Llong Ymchwil Prifysgol Bangor yw’r Prince Madog ac mae’n gyfrwng ymchwil aml-ddefnydd a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer cynnal ymchwil gwyddonol ar hyd morlin Prydain ac ym Môr Iwerddon neu’r Môr Celtaidd. Fe'i defnyddir ar gyfer ymchwil ac i addysgu a hyfforddi gwyddonwyr eigion y dyfodol ym Mhrifysgol Bangor.
Y Prince Madog yw'r unig long ymchwil morwrol yn y Deyrnas Unedig sy’n mynd allan i’r dyfroedd mawr ac sy'n canolbwyntio ar y moroedd 'arfordirol' hanfodol. Y moroedd bas hyn hyd at y silff gyfandirol yw'r rhai y dylanwedir arnynt fwyaf gan weithgarwch dynol - a nhw hefyd yw'r pwysicaf i ni, fel adnodd ar gyfer pysgota ac ynni adnewyddadwy.
Mae'r llong ym Mhrifysgol Bangor wedi chwarae rhan hanfodol wrth addysgu cenedlaethau newydd o wyddonwyr eigion o bob disgyblaeth.
Y llong yw'r ail i ddwyn yr enw yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol – ysgol a sefydlwyd fwy na hanner canrif yn ôl. Hi yw’r unig ysgol un o’i bath yn y Deyrnas Unedig, ac un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.
Llong Ymchwil y Prince Madog
Dywedodd Prif Weithredwr y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, yr Athro Ed Hill CBE, sy’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor:
“Wrth i ni gychwyn ar Ddegawd Gwyddorau Eigion y Cenhedloedd Unedig eleni, mae'n amser arbennig o addas i fyfyrio ar yr 20 mlynedd o wasanaeth godidog i ymchwil forol, addysg a hyfforddiant a ddarparwyd gan Long Ymchwil y Prince Madog ac i edrych ymlaen at y gwaith pwysig sydd eto i'w wneud yn y degawd i ddod, - cynnal yr ymchwil gwyddonol sydd ei angen arnom ni ar gyfer y cefnfor yr ydym ni ei eisiau - cefnfor glân, iach, diogel, cynhyrchiol, rhagweladwy ac ysbrydoledig."
Esboniodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro John Turner, swyddogaeth y llong:
"Yn ogystal â chael ei defnyddio ar gyfer ymchwil flaenllaw'r Brifysgol ei hun, mae hi hefyd wedi cael ei defnyddio gan fyd ddiwydiant, asiantaethau'r llywodraeth a grwpiau ymchwil gwyddoniaeth eraill.
Mae Prifysgol Bangor yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn amrywiol yn fiolegol. Caiff llong y Prince Madog ei defnyddio i gasglu data o'r moroedd o amgylch Cymru. Bydd hyn yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei gofynion tystiolaeth o ran moroedd a physgodfeydd."
Fel yr eglura'r Athro Turner:
“Mae casglu tystiolaeth o'r moroedd o amgylch Cymru yn hanfodol er mwyn cynnal safonau da ein moroedd. Mae hyn yn cynnwys datblygu targedau, dangosyddion, meini prawf asesu a rhaglenni monitro priodol i sicrhau data perthnasol.”
Mae data a gasglwyd gan y Prince Madog nid yn unig wedi llywio gwyddoniaeth a pholisïau llywodraethau - mae hefyd wedi dylanwadu ar a newid cwricwlwm myfyrwyr gwyddorau’r eigion ledled y byd.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor:
“Mae'r Prince Madog wedi bod yn gaffaeliad i Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ym maes addysg ac ymchwil. Mae effaith ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Eigion dros ddegawdau yn rhyfeddol. Mae wedi newid gwyddoniaeth mewn sawl maes, bu’n sail i ail-ysgrifennu gwerslyfrau ac mae wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad cynaliadwy parhaus y moroedd.
Rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o ymchwil arloesol gan y Prince Madog."
Ymysg y canfyddiadau sylweddol sy’n seiliedig ar ddata a gasglwyd gan y Prince Madog dros y ddau ddegawd diwethaf mae:
Diogelu pysgodfeydd cynaliadwy
Defnyddiwyd technegau ymchwil a dadansoddi a ddatblygwyd gan ddefnyddio data gan y Prince Madog i asesu effaith treillio ar wely'r môr. Cymhwyswyd y technegau hyn yn fyd-eang i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy.
Mae'r Prince Madog wedi cyfrannu at ddiogelu cynaliadwyedd ein bwyd môr, o bysgodfeydd cregyn bylchog yn Ynys Manaw, i ddangos nad oedd ffermio cregyn gleision yn cael unrhyw effeithiau negyddol ar rywogaethau eraill a'i fod hefyd yn gwella poblogaethau wystrys.
Hinsoddau morol y gorffennol
Datblygwyd technegau sy'n defnyddio cregyn y môr i ddadansoddi hinsawdd forol y gorffennol ym Mhrifysgol Bangor gan ddefnyddio samplau a gasglwyd o'r Prince Madog ym Môr Iwerddon. Bu hyn o gymorth i ddehongli hinsawdd moroedd arfordirol yn fyd-eang. Bu gwyddonwyr ar fwrdd y llong ymchwil hefyd o gymorth i ddatgelu newidiadau yn lefel y môr mewn graddfeydd amser daearegol ac yn lleol, gan gynnwys nodi pryd yn union y daeth Ynys Môn yn ynys.
Datgelu'r dyfnderoedd cudd
Mae gosod yr offer sonar uwch-dechnoleg ddiweddaraf wedi galluogi gwyddonwyr ar fwrdd y Prince Madog i leoli ac adnabod llongddrylliadau. Trwy astudio sgwriadau a symudiad gwely'r môr o amgylch y llongddrylliadau, gall y gwyddonwyr gynghori'r diwydiant ynni adnewyddadwy morol ar y lleoliadau gorau ar gyfer lleoli tyrbinau gwynt a strwythurau eraill i’w gosod ar wely'r môr.
Rhagweld tywydd a hinsawdd
Bu mesuriadau a gynhaliwyd o ffwrdd dwy long ymchwil y Prince Madog yn allweddol yn natblygiad technegau newydd ar gyfer mesur tyrfedd y cefnfor sy'n cymysgu gwahanol ddyfroedd yn y cefnfor.
Defnyddir y technegau a'r mesuriadau hyn yn fyd-eang wrth ddilysu modelau hinsawdd cefnforol, a ddefnyddir wrth ragfynegi'r tywydd a'r hinsawdd, a chan y diwydiant ynni adnewyddadwy morol.
Dilysu gwybodaeth loeren
Dros yr hanner canrif diwethaf mae lloerennau wedi chwyldroi ein barn am y cefnfor trwy ddarparu delweddau o briodweddau wyneb cefnforoedd cyfain megis tymheredd yr arwyneb. Fodd bynnag, er mwyn i'r mesuriadau hyn fod yn ddefnyddiol, rhaid eu dilysu eto gyda mesurau uniongyrchol o’r cefnfor.
Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, defnyddiwyd mesuriadau a gymerwyd oddi ar fwrdd y Prince Madog ym Môr Iwerddon a Môr Clud i ddilysu mesuriadau lloeren o briodweddau’r moroedd hynny.
Mae Mercher, y Lleuad, a Gwener yn cael eu mapio'n fanylach na gwely môr ein planed ein hunain. Dangosodd asesiadau annibynnol o werth economaidd mapio gwely'r môr o amgylch Iwerddon a Norwy enillion o rhwng £4 a £6 am bob punt a fuddsoddwyd. Yn rhyfeddol, dim ond 40% o ddyfroedd Parth Economaidd Neilltuedig y Deyrnas Unedig ei hun sydd wedi'u mapio'n dda gyda dulliau atseinydd aml-belydr modern. Ymhlith y prosiectau niferus ac amrywiol y mae'r Prince Madog wedi'u cefnogi, mae'r llong wedi gwneud cyfraniadau pwysig at fapio a gwella ein dealltwriaeth o gynefinoedd ar wely Môr Iwerddon, yn enwedig o amgylch Cymru.
Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd y mae astudio ym Mangor wedi’u rhoi imi. Mae dewis gwneud MSc mewn eigioneg ffisegol yn un o’r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud erioed! Ar hyn o bryd rwy'n gweithio yn fy swydd ddelfrydol fel technegydd ymchwil eigioneg yn Bermuda ac ni fyddai hynny erioed wedi bod yn bosibl heb y sgiliau a'r profiad a gefais yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Yn benodol, roedd cael profiad ar fwrdd y Prince Madog yn sicr yn allweddol wrth fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw
Gweithio ar fwrdd y Prince Madog oedd fy mhrofiad cyntaf mewn difrif o fod yn wyddonydd eigion ar y môr (a hefyd o ddioddef gyda salwch môr!). Erbyn hyn, rydw i'n gweithio i'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol yn defnyddio eu fflyd o robotiaid cefnfor, gan eu rhyddhau o longau bach (ac ansad). Mae gweithio ar y Prince Madog yn dadansoddi samplau o ddŵr y môr gan geisio cadw ein hoffer yn llonydd yn un o fy hoff atgofion o wirionedd bod yn eigionegydd arsylwadol!
Roeddwn yn ffodus o gael cais i ymuno â Llong Ymchwil y Prince Madog tra roeddwn yn treulio haf 2003 ym Mhorthaethwy rhwng fy ngraddau BSc ac MSc. Roedd y daith i'r Môr Celtaidd ac er fy mod yn dioddef salwch môr ar y dechrau, mae'n rhaid fy mod wedi gwneud argraff dda gan y gofynnwyd imi a hoffwn i fynd ar ambell daith arall yn ystod y 12 mis nesaf. Roedd y profiadau ar bob arolwg yn amhrisiadwy a bu iddyn nhw feithrin angerdd ynof am arsylwadau a gasglwyd ar y môr. Fe wnes i hefyd gysylltiadau â'r grŵp ymchwil tyrfedd a chymysgu lle arhosais i wneud fy noethuriaeth (roeddent yn union fel teulu!). Yn ystod fy noethuriaeth, roedd cyrchfannau’r arolwg yn llawer llai “pellennig” gan fod y Prince Madog wedi’i angori rhwng Gwesty’r Gazelle a Phier Bangor i gasglu mesuriadau ar y gwelyau cregyn gleision.