02/23 Diwrnod Amser i Siarad Chwefror
Cafodd dau ddigwyddiad wyneb-yn-wyneb eu cynnal i staff ddathlu Diwrnod Amser i Siarad yr wythnos ddiwethaf. Y cyntaf oedd cyfle i gydweithwyr gwrdd â'n Rhwydwaith Lles Staff yn Pontio dros goffi a bisgedi, i glywed am ein cynlluniau a'n gweithgareddau i hybu lles staff. Rhannwyd gwybodaeth am ein Lolfa Menopos, y Clwb Llyfrau Lles Staff sydd ar y gweill (gwyliwch y gofod!), llwyddwyd i recriwtio rhai Hyrwyddwyr Llesiant newydd a siarad am ddarpariaeth y Cymhellwyr Lles. Diolch i'r rhai ohonoch a ddaeth draw i ddweud helô!
![Time to Talk Graphics](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2023-04/MicrosoftTeams-image%20%284%29.png?h=f61cd18f&itok=CKWpXi3B)
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw fe ymunon ni â Natalie, Rosie ac Alex yn Nhreborth i blannu eirlys yng nghwmni cydweithwyr o bob rhan o'r brifysgol. Manteisiwyd ar y cyfle hamddenol yma i wneud cysylltiadau newydd a chael ein dwylo'n fudr, gan gefnogi gwaith gwych tîm Treborth. Diolch enfawr i bawb ohonoch ddaeth draw ac i Tatenda Shonhiwa o’r tîm Bywyd Preswyl am yrru cydweithwyr i'r Gerddi yn y bws mini!
Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles
![People gardening](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2023-04/KHkjY5Tv9t372h.jpg?h=f72de884&itok=km9VtQ28)