Creu amgylchedd cystadleuol
Mae cynnal mantais gystadleuol wedi bod yn broses barhaus bwysig i fusnesau erioed.
Mae busnesau wedi gorfod addasu dros y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig oherwydd y pandemig, ond hefyd oherwydd y datblygiadau mewn technoleg ac ati. Mae'r newidiadau cyflym hefyd wedi newid a datblygu anghenion a dymuniadau defnyddwyr sy'n golygu bod busnesau wedi gorfod gwario mwy o adnoddau, megis amser ac arian, i ddiweddaru eu dealltwriaeth o'r ffyrdd gorau o fodloni eu defnyddwyr mewn amgylchedd sy'n newid yn barhaus.
Ond yn y farchnad heddiw, dylai cwmnïau geisio canolbwyntio ar y farchnad, sy'n golygu y dylent nid yn unig geisio deall eu defnyddwyr ond deall eu cystadleuwyr hefyd. Trwy ddeall eu cystadleuwyr, gall busnesau ennill cyfran o'r farchnad/teyrngarwch defnyddwyr trwy nodi unrhyw fylchau yn y farchnad.
Gall creu mantais gystadleuol fod yn ddryslyd a gall rhai busnesau ei chael yn anodd deall ble i ddechrau, gan gynnwys pa wybodaeth y dylent fod yn ei chasglu a sut y gall hynny eu helpu i fod yn fwy cystadleuol.
Rhaid i fusnesau sylweddoli bod eu cystadleuaeth wedi newid neu am newid, ac felly ni ddylent ddibynnu ar ddata a gasglwyd yn y gorffennol, ond dylent geisio casglu data perthnasol a chyfredol yn rheolaidd i fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau pwysig.
Isod mae pum awgrym i helpu busnesau i ddatblygu strategaeth gystadleuol.
Cam 1:
Deall y defnyddiwr yw un o'r gwersi cyntaf y dylai perchennog busnes ei dysgu. Ond trwy ddeall y cystadleuydd, gall busnesau sicrhau eu bod yn datblygu cynnyrch/gwasanaethau y mae eu marchnad darged yn ei ddymuno a'i angen a byddant yn gallu ymchwilio i'r dulliau y mae'r cystadleuwyr yn eu defnyddio i hyrwyddo'r cynhyrchion a'r gwasanaethau hyn.
Cam 2:
Unwaith y bydd busnes yn adnabod ei gystadleuwyr, gall wedyn edrych ar amcanion eu cystadleuwyr a sut gall y busnes amrywio i'w helpu i fod yn fwy cystadleuol. A all y busnes fod yn wahanol o ran ansawdd, pris, amseroedd dosbarthu ac ati? Beth yw strwythurau ariannol y cystadleuwyr, h.y. a oes ganddynt fuddsoddwyr, grantiau, cefnogaeth ymchwil a datblygu? Mae hyn yn bwysig, oherwydd os yw busnes eisiau bod yn gystadleuol, efallai y bydd yn cael trafferth gwneud hynny os nad oes adnoddau tebyg ar gael iddo.
Cam 3:
Unwaith y bydd busnes yn glir ynglŷn â phwy yw ei gystadleuwyr, gan gynnwys ei amcanion a'i strwythur ariannol, gall wedyn ddechrau canolbwyntio mwy ar ei gryfderau a'i wendidau. Gall cryfderau cystadleuwyr fod yn wersi i fusnes, rhywbeth y gallant ddysgu ohono. Gall cryfderau fod yn amrywiaeth o elfennau megis presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, gwasanaeth cwsmeriaid, amseroedd dosbarthu ac ati. Ond wrth edrych ar wendid cystadleuydd, gall busnes ddod o hyd i gyfle neu fwlch y gall fanteisio arno. Eto, gall cryfderau fod yn amrywiaeth o elfennau megis diffyg presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, gwasanaeth cwsmeriaid gwael, amseroedd dosbarthu ac ati.
Dylai busnesau edrych ar eu cryfderau eu hunain a gweld a ydynt yn gallu llenwi'r bylchau a nodwyd. Ond dylent hefyd geisio cryfhau eu gwendidau eu hunain fel na bod modd i gystadleuwyr fanteisio ar y gwendidau hynny.
Cam 4:
Mae'n bwysig nad yw busnesau yn casglu'r wybodaeth hon unwaith yn unig a meddwl wedyn y bydd yn berthnasol yn barhaus. Os yw busnes eisiau parhau i fod yn gystadleuol, rhaid casglu'r data hwn yn barhaus. Rhaid i fusnesau fanteisio ar y wybodaeth a gasglwyd drwy sicrhau bod yr adrannau cywir yn cael eu hysbysu o’r canfyddiadau sy’n golygu y gellir ei defnyddio yn y modd mwyaf effeithlon posib – i greu mantais gystadleuol.
Cam 5:
Mae’n bwysig iawn penderfynu gyda phwy i gystadlu. Mae'n bosib na fydd busnesau eisiau mynd yn erbyn y cystadleuydd sydd â'r gyfran fwyaf o'r farchnad. Mae'n bosib bod mwy o adnoddau ar gael i’r cystadleuwyr hyn a hyd yn oed gydnabyddiaeth brand gryfach a fydd yn ei gwneud yn anodd iawn cystadlu. Ar y llaw arall, er y gall cystadlu â'r cystadleuydd lleiaf gymryd llai o amser ac arian, efallai na fydd yn rhoi fawr o fantais gystadleuol gan nad oes llawer i'w ennill fel arfer.
Ac yn olaf…..
Gellir ystyried bod ymchwil i’r farchnad yn cymryd llawer o amser ac yn gostus, ond o'i wneud yn gywir gall fod yn werth chweil. O gymryd cam yn ôl, gall deall yr amgylchedd marchnata a’r amgylchedd cyfnewidiol i gystadleuwyr a defnyddwyr gefnogi busnesau i dyfu’n gryfach yn y tymor hir.
Dr Charlotte Doyle