Beth yw’r ffordd orau i’n hannog i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddechrau sgwrs mewn siop neu swyddfa?
Sut allwn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd? Rhaid i bobl sy’n siarad Cymraeg a Saesneg ddewis pa iaith i’w siarad mewn amryw o sefyllfaoedd, a gall nifer o bethau effeithio ar y penderfyniad hwn. Er enghraifft, fe all siaradwyr Cymraeg ddatblygu tuedd i ddechrau sgyrsiau yn Saesneg am eu bod yn teimlo'n ddihyder wrth ddefnyddio'r iaith, neu am eu bod yn ofni nad yw eraill yn eu deall. Drwy ddatblygu dealltwriaeth o sut y gallwn ysgogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, gallwn gefnogi nod Llywodraeth Cymru i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
Cynhaliodd darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ymchwil i ddarganfod pa giwiau sydd fwyaf effeithiol o ran ysgogi pobl i ddechrau sgyrsiau yn Gymraeg mewn siopau, swyddfeydd, a mannau cyhoeddus eraill.
“Gall ciwiau gweledol annog pobl ddwyieithog i ddewis un iaith dros iaith arall, ac roeddem am ddarganfod os ydi’r logo ‘Iaith Gwaith’ yn ffordd effeithiol o annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg,” esboniodd Dr Awel Vaughan-Evans, sy’n ddarlithydd mewn Seicoleg.
Mae siaradwyr Cymraeg yn gyfarwydd â’r logo Iaith Gwaith, sy’n nodi eich bod yn gallu siarad Cymraeg wrth siarad â rhywun mewn siop neu wasanaeth. Cyflwynwyd y logo (swigen oren sy’n nodi fod unigolyn yn siarad Cymraeg) gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2005, gydag oddeutu 50,000 o fathodynnau, cortynnau gwddf, a phosteri yn cael eu dosbarthu’n flynyddol. Bellach Comisiynydd y Gymraeg sydd yn gyfrifol am y Cynllun hwn, ac am ddosbarthu nwyddau Iaith Gwaith.
Esboniodd Awel ymhellach: “Roeddem eisiau profi pa adnodd oedd fwyaf effeithiol fel ciw i annog pobl i ddechrau sgwrs yn Gymraeg. Cymerodd bedwar deg wyth o bobl ran yn yr astudiaeth, ac roedd y mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
Y prif ganlyniad oedd bod pobl yn fwy tebygol o ddewis Cymraeg fel iaith i’w siarad pan oedd y logo Iaith Gwaith yn bresennol na phan nad oedd y logo yn bresennol. Roedd y logo yn effeithiol ar ffurf poster a chortyn gwddf, ond roedd y cortyn gwddf yn fwy effeithiol na’r poster ar ben ei hun.”
Yn ogystal â darganfod y ffordd orau o annog siaradwyr Cymraeg i ddewis a defnyddio’r Gymraeg yn gyntaf, mae’r ymchwil hwn wedi ychwanegu at ddealltwriaeth seicolegwyr o’r mathau o giwiau a all effeithio ar ddefnydd iaith unigolion dwyieithog.
Ychwanegodd Awel, “Roedd hi’n ddiddorol darganfod fod y ciwiau gweledol hyn yn gallu dylanwadu ar ddewis iaith unigolion, ond rhaid ystyried y cyd-destun. Cafodd yr ymchwil ei gynnal yma ym Mhrifysgol Bangor, prifysgol ddwyieithog yng Ngwynedd, lle mae 76% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl. Byddai’n ddiddorol ailadrodd yr astudiaeth mewn ardal gyda chyfradd dipyn is o siaradwyr Cymraeg.”
Meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, ‘Mae bathodyn Iaith Gwaith, wnaeth ddathlu ei ben blwydd yn 15 oed yn ddiweddar, wedi ennill ei blwyf yng Nghymru bellach. Mae’n gynllun pwysig, sy’n galluogi gweithwyr sy’n medru cynnig gwasanaeth Cymraeg i’r cyhoedd ddangos hynny’n glir drwy wisgo cortynnau gwddf neu fathodyn. Rydym wedi gweld nifer o ddysgwyr y Gymraeg hefyd yn defnyddio’r bathodyn er mwyn mynd ati i ymarfer a siarad yr iaith.
‘Mae’n dda cael deall mwy, o’r ymchwil annibynnol hwn, am y ffordd y mae’r bathodyn oren yn medru annog pobl i ddefnyddio’r iaith mewn amryw o sefyllfaoedd. Rwy’n falch o weld hefyd, bod pobl yn fwy tebygol o ddewis Cymraeg fel iaith i’w siarad pan fod y bathodyn yn bresennol. Mewn ysbytai, siopau, archfarchnadoedd, busnesau a mudiadau o bob math, mae angen i bobl deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r iaith, er mwyn i ni fedru cynyddu’r nifer o bobl sy’n medru siarad, ac yn awyddus i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd.’