Myfyriwr o Ysgol Busnes Bangor yn ennill gwobr fawreddog
Rydym yn hapus i gyhoeddi bod ein myfyrwyr graddedig MBA Rheolaeth Amgylcheddol Richard Hughes wedi ennill Myfyriwr Eithriadol y Flwyddyn y Sefydliad Rheolaeth Siartredig 2022 yng Nghinio Gwobrau a Llywydd CMI 2022, a chymerodd le yn Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain ar y 22 Tachwedd 2022.
Dywedodd Dr Clair Doloriert (Arweiniol CMI Ysgol Busnes Bangor) “Rydym yn hynod o falch i glywed am lwyddiant arbennig Richard – mae'r wobr yn cydnabod ei wytnwch, ei ymroddiad i ddysgu a’i rhagoriaeth mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth. Mae cael un o’n myfyrwyr i ennill y wobr hon wir yn dangos ansawdd ein darpariaeth CMI yn Ysgol Busnes Bangor, a’n perthynas sy’n parhau i gryfhau gydag ein Partneriaid CMI a CMI Cymru”.
Ar ei LinkedIn dywedodd Richard, “Diolch i’r tîm anhygoel o Ysgol Busnes Bangor, yn enwedig Clair Doloriert a fu’n allweddol wrth wneud y profiad dysgu yn ystod fy MBA yn eithriadol. Roedd y seremoni yn anhygoel, roedd yna deimlad gwirioneddol o deulu a chyfeillgarwch yn yr ystafell, cefais y pleser o gwrdd â phobl wych. Mae'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig yn sefydliad anhygoel ac rwy'n falch o fod yn aelod. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r trefnwyr, nid wyf yn meddwl y byddaf byth yn bwyta fy nghinio o dan sgerbwd morfil anferth eto, roedd hi'n ddigwyddiad anhygoel o’r dechrau i’r diwedd!”