Ysgoloriaeth i Elin
Llongyfarchiadau enfawr i Elin Owen, myfyrwraig y Gyfraith yn ei blwyddyn gyntaf, ar dderbyn hanner Ysgoloriaeth Dafydd Tudur. Mae’r Ysgoloriaeth, sy’n werth hyd at £1,000 yn cael ei dyfarnu’n wobr gan Gymdeithas y Gyfraith Gwynedd er cof am Dafydd Tudur, cyfreithiwr ifanc, galluog, a phoblogaidd o Forfa Nefyn a fu farw yn 2015.
Rydym fel Ysgol yn falch iawn o lwyddiant Elin.
![Llun o Elin Owen](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2021-12/elinowen_0.jpg?itok=KROuBbHB)