Dyma’r 32ain Safle Treftadaeth y Byd, UNESCO yn y DU, a’r pedwerydd Safle Treftadaeth yng Nghymru, ynghyd â Thraphont Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Gweithfeydd Haearn Blaenafon a Chestyll a waliau Trefi Brenin Edward yng Ngwynedd.
Yn ogystal â bod yn rhan annatod o dirwedd ddiwylliannol Gogledd Cymru, mae llechi’r ardal i’w cael ar doeau o amgylch y byd ac mae’r cymunedau a’r diwydiant llechi wedi gwneud cyfraniad at ddatblygiadau diwydiannol o bwys sydd wedi cael effaith yn fyd-eang.
Mae hyn yn benllanw dros 15 mlynedd o waith caled gan y partneriaid, o dan arweiniad Cyngor Gwynedd, i gofnodi, gwarchod a chydnabod etifeddiaeth byw tirwedd llechi Gwynedd a gweddill y byd.
Statws Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
Mae’r cysylltiad sydd gennym â’r diwydiant llechi yn rhan bwysig o’n hanes ni fel sefydliad. Heb weledigaeth a gwaith caled y chwarelwyr a’r cymunedau llechi mae’n bosib na fyddai’r Brifysgol wedi ei sefydlu ym 1884.
Mae iaith, diwylliant a gwerthoedd y cymunedau llechi yn rhan gynhenid o hanes Gogledd Orllewin Cymru ac o’n hunaniaeth.
Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r bartneriaeth a’r gymuned leol dros y blynyddoedd i ddod i gynyddu’r balchder tuag at ein cymunedau chwarelyddol ac i ddefnyddio’r cyfle gogyfer ag adfywiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau chwarelyddol.
Mae Caroline Dinenage, Gweinidog Diwylliant y DU yn disgrifio’r cyhoeddiad fel llwyddiant anferthol sy’n tystio i bwysigrwydd treftadaeth diwydiant llechi Cymru.
Daeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n ymestyn o un pen o’r sir i’r llall, i’r amlwg fel yr un o’r ardaloedd mwyaf blaenllaw yn y byd am gynhyrchu ac allforio llechi yn y 1800au. Mae pobl wedi cloddio llechi yn yr ardal ers dros 1,800 o flynyddoedd a chawsant eu defnyddio i adeiladu rhannau o gaer Rufeinig Segontium yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy. Yna, gyda’r chwyldro diwydiannol a’r twf aruthrol yn y galw am lechi yn sgil twf dinasoedd ledled y byd, cafodd llechi o Wynedd eu defnyddio i doi cartrefi’r gweithwyr, adeiladau cyhoeddus, mannau addoli a ffatrïoedd.
Sefydlwyd y Brifysgol trwy roddion cyhoeddus ac fe’i hagorwyd yn 1884. Rhan o hanes a threftadaeth y Brifysgol yw mai gwerin yr ardal chwarelyddol hon a gefnogodd yr ymdrech i sefydlu’r Brifysgol drwy roddion a thanysgrifiadau.
Byddai William Rathbone, ail Lywydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn dweud yn gyson: “the poor Welsh farmers and quarrymen were, in proportion to their means, the most liberal supporters of the North Wales College, putting those of us who belong to the wealthier and leisure classes to shame by the largesse of their contribution.”
Mae cofrestr o’r tanysgrifiadau a wnaethpwyd i gronfa sefydlu’r Brifysgol gan chwarelwyr Chwarel y Penrhyn, Bethesda ar gael i’w gweld yn Archifdy’r Brifysgol:
Mae'n bosib cael golwg manwl ar y gofrestr ar wefan Casgliad y Werin Cymru