COP26: Green Shoots or Storm Clouds? – recordiad o'r ddarlith gyhoeddus ar gael
Mae partneriaeth gyfoethog wedi datblygu ers canol y 1980au rhwng Prifysgol Bangor a Changen Menai, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig. Mae’r ddau gorff yn rhannu nifer o egwyddorion sylfaenol sy’n cael eu tanlinellu mewn darlithoedd cyhoeddus blynyddol a noddir ar y cyd gan y ddau. Dros y blynyddoedd cafwyd gwledd o ddarlithoedd ar faterion o bwys gan arbenigwyr o bell ac agos.
Y llynedd traddodwyd y ddarlith dros Zoom gan yr Athro Julia Jones o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol wrth iddi edrych ymlaen at gynhadledd COP26 yn Glasgow. Eleni tasg yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones oedd pwyso a mesur effaith y gynhadledd honno ar yr argyfwng newid hinsawdd. Cyflwyniad Gareth oedd darlith gyhoeddus gyntaf Bangor ar ffurf hybrid. Denwyd cynulleidfa fyw yn Narlithfa Eric Sunderland gan, ar yr un pryd, gyrraedd cynulleidfa niferus dros Zoom.