Mae pensetiau rhithrealiti a graffeg gemau fideo chwyldroadol yn cael eu defnyddio gan Brifysgol Bangor i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o radiograffwyr diagnostig yng Ngogledd Cymru.
Campws Wrecsam Prifysgol Bangor oedd y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i archebu rhaglen gyfrifiadurol newydd sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio rhithrealiti i ddysgu sut i wneud profion pelydr-X heb orfod dod i gysylltiad â phelydrau gama niweidiol sy'n achosi canser.
Mae'r system feddalwedd sy’n werth £15,000 ac a ddatblygwyd yn Christchurch, Seland Newydd, bellach yn cael ei defnyddio ar gampws Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y Brifysgol yn Wrecsam a bellach gall y genhedlaeth nesaf o radiograffwyr ddysgu eu crefft yn gyflymach ac yn haws er mwyn helpu i leihau prinder difrifol o radiograffwyr medrus yn y GIG.
Mae'n ail-greu’r peiriant pelydr-X newydd yn rhithiol gan gynnig arbediad ariannol sylweddol - byddai cyfleuster newydd yn costio chwarter miliwn o bunnoedd i’w osod.
Dywedodd Delyth Hughes, Arweinydd Cwrs Radiograffeg Ddiagnostig Prifysgol Bangor: “Fel pob cwrs radiograffeg rydym wedi ein cyfyngu gan faint o brofion pelydr-X gwirioneddol y gall myfyrwyr eu cynnal oherwydd y risg o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio.
“Ond mae’r system rhithrealiti newydd hon yn golygu nad yw’r cyfyngiadau hynny’n berthnasol mwyach oherwydd nad ydym yn gwneud profion pelydr-X go iawn er ein bod dal yn gallu gweld y canlyniadau o hyd.
“Un o’r pethau pwysicaf y mae’n rhaid i fyfyrwyr ei ddysgu yw sut i leoli’r peiriant fel y bydd y pelydr-X yn cael ei gymryd ar yr ongl gywir i ddangos unrhyw broblemau posib sydd gan y claf.
“Trwy ddefnyddio rhithrealiti, gall y myfyriwr leoli claf rhithiol ac yna gweld a yw wedi llwyddo heb i hynny olygu cost nac amlygiad i ymbelydredd.”
Tra bod Prifysgol Bangor ymhlith y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio'r system i hyfforddi radiograffwyr, rydym mewn cwmni da ochr yn ochr â sefydliadau megis Harvard, y brifysgol Ivy League yn yr Unol Daleithiau.
James Hayes, darlithydd mewn delweddu meddygol yn yr Ara Institue yn Canterbury, Seland Newydd, sydd wrth wraidd y syniad ar ôl gofyn i arbenigwyr rhaglennu’r sefydliad ddatblygu’r feddalwedd.
Ef fu’n goruchwylio’r gwaith a dywedodd: “Fe ofynnais iddynt ei wneud i edrych fel ystafell pelydr-X rhithrealiti yn hytrach nag fel gêm rithrealiti. Fe ddwedon nhw 'o fewn rheswm' ac fe ddwedais innau 'wel, peidiwch â dweud o fewn rheswm, beth am i ni ddweud ein bod am ei wneud yn union yr un fath.
“Bydd yn golygu y bydd gan fyfyrwyr lawer mwy o brofiad clinigol wrth gyrraedd yr ysbyty nag y bydd unrhyw un arall yn y byd wedi’i gael o’r blaen.”
Yn y cyfamser mae Prifysgol Bangor wedi cynyddu faint o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf y mae yn eu derbyn ar y cwrs radiograffeg gan 25 y cant, i 35, er mwyn helpu i gwrdd â’r prinder radiograffwyr yn y GIG.
Ychwanegodd Delyth Hughes: “Fel arfer, byddai'n rhy beryglus i gynnal profion pelydr-X yn ddiangen, felly mae'r system yn defnyddio cleifion rhithiol.
“Mae Rhithrealiti’n cynnig ffordd ddiddorol a diogel i’n myfyrwyr ddysgu ac ymarfer oherwydd bod popeth yn union yr un fath ag y mae yn y byd go iawn o ran maint, pellter a gweithdrefnau.
“Os oes angen addasu’r tiwb radiograffeg gall y myfyrwyr gerdded ato, gafael ynddo, pwyso’r botymau priodol, a’i symud.
“Mae rhithrealiti’n cynnig adborth clywedol, gweledol a synhwyraidd felly bydd y myfyrwyr yn gallu gweld a theimlo, yn union fel petaent yn gweithio gyda chlaf go iawn.
“Bydd yn golygu y bydd ein myfyrwyr wedi cael llawer mwy o brofiad o gyflawni’r gweithdrefnau hyn a chan mai dim ond 23 o brifysgolion sy’n darparu cyrsiau radiograffeg mae Bangor yn arwain y ffordd.”
Mae Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor yn darparu ystod o gyrsiau a chymwysterau iechyd a gofal ar ei champws ym Mangor a’i champws yn Wrecsam ac yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ledled Gogledd Cymru.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig rhaglenni ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol mewn ystod o sgiliau a gwasanaethau ar gyfer y GIG ac ar gyfer gwasanaethau gofal preifat.
I gael rhagor o wybodaeth am astudio Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor ewch i www.bangor.ac.uk/health-sciences/index.php.cy