a chymhwyso - 'win-win' go iawn.
"Dwi wastad wedi bod eisiau edrych ar ôl pobl, felly mae bod yn nyrs yn rhywbeth roeddwn i rili eisiau ei wneud ac mae gwneud y cwrs yma'n golygu mod i wedi medru cyflawni hynny.
"Dwi yn hoffi cyflymdra yr Adran Argyfwng a hefyd nyrsio clefyd siwgr gan ei fod yn gyflwr mor gymhleth ac anodd pryd mae pobl yn dod i mewn, ma' nhw mor sâl ond mae'n braf eu gweld nhw'n gwella ac yn cael mynd adra."
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal dau Ddiwrnod Agored rhithwir ble y bydd manylion llawn o'r ystod eang o gyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys rhai mewn nyrsio, ynghyd â phob agwedd y fywyd myfyriwr - i sicrhau lle yn y digwyddiadau diwrnod agored ewch i https://www.bangor.ac.uk/cy/diwrnodagored
Mae Prifysgol Bangor yn rhedeg pedwar llwybr gwahanol i Nyrsio (Oedolion, Plant, Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl) y gellir eu hariannu gan y GIG ar gyfer myfyrwyr statws ffioedd cartref. Darganfyddwch fwy am Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor ar y dudalen we hon neu os oes gennych ddiddordeb mewn cychwyn ym mis Medi 2021 mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael o hyd ar y mwyafrif o lwybrau a gallwch gofrestru eich diddordeb ar dudalen Clirio Bangor nawr.