Y myfyrwyr ymchwil eithriadol eleni sydd wedi gwneud cyfraniad academaidd, diwylliannol neu gymdeithasol eithriadol at y brifysgol yw Beverley Pickard-Jones a Veronica Diveica, ill dwy yn astudio seicoleg yn Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol.
Beverley Pickard-Jones, sydd wedi ennill Medal Arian Cwmni’r Brethynwyr. Mae Beverley o Gyffordd Llandudno yn frwd am addysgu, ac enillodd Gymrodoriaeth yr AAU a gwobrau mewnol ac allanol yn ystod ei doethuriaeth. Mae hi'n datblygu enw da yn academaidd trwy gyhoeddi mewn cyfnodolion o safon uchel a adolygir gan gymheiriaid ac yn y wasg leyg, cyflwyno mewn cynadleddau, a dechrau projectau cydweithredol rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi dyfeisio arbrawf newydd, a allai o bosib fod yn ddull clinigol o asesu diffygion canfyddiad o ddyfnder. Yn ogystal â’i hymchwil, mae wedi cyflwyno sawl menter gyflogadwyedd i baratoi israddedigion at yrfa mewn diwydiant ac wedi cyflwyno seminarau arbenigol ar yrfaoedd proffesiynol a methodolegau ystadegol i fyfyrwyr doethurol.
Mae Beverley wedi trefnu gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd i gynyddu effaith ei hymchwil a chodi proffil Prifysgol Bangor trwy ymgysylltu â grwpiau cymunedol a chreu cyfleoedd i’r cyhoedd gael gwybod am ymchwil a chymryd rhan mewn ymchwil. Cyd-drefnodd hefyd ddwy gynhadledd ddoethurol a threfnodd gyfres o sesiynau ysgrifennu i fyfyrwyr doethurol yn y brifysgol. Fel cynrychiolydd cwrs, mae hefyd wedi cynrychioli ei chyd-fyfyrwyr dros nifer o flynyddoedd.
Meddai Dr Ayelet Sapir, goruchwyliwr doethuriaeth Beverley, “Mae Beverley yn aelod gwerthfawr iawn o’n hysgol. Mae ei chyfraniad yn enfawr, mae wedi cael cydnabyddiaeth am ragoriaeth mewn addysgu, goruchwylio myfyrwyr yn annibynnol, a threfnu seminarau cyflogadwyedd i fyfyrwyr, gan ddangos ei photensial i ddatblygu’n addysgwr ac ymchwilydd uchel ei pharch.”
Dyfarnwyd medal Efydd Cwmni’r Brethynwyr i Veronica Diveica, o Rwmania, sy'n fyfyrwraig ddoethurol.
Mae Veronica eisoes wedi ennill ysgoloriaeth ymchwil PhD DTP gystadleuol ESRC Cymru a grantiau eraill, gan gynnwys ysgoloriaeth gan Raglen Gyfnewid Ddoethurol Globalink UKRI-Mitacs i ymgymryd ag interniaeth ymchwil yng Nghanada. Mae hi wedi ysgrifennu tri phapur ymchwil mewn cyfnodolion o safon uchel a adolygir gan gymheiriaid, wedi cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol, ac wedi ennill tair gwobr academaidd sefydliadol yn ogystal â gwobr ôl-radd genedlaethol gan Gymdeithas Niwroseicolegol Prydain.
Mae Veronica yn gweithio'n galed i gefnogi ei chyfoedion a chynrychioli'r gymuned ehangach o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y Deyrnas Unedig trwy wirfoddoli ar bwyllgorau lleol a chenedlaethol. Mae’n cyfrannu at y gymuned ddysgu ym Mangor, gan weithredu fel mentor ysgrifennu academaidd, goruchwyliwr traethawd hir a hyfforddwraig raddedig, ac enillodd Wobr Athro/Athrawes Ôl-radd y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn 2022.
Meddai ei goruchwyliwr, Richard Binney, “Mae Veronica eisoes wedi dangos ei bod yn ymchwilydd rhagorol sydd â photensial mawr i fod yn arweinydd ym maes niwrowyddoniaeth, yn ogystal â bod yn fentor ysbrydoledig i genedlaethau’r dyfodol. Nodweddion ei phrojectau ymchwil yw defnyddio'r fethodoleg ddiweddaraf a safonau uchel o dryloywder a thrylwyredd. Mae hi wedi dod yn ymchwilydd medrus iawn sy’n defnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol i ymdrin â gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol, ac mae hi eisoes wedi creu sawl cydweithrediad rhyngwladol sy’n adlewyrchu hynny. Mae Veronica hefyd yn ysgolhaig rhagorol o ran ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth gwirfoddol i’r gymuned academaidd a’r gymuned fyfyrwyr.”
Meddai Caroline Bowman, Pennaeth Dros Dro Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol: “Mae’r ffaith bod y ddwy fedal wedi eu dyfarnu i fyfyrwyr o’n hysgol yn dangos gallu ac ymrwymiad eithriadol ein myfyrwyr, rydym yn falch iawn o gael cymuned ôl-radd mor fywiog ym Mangor!”