Gwyddoniaeth Cymru yn arwain y byd wrth fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r blaned
Efallai bod Cymru’n wlad fach, ond rydym yn rhagori o ran ansawdd a swm yr ymchwil a wnawn yma. Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 30 Medi, 2021), yn tynnu sylw at gryfder penodol gwyddoniaeth yng Nghymru wrth gyfrannu at ymdrechion i gwrdd â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dangos bod cyfran uchel ar y naw o ymchwil Cymru yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r materion byd-eang sydd wedi eu cynnwys yn y Nodau Datblygu Cynaliadwy, a bod yr ymchwil hon o ansawdd anarferol o uchel. Mae ymchwil Cymru tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy yn cael ei dyfynnu a'i defnyddio gan eraill yn amlach nag ymchwil cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a gwledydd Ewrop.
Cafodd yr adroddiad “Perfformiad Ymchwil Cymru gyda Chymaryddion y DU a Rhyngwladol” ei lansio mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, Peter Halligan.
Mae'r adroddiad hwn yn hynod gadarnhaol. Mae ymchwil o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn dod o hyd i atebion i broblemau anodd, ac mae mor galonogol darllen bod cymaint o ymdrechion ymchwil Cymru yn targedu’r heriau pwysicaf sy'n ein hwynebu, a bod hyn yn arwain y byd o ran ansawdd.
“Un enghraifft hyfryd yw sut mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i fonitro lefelau COVID-19 mewn dŵr gwastraff. Maent yn rhannu'r arbenigedd hwn gyda phartneriaid lleol a phartneriaid rhyngwladol ledled y byd, fel y gall y wyddoniaeth newydd hon helpu i fynd i'r afael â'r pandemig mewn gwahanol gyd-destunau.
Cytunwyd ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy gan holl aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig yn 2015 fel galwad frys am weithredu gan bob gwlad. Maent yn cydnabod bod rhoi terfyn ar dlodi yn gorfod digwydd law yn llaw â strategaethau sy'n gwella iechyd ac addysg, yn lleihau anghydraddoldeb, ac yn sbarduno twf economaidd - hyn oll tra’n mynd i'r afael hefyd â newid yn yr hinsawdd a gweithio i warchod ein cefnforoedd a'n coedwigoedd.
Dywedodd Dr Rattan Yadav o Brifysgol Aberystwyth:
“Yn IBERS gwneir amrywiaeth fawr o brojectau, ac un ohonynt yw gweithio gyda phartneriaid yn India ac yn Affrica i ddatblygu mathau newydd o filed perlog, sydd yn brif fwyd, a all helpu i leihau’r risg o ddiabetes - mae hyn yn cyfrannu tuag at Nod Datblygu Cynaliadwy 2 - Dim Newyn a Nod Datblygu Cynaliadwy 3 - Lles ac Iechyd Da. ”
Meddai’r Athro Carole Llewellyn, o Brifysgol Abertawe:
“Mae Prifysgol Abertawe yn tyfu microalgâu gan ddefnyddio maetholion gwastraff o ddiwydiannau ffermio a bwyd a ddefnyddir wedyn i gynhyrchu cynhyrchion newydd megis bwyd anifeiliaid. Felly wrth weithio gyda ffermwyr, diwydiant a llunwyr polisi rydym yn lleihau gwastraff ac yn disodli cynhyrchion anghynaliadwy gyda chynhyrchion mwy cynaliadwy. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o'r Nodau Datblygu Cynaliadwy gan gynnwys treuliant cyfrifol a gweithredu er mwyn yr hinsawdd."
Ymhlith y Nodau Datblygu Cynaliadwy, mae ymchwil Cymru yn gwneud cyfraniad arbennig o gryf i'r nodau sy'n ymwneud â'r blaned megis Nodau Datblygu Cynaliadwy 13, Gweithredu er mwyn yr Hinsawdd, 14, Bywyd Tanddwr, a 15, Bywyd ar y Tir.
Dywedodd yr Athro Mike Bruford o Brifysgol Caerdydd:
“Mae'r adroddiad hwn yn gadarnhaol iawn gan ei fod yn pwysleisio bod ymchwil sy’n cael effaith, ym meysydd gwyddorau’r amgylchedd a gwyddorau cynaliadwyedd, hefyd yn llwyddo yn fyd-eang ac yn cynyddu amlygrwydd ymchwil Cymru. Yng Nghaerdydd rydym wedi ceisio canolbwyntio ar ymchwil amlddisgyblaethol i wyddorau’r amgylchedd, yng Nghymru ac mewn rhanbarthau allweddol ledled y byd, ac mae'n dda gweld bod y gymuned ymchwil fyd-eang yn cydnabod hyn.”
Ffactor hanfodol yn llwyddiant Cymru yw cymaint y mae ymchwilwyr yn cydweithredu ar draws ffiniau a sectorau. Mae ymchwil o Gymru yn fwyaf effeithiol pan fo ymchwilwyr o Gymru’n gweithio ar y cyd ag eraill, ni waeth ym mhle nac o ba sector, gan ddangos mor gynhyrchiol fu blynyddoedd o rwydweithio’n rhyngwladol.
Gyda COP26 ychydig dros fis i ffwrdd, mae’r adroddiad hwn yn ddiddorol iawn ac roeddwn mor falch o weld y cyfraniad y mae ein gwyddonwyr yn parhau i’w wneud i ddatrys problemau byd-eang.
“Boed hynny yn helpu i fynd i'r afael â phandemig Covid neu fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd, mae'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir bod Cymru yn chwarae rhan anghymesur o gryf mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
“Mae Cymru’n gydradd gyntaf o ran effaith ei hymchwil, 130% yn uwch na chyfartaledd y byd o ystyried yr holl gymaryddion a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad, gan ein gwneud yn arweinydd byd-eang mewn ymchwil sy’n gysylltiedig â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddyfnder ac ehangder yr ymchwil a’r dalent sydd gennym yma yng Nghymru a’n cryfderau ym meysydd pobl, y blaned a ffyniant.
Mae Rhwydwaith Ymchwil Ynni ac Amgylchedd Carbon Isel Cymru wedi dod â chasgliad o astudiaethau achos ynghyd i ddangos dyfnder ac ehangder yr ymchwil ragorol sy'n digwydd yng Nghymru sy'n cyfrannu at yr heriau byd-eang pennaf y mae cymdeithas yn eu hwynebu.
Menter ymchwil Cymru gyfan yw Rhwydwaith Ymchwil Ynni ac Amgylchedd Carbon Isel Cymru sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol Bangor er mwyn cefnogi’r ymchwil flaenllaw a wneir yng Nghymru ym maes ynni carbon isel, atebion ar sail natur i heriau amgylcheddol, bioeconomi, a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Ei nod yw datblygu ymhellach yr ymchwil ragorol a wneir yng Nghymru a’i gyfoethogi, a chynyddu’r cyllid cystadleuol a ddaw i Gymru.